Meddygon Isallt Fawr
Teulu estynedig, yn cynnwys nifer sylweddol o feddygon, fferyllyddion ag ati (ynghyd a beirdd ac ysgolheigion eraill), a'i gwreiddyn yn Isallt Fawr, Cwm Pennant, Sir Gaernarfon yw Meddygon Isallt Fawr. Cainc yw'r teulu o deulu ehangach Wynn[1], Cesail Gyfarch[2], Penmorfa, Sir Gaernarfon. Dyma deulu a gynhyrchodd rai pobl o bwys ac a gysylltwyd trwy briodasau ag amryw deuluoedd dylanwadol yng Ngogledd Cymru[1].
Achau'r meddygon[golygu | golygu cod]
Gellir cychwyn gyda Robert ap Richard Owen (Isallt) m1678[3] (ei ferch Jonet oedd y cyswllt a'r genhedlaeth nesaf).
Robert ap Dafydd (Isallt)[3][4] 1654-1738. Priododd hwn dwywaith. Yn gyntaf Jonet ych Robert ap Richard Owen (Isallt)[3] ac yna Catherine Owen[3] (m1750).
Roedd plant Jonet yn cynnwys Gwen ych Robert[3] (m1737) a Dafydd ap Robert[3] (m1732).
Priododd Gwen ych Robert ag Owen Humphrey[3] (Garreg Wen, Y Gest; m1714). Un o'u plant nhw oedd Dafydd y Garreg Wen (1712-1741).
Priododd Dafydd ap Robert â Margaret Cadwaladr (Tyddyn Du Bach; merch Cadwaladr Griffiths m1694) (1692-1775)[3]. Un o'u plant oedd Cadwaladr David[3] (Tyddyn Du; 1727-1810). Ymysg eu disgynyddion yw "Teulu Penybryn", Cricieth, sy'n cynnwys Owen Elias Owen[5] (Bethesda; 1922-2019) a'i ddisgynyddion sy'n cynnwys nifer o feddygon ac hefyd John Bryn Owen[6] (Athro Amaeth Prifysgol Bangor; m 2019).
Roedd plant Catherine Owen (m1750) yn cynnwys Robert Roberts[4] (Isallt; llawfeddyg; 1707-1776; Claddwyd ym mynwent Llanfihangel y Pennant[4]. ). Ymhlith ei tair gwraig oedd Elizabeth Griffith[3] (m1737) a Jane Roberts[3] (Annwyl Isaac; Llanfair, Harlech; o deulu Edmwnd Prys[3]).
Un o blant Elizabeth Griffith (m1737) oedd Griffith Roberts[7] (meddyg; Plas Uchaf, Dolgellau; Casglwr llawysgrifau o bwys (cysylltiadau a'r Hengwrt a’r Myvyrian Archaiology of Wales); 1735-1808). Ymhlith ei blant[4][3] oedd y Dr. Griffith Roberts (meddyg, a ddilynodd ei dad yn Nolgellau tan 1815) a'r Dr. William Roberts (meddyg llynges; m1815).
Ymysg plant Jane Roberts (Annwyl Isaac) oedd John Roberts (Cae'r Groes, Beddgelert; 1745-1803), y Dr. Robert Isaac Roberts[4] (Isallt, Ymwlch ac Ystumllyn; 1742-1809) a'r Dr. William Lloyd Roberts[4] (Oakland, Llanrwst)
Ymysg plant John Roberts (Cae'r Groes) oedd Robert Roberts [4] ("Yr Hen Ddoctor", Chwarel Dinorwig; 1786-1876)* a Griffith Roberts[4] (Cae'r Gors a Doctor Chwarel Llanllyfni; 1785-; bu iddo feibion, Robert Roberts[4], yn Ddoctor yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda a David Roberts[3] (meddyg esgyrn; 1824-)).
Ymysg plant Robert Isaac Roberts (Isallt, Ymwlch ac Ystymllyn; 1742-1809) oedd William Roberts[3] (meddyg esgyrn; Beddgelert; 1779-1838), Gainor Roberts[3] (1788-1862), Griffith Roberts[3] (1773-; ei fab John Jones[3] yn feddyg yn Nhyddyniolyn; m1878), Henry Roberts[3] (meddyg llynges; marw yn ynysoedd Syllan; 1781-1818), Robert Roberts[3] (meddyg, Caernarfon a Chonwy; 1765-), David Roberts (Meddyg Chwarel y Penrhyn, Bethesda; 1785-1869) ac Edward Roberts (meddyg esgyrn, Warrington; 1775-1848; ei fab, Edward Roberts yn feddyg esgyrn ym Mhwllheli; 1818-1895).
Ymysg plant Robert Roberts ("Yr Hen Ddoctor")* oedd William Roberts[3] (meddyg bu farw yn 20 oed), Griffith Roberts[3] (Dinorwig, meddyg llynges), Margaret Roberts[3] (llawfeddyges; Porthmadog; 1815-1879) a John Roberts[4] (Conglywal, Ffestiniog; Doctor Chwareli Ffestiniog; 1812-1869). Priododd John Roberts (Conglywal) ag Elizabeth Roberts (Betsan merch Owen Roberts[4], Gof, Highgate, Ffestiniog; roedd Owen yn feddyg gwlad a phrif waedwr (phlebotomydd) yr ardal. Gwraig Owen, Margaret Gruffydd[4], oedd brif, a bron yr unig, fydwraig yn ardal Ffestiniog - honnodd derbyn dros 1000 o blant i'r byd.) Yn ei thro, cychwynnodd Elizabeth Roberts[4] (Betsan Roberts) trwsio doluriau yn eu cartref ym meddygfa Conglywal. Daeth yn fedrus a phoblogaidd fel meddyges, yn trin anafiadau trwm ac erchyll yn y chwarel pan nad oedd ei gwr, John, ar gael. Bu iddynt unarddeg o blant.
Ymysg plant John a Betsan Roberts oedd y Dr. William Lloyd Roberts[4] (Llundain; 1843-1870), y Dr. Robert Roberts[4] (Chwareli Ffestiniog; 1839-1914), y Dr. John Roberts[4] (llawfeddyg; Caer; 1840-1908; bu iddo feibion, y Dr. Griffith Roberts[3]) a'r Dr. Griffith J. Roberts[4] (Swyddog Meddygol Undeb Ffestiniog a Llawfeddyg Ysbyty a Chwareli Ffestiniog).
Ymysg plant Gainor Roberts (1788-1862) (a'i gwr Owen Jones, Tyddyniolyn) oedd Robert Isaac Jones (Alltud Eifion) 1815-1905[9] (fferyllydd – Cambrian Pill Depot[10], Tremadog; Y Brython (1858-63)) a John Jones[3] (meddyg Dolwyddelan; 1819-1878). Gwraig gyntaf Alltud Eifion oedd Elizabeth[3] merch y Dr. Thomas Hughes[3], Plas y Ward Pwllheli (1812-1840). Ei ail wraig oedd Martha ych William Roberts[3] (Ynysgarregaethnen, Tremadog; 1823-1875). Ymysg plant Alltud Eifion a Martha oedd y Dr. Henry Isaac Jones[3][4] (byddyn India; Scranton, Pennsylvania; Arbenigwr ar y llygad a'r glust; 1844-), Robert Humphrey Jones[3] (milfeddyg; U.D.A.; 1852-), y Dr. Edward Christmas Jones[3][4] (fferyllydd yn y Cambrian Pill Depot, Tremadog) a'r Dr. William Robert Jones[4] (ffisigwr, llawfeddyg ac apothecari; Betws y Coed a Llundain; 1843-)
* Robert Roberts (1786-1876) mab John Roberts Cae'r Groes
Gweithiodd Robert Roberts (1786-1876) fel meddyg esgyrn bro nes cael ei ddewis gan chwarelwyr Dinorwig, Llanberis, yn "Ddoctor y chwarel". Felly gwasanaethodd hyd gyrraedd 70 oed, pryd y penodwyd blwydd-dal iddo gan berchennog y chwarel, Thomas Asheton Smith. Bu fyw Robert (a alwyd erbyn hynny yr "Hen Ddoctor") hyd at ei 91 oed[4] . Mab Robert Roberts oedd John Roberts (1812-1869). Tua 1835 gwneud cais i Robert Roberts anfon John Roberts yn "Ddoctor y chwarel" i Ffestiniog. Ac iddo, sef Robert, bod yn gefn iddo mewn achosion o bwys, gan gerdded yr holl ffordd[4].
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 Davies, William Llewelyn (1953). "WYNN (TEULU), Cesail Gyfarch, Penmorfa, Sir Gaernarfon". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2023.
- ↑ Dunn, Margaret (16 Ebrill 2008). "Y Gesail Gyfarch (Snowdonia Dendrochronology Project)" (PDF). Coflein. Cyrchwyd 4 Tach 2023.
- ↑ 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 3.13 3.14 3.15 3.16 3.17 3.18 3.19 3.20 3.21 3.22 3.23 3.24 3.25 3.26 3.27 3.28 3.29 3.30 Griffith, T Ceiri (2012). Achau rhai o deuluoedd hen Siroedd Caernarfon, Meirionnydd a Threfaldwyn. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. tt. cychwyn tablau [6] ac [8]. ISBN 9781847714930.
- ↑ 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 4.14 4.15 4.16 4.17 4.18 4.19 4.20 4.21 dienw (Dydd Gwyl Dewi 1908). [cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2045153/2619019/51# "Achau"]. Briwsion y Ford Gron 7: 46-48. cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2045153/2619019/51#.
- ↑ Roberts, Guto (1985). Doctor Pen-y-Bryn. Atgofion Owen E. Owen. Cyhoeddiadau Mei. ISBN 978-0905775517.
- ↑ "Professor John Bryn Owen". Funeral Notices. 8 Gorffennaf 2019.
- ↑ Davies, William Llewelyn (1953). "ROBERTS, GRIFFITH (1735 - 1808), meddyg, a chasglwr llawysgrifau". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2023.
- ↑ Williams, Dewi (2007). "Anffaeledig belenni "Dryg bach y Port"". Y Casglwr 32: 7. http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2032/32%2007.pdf.
- ↑ William Rowlands, William (1953). "JONES, ROBERT ISAAC ('Alltud Eifion '; 1815 - 1905), fferyllydd, llenor ac argraffydd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2023.
- ↑ Williams, Dewi (2007). "Anffaeledig belenni "Dryg fach o Bort"". Y Casglwr 32: 7. http://www.casglwr.org/pdf/Rhifyn%2032/32%2007.pdf.