Ffwmarol
Math | ffenomen folcanig, tirffurf |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Twll yng nghramen y Ddaear sy'n rhyddhau stêm a nwyon i'r atmosffer yw ffwmarol. Mae'r stêm yn cael ei ffurfio pan fydd dŵr daear wedi'i dra-phoethi yn cyddwyso wrth iddo ymddangos i'r awyr. Mae'r nwyon yn debygol o gynnwys carbon deuocsid, sylffwr deuocsid, hydrogen clorid, a hydrogen sylffid. Gall ffwmarolau ddigwydd ar hyd craciau bach, ar hyd holltau hir, neu mewn clystyrau anhrefnus.
Mewn rhai rhannau o'r byd, mae ffwmarolau yn allyrru anweddau sylffyraidd sy'n ffurfio dyddodion arwynebol. Gellir eu cloddio yn fasnachol.
-
Ffwmarol yn Námafjall, Gwlad yr Iâ
-
Ffwmarol ar ochr llosgfynydd mud Solfatara ger Napoli, yr Eidal, sydd wedi dyddodi sylffwr ar y creigiau
-
Ffwmarolau ar ochr llosgfynydd Mynydd Fourpeaked, Alaska