Bangor-is-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 21: Llinell 21:
|static_image_caption= Y bont ym Mangor-is-y-coed
|static_image_caption= Y bont ym Mangor-is-y-coed
}}
}}
Mae '''Bangor is y Coed''', hefyd '''Bangor Is-Coed''' ([[Saesneg]]: ''Bangor-on-Dee'') yn bentref hanesyddol a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] ar [[Afon Dyfrdwy]] ym mwrdeistref sirol [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]]. Mae [[cae rasio]] ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.
Mae '''Bangor is y Coed'''({{Sain|Bangor-is-y-coed.ogg|ynganiad}}), hefyd '''Bangor Is-Coed''' ([[Saesneg]]: ''Bangor-on-Dee'') yn bentref hanesyddol a [[Cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] ar [[Afon Dyfrdwy]] ym mwrdeistref sirol [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]]. Mae [[cae rasio]] ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.


==Mynachlog Bangor is y Coed==
==Mynachlog Bangor is y Coed==

Fersiwn yn ôl 12:34, 26 Mehefin 2018

Gweler hefyd Bangor (gwahaniaethu).
Cyfesurynnau: 53°00′12″N 2°54′40″W / 53.003455°N 2.911186°W / 53.003455; -2.911186
Bangor-is-y-coed

Y bont ym Mangor-is-y-coed
Bangor-is-y-coed is located in Cymru
Bangor-is-y-coed

 Bangor-is-y-coed yn: Cymru
Poblogaeth 1,266 Cyfrifiad 2001
Cyfeirnod grid yr AO SJ3895145515
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost WRECSAM
Rhanbarth cod post LL11
Cod deialu 01978
Heddlu
Tân
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU De Clwyd
Cynulliad Cymru De Clwyd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru •

Mae Bangor is y Coed("Cymorth – Sain" ynganiad ), hefyd Bangor Is-Coed (Saesneg: Bangor-on-Dee) yn bentref hanesyddol a chymuned ar Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.

Mynachlog Bangor is y Coed

Roedd clas (mynachlog) Bangor is y Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6g, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf cantref Maelor (a chwmwd Maelor Gymraeg yn ddiweddarach).

Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor is y Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.

Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.

Y pentref

Mae pont pump bwa, Pont Bangor-is-y-coed sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bangor-is-y-coed (pob oed) (1,110)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bangor-is-y-coed) (108)
  
9.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bangor-is-y-coed) (605)
  
54.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Bangor-is-y-coed) (200)
  
39.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013