Albinedd

Oddi ar Wicipedia
Albinedd
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, clefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Albinedd
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, clefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyflwr etifeddol yw albinedd, sy'n golygu na all y corff gynhyrchu digon o felanin. Gall hyn arwain at groen a gwallt gwyn, ac achosi i'r llygaid edrych yn binc. Mae'r irisau yn glir mewn gwirionedd, ond mae'r modd y mae golau'n adlewyrchu o'r llygaid yn gwneud iddynt ymddangos yn binc. Mae albinioaid yn gallu dioddef o olwg gwael o achos hyn.

"Pluen Eira", sef pengwin gyda'r cyflwr albinaidd arno, mewn sŵ ym Mryste; bu farw yn Awst 2004

Ystrydebau[golygu | golygu cod]

Mae llawer o ystrydebau celwyddus wedi tyfu'r o'r cyflwr anghyffredin hwn; dyma rai enghreifftiau:-

"Mae gan albinoaid hyd oes fer" - Mae gan albinoaid hyd oes normal, er bod eu bod yn fwy tebygol o gael cancr y croen na'r rhan fwyaf o'r boblogaeth.

"Mae albinoaid yn anffrwythlon" - Nid yw hyn yn wir.

"Mae gan albinoaid bwerau hudol" - Nid yw hyn yn wir. Mae'r syniad yma, efallai, wedi codi o'r byd film.

"Gall cysgu ag albino wella'r clefyd HIV" - Chwedl o Frasil yw hon. O achos hyn, mae llawer o fenywod albinaidd yn cael eu treisio.

Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato