Llyn Victoria
![]() | |
Math |
llyn ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Victoria ![]() |
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
African Great Lakes ![]() |
Gwlad |
Tansanïa, Wganda, Cenia ![]() |
Arwynebedd |
68,100 km² ![]() |
Uwch y môr |
1,133 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Tansanïa, Cenia, Wganda ![]() |
Cyfesurynnau |
1°S 33°E ![]() |
Dalgylch |
238,900 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
337 cilometr ![]() |
![]() | |
Un o Lynnoedd Mawr Affrica yw Llyn Victoria neu Victoria Nyanza, hefyd Ukerewe a Nalubaale. Mae rhannau o’r llyn yng ngwledydd Tansanïa, Wganda a Chenia.
Gydag arwynebedd o 68,800 cilmoder sgwar (26,560 mi²), Llyn Victoria yw’r llyn mwyaf ar gyfandir Affrica a’r llyn dwr croyw ail-fwyaf yn y byd o ran arwynebedd. Nid yw’n ddwfn iawn, tua 84 m (276 troedfedd) yn y man dyfnaf, a 40 m (131 troedfedd) ar gyfartaledd. O Lyn Victoria mae Nîl Wen, un o’r ddwy afon sy’n ffurfio Afon Nîl, yn tarddu.
Mae pysgota yn bwysig yn y llyn, ond mae wedi effeithio gan Ddraenogyn y Nîl, (Lates niloticus) nad yw’n byw yn y llyn yn naturiol. Rhoddwyd y pysgodyn yma yn y llyn am y tro cyntaf ym 1954 i geisio gwella’r pysgota, ynghyd a Tilapia’r Nîl (Oreochromis niloticus). Yn y 1980 cynyddodd nifer Draenogyn y Nil yn aruthrol, ac mae nifer fawr o rywogaethau sy’n frodorol i’r llyn wedi diflannu.