Anastas Mikoyan

Oddi ar Wicipedia
Anastas Mikoyan
Ganwyd13 Tachwedd 1895 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Sanahin Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 1978 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Nersisyan School
  • Gevorkian Theological Seminary Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd, party organizer, chwyldroadwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddFirst Deputy Premier of the Soviet Union, aelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd, Chairman of the Presidium of the Supreme Soviet of the USSR, member of the Supreme Soviet of the Byelorussian SSR of the 1st convocation Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
PlantStephen Mikoyan, Alexey Mikoyan, Sergo Mikoyan, Vladimir Mikoyan, Ivan Mikoyan Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Lenin, Urdd y Faner Goch, Urdd y Chwyldro Hydref, Urdd Lenin, "Hammer and Sickle" gold medal, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd Edit this on Wikidata
llofnod

Chwyldroadwr Comiwnyddol Armenaidd, Hen Bolsiefic a gwleidydd Sofietaidd oedd Anastas Ivanovich Mikoyan (Saesneg : / m iːkoʊˈjɑːn / ; Rwseg: Анаста́с Ива́нович Микоя́н; Armeneg: Անաստաս Հովհաննեսի Միկոյան Anastas Hovhanes Mikoyan; 25 Tachwedd 1895 – 21 Hydref 1978). Cafodd ei ethol i'r Pwyllgor Canolog ym 1923, ac ef oedd yr unig wleidydd Sofietaidd a oroesodd mewn grym o fewn y Blaid Gomiwnyddol o ddyddiau olaf Lenin, trwy theyrnasiad Stalin a Khrushchev, hyd ei ymddeoliad heddychlon o dan Brezhnev.

Yn dilyn ei dröedigaeth gynnar i achos y Bolsiefic iaid, cymerodd ran yng Nghomiwn Baku dan arweiniad Stephan Shahumyan yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia yn y Cawcasws. Yn y 1920au, gwasanaethodd fel Prif Ysgrifennydd rhanbarth Gogledd Cawcasws. Yn ystod teyrnasiad Stalin, cafodd Mikoyan nifer o swyddi uchel yn y llywodraeth, gan gynnwys swydd Gweinidog Masnach Dramor. Erbyn y 1940au, fodd bynnag, dechreuodd Mikoyan golli ffafr Stalin. Yn 1949 collodd ei swydd fel gweinidog masnach dramor, ac ym mis Hydref 1952 ymosododd Stalin arno'n hallt ym 19ed cyngres y Blaid. Wedi marwolaeth Stalin ym 1953, cafodd Mikoyan rôl flaenllaw eto mewn llunio polisïau. Ef a Khrushchev luniodd y polisi o ddad-Stalineiddio ac yn ddiweddarach daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog o dan Khrushchev. Mikoyan oedd yr ail ffigwr mwyaf pwerus yn yr Undeb Sofietaidd yn ystod 'Dadmer' Krushchev.

Fe aeth Mikoyan ar nifer o deithiau i'r Giwba comiwnyddol ac i'r Unol Daleithiau, gan ennill bri yn y byd diplomyddol rhyngwladol, yn enwedig efo'i sgil mewn arfer pŵer meddal i hyrwyddo buddiannau Sofietaidd. Ym 1964 gorfodwyd Khrushchev i gamu i lawr a daeth Brezhnev i rym. Gwasanaethodd Mikoyan fel Cadeirydd Presidiwm y Goruchaf Sofiet, Pennaeth Gwladol (di-rym), o 1964 hyd ei ymddeoliad gorfodol ym 1965.

Bywyd cynnar a gyrfa[golygu | golygu cod]

Sanahin, pentref brodorol Mikoyan, yn nyffryn Afod Debed yn Armenia

Ganwyd Mikoyan i rieni Armeneg ym mhentref Sanahin, rhan o Lywodraethiaeth Tiflis yr Ymerodraeth Rwsiaidd (sydd heddiw yn Nhalaith Lori, Armenia) ym 1895. Saer coed oedd ei dad, Hovhannes, ac roedd ei fam yn gweu rygiau. Roedd ganddo un brawd iau, Artem Mikoyan, a ddaeth yn gyd-sylfaenydd y ganolfan dylunio awyrennau MiG, sy'n enwog am eu awyrennau milwrol Sofietaidd. [1]

Addysgwyd Mikoyan yn yr Ysgol Nersisaidd yn Tbilisi a Seminari Gevorgia yn Vagharshapat, y ddau yn perthyn i Eglwys Apostolaidd Armenia. [2] Ond chwaraeodd crefydd ran gynyddol ddibwys yn ei fywyd. Dywedodd yn ddiweddarach fod ei astudiaethau parhaus mewn diwinyddiaeth wedi ei dynnu’n nes at anffyddiaeth : “Roedd gen i deimlad clir iawn nad oeddwn i’n credu yn Nuw a fy mod mewn gwirionedd wedi derbyn tystysgrif mewn ansicrwydd materoliaeth; po fwyaf yr astudiwn pynciau crefyddol, y lleiaf y credais yn Nuw." Cyn dod yn weithgar mewn gwleidyddiaeth roedd Mikoyan eisoes wedi ymbalfalu mewn astudiaeth o ryddfrydiaeth a sosialaeth .

Yn ugain oed ffurfiodd sofiet y gweithwyr yn Echmiadzin. Ym 1915 ymunodd Mikoyan yn ffurfiol â charfan Bolsieficiaid y Blaid Lafur Ddemocrataidd Gymdeithasol yn Rwsia (a alwyd yn ddiweddarach y Blaid Bolsieficaidd) a daeth yn arweinydd y mudiad chwyldroadol yn y Cawcasws [2] Daeth hyn ag ef i Baku, lle daeth yn gyd-olygydd papur newydd Armeneg Sotsyal-Demokrat ac yn ddiweddarach i'r papur Rwsieg Izvestia Bakinskogo Soveta.[2] Yn ystod y cyfnod hwn, dywedir iddo ladrata o fanc yn Tbilisi, a torri ei drwyn wrth ymladd ar y stryd. [3]

Comiwn Baku[golygu | golygu cod]

Poster Sofietaidd 1925: "Ni fyddwn byth yn anghofio'r 26 a lofruddiwyd gan imperialwyr Lloegr. 20 Medi 1918"

Ar ôl Chwyldro Chwefror 1917 a ddymchwelodd lywodraeth y Tsar, ymladdodd Mikoyan a Bolsieficiaid eraill yn erbyn elfennau gwrth-Bolsiefaidd yn y Cawcasws . [2] Daeth Mikoyan yn gomisaar yn y Fyddin Goch newydd ac ymladdodd yn Baku yn erbyn lluoedd gwrth-Bolsiefaidd. Clwyfwyd ef yn yr ymladd a daeth yn enwog am achub bywyd ei gyd-aelod o'r Blaid Sergo Ordzhonikidze. Parhaodd â'i waith yn y blaid, gan ddod yn un o gyd-sylfaenwyr Comiwn Baku dan arweiniad Stephan Shaumian. Yn Baku, bu'n gweithio fel golygydd papur newydd swyddogol y comiwn Teghekatu, ac fel y comisaar gwleidyddol yn goruchwylio milisia arfog Armenia. Cyfarwyddodd gymryd drosodd y banciau ym mis Ebrill 1918, a'r amddiffyniad o Baku yn erbyn ymosodiad byddin Twrci ym mis Gorffennaf 1918. [4]

Ar ôl cwymp Baku, arestiwyd Shaumian ac arweinwyr Bolsiefic eraill gan yr Unbennaeth Centrocaspian. Trefnwyd eu dihangfa o'r carchar gan uned gomando, dan arweiniad Mikoyan, a ffoesant ar draws Môr Caspia i Krasnovodsk (Turkmenbasy heddiw yn Turkmenistan ). Fodd bynnag, yn Krasnovodsk cawsant eu harestio gan Lywodraeth Transcaspia, a oedd yn cael ei reoli gan y Chwyldroadwyr Sosialaidd oedd wedi cynghreirio gyda lluoedd Prydain. Dienyddiodd yr awdurdodau SR y 26 comisaariaid Baku, gan gynnwys Shaumian, ar 20 Medi 1918 yn anialwch Tyrcmenistan. [5] Dim ond trwy hap a damwain y llwyddodd Mikoyan i osgoi eu tynged. Nodyn:Quote frameAr ôl cael ei ryddhau ym mis Chwefror 1919, dychwelodd Mikoyan i Baku ac ailgydio yn ei weithgareddau, gan helpu i sefydlu Biwro Baku o Bwyllgor Rhanbarthol y Cawcasws ( kraikom ). [6] Ym 1920, yn ystod Rhyfel Cartref Rwsia, gyrrwyd Mikoyan gan Bwyllgor Canolog y Blaid i Nizhny Novgorod. Ym 1922-26 daeth yn Ysgrifennydd Biwro De Ddwyrain y Blaid Gomiwnyddol a'i olynydd, kraikom Gogledd Cawcasws. Roedd Mikoyan o blaid rhoi statws ymreolaethol i Chechnya. [7] Yn 1923, etholwyd ef i'r Pwyllgor Canolog a pharhaodd yn aelod am fwy na 50 mlynedd.

Aelod o'r Politburo[golygu | golygu cod]

Y triawd o'r Cawcasws: O'r chwith i'r dde, Mikoyan, Joseph Stalin a Sergo Ordzhonikidze ym 1925

Cefnogodd Mikoyan Stalin yn ei frwydr am bŵer yn dilyn marwolaeth Lenin ym 1924; [8] Yn ystod 11fed Cyngres y Blaid, yn 1922, cyn i'r frwydr rhwng Stalin a Leon Trotsky ddod yn hysbys, galwodd Mikoyan Trotsky yn "dyn o'r wladwriaeth ond nid o'r blaid". Trwy ddweud hynny - yn ôl cofiannydd Trotsky, Isaac Deutscher, "crynhodd yr hyn yr oedd llawer o aelodau'r 'hen bolsieficiaid' yn ei feddwl ond nad oeddynt hyd yn hyn yn ddweud yn gyhoeddus." [9]

Fel Comisiynydd y Bobl dros Fasnach Allanol a Mewnol o 1926 ymlaen, daeth a syniadau o'r Gorllewin, megis cynhyrchu nwyddau tun. [2] Ym 1935 etholwyd ef i'r Politbiwro ac ef oedd un o'r arweinwyr Sofietaidd cyntaf i fynd ar deithiau ewyllys da i'r Unol Daleithiau er mwyn hybu cydweithrediad economaidd. Treuliodd Mikoyan dri mis yn yr Unol Daleithiau, lle bu'n dysgu mwy am ei diwydiant bwyd a hefyd yn cyfarfod ac yn siarad â Henry Ford, ac aeth i 'Macy's' yn Efrog Newydd. Pan ddychwelodd, cyflwynodd Mikoyan nifer o gynhyrchion poblogaidd Americanaidd i'r Undeb Sofietaidd, gan gynnwys hamburgers, hufen iâ, corn flakes, popcorn, sudd tomato, grawnffrwyth a corn on the cob. [10]

Arweiniodd Mikoyan brosiect i gynhyrchu llyfr coginio cartref, a fyddai'n annog mynd yn ôl i'r gegin. 'Llyfr Bwyd Blasus a Iach' oedd y canlyniad ym 1939, ac ym 1952 gwerthwyd 2.5 miliwn o gopïau o'r argraffiad hwnnw. [11] Helpodd Mikoyan i ddechrau cynhyrchu hufen iâ yn yr Undeb Sofietaidd a cadwodd ansawdd hufen iâ o dan ei reolaeth bersonol ei hun nes iddo gael ei ddiswyddo. Gwnaeth Stalin jôc am hyn, gan ddweud, "Rydych chi, Anastas, yn poeni mwy am hufen iâ, nag am gomiwnyddiaeth." Cyfrannodd Mikoyan hefyd at ddatblygiad cynhyrchu cig yn yr Undeb Sofietaidd (yn enwedig yr hyn a elwir yn cutlet Mikoyan), ac enwyd un o'r ffatrïoedd selsig o'r oes Sofietaidd ar ei ôl.

Y Carthu Mawr[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y 1930au cychwynnodd Stalin ar 'Y Carthu Mawr', cyfres o ymgyrchoedd gormesol ac erledigaeth wleidyddol yn yr Undeb Sofietaidd a drefnwyd yn erbyn aelodau o'r Blaid Gomiwnyddol, yn ogystal â'r werin a phobl gyffredin. Wrth asesu rôl Mikoyan yn y carthu, dywed yr hanesydd Simon Sebag-Montefiore ei fod "wedi mwynhau enw da fel un o'r arweinwyr mwyaf teilwng: yn sicr fe wnaeth helpu'r dioddefwyr yn ddiweddarach a fe weithiodd yn galed i ddadwneud Stalin ar ôl ei farwolaeth." Fe geisiodd Mikoyan achub rhai cymdeithion clos rhag cael eu dienyddio. Fodd bynnag, ym 1936 roedd yn frwd ei gefnogaeth i ddienyddio Grigory Zinoviev a Lev Kamenev, gan honni y cawsant "rheithfarn gyfiawn." Fel gwnaeth swyddogion blaenllaw eraill ym 1937, llofnododd Mikoyan restrau marwolaeth a roddwyd iddo gan yr NKVD. [12] Roedd y carthu yn aml yn cael ei gyflawni gan swyddogion agos at Stalin, gan roi'r swydd iddynt yn bennaf fel ffordd o brofi eu teyrngarwch.

Ym mis Medi 1937, anfonodd Stalin Georgy Malenkov a Mikhail Litvin (1892-1938) o'r NKVD i Yerevan, prifddinas Armenia Sofietaidd, mewn ymateb i farwolaeth Sahak Ter-Gabrielyan. Eu cenhadaeth oedd goruchwylio carthu Plaid Gomiwnyddol Armenia a'i harweinwyr Prif Ysgrifennydd Amatuni Amatuni a pennaeth yr NKVD lleol Khachik Mugdusi, y ddau yn deyrngar i Beria . [13] Yn ddiweddarach anfonodd Stalin Mikoyan yno hefyd, er mwyn rhoi prawf ar ei deyrngarwch, ac i anfon arwydd at arweinwyr Armenia.[13] Nid oedd Stalin yn ymddiried yn Mikoyan oherwydd ei drugaredd tuag at ei elynion. Mewn sawl achos, roedd Mikoyan wedi ymyrryd ar ran ei ffrindiau a'i gydweithwyr i'w hachub.[10] Yn ystod ei daith i Armenia, ceisiodd, a methu, achub un unigolyn (Daniel Shahverdyan) rhag cael ei ddienyddio. [13] Fodd bynnag, ar orchmynion Stalin, arweiniodd yr ymosodiad yn ystod sesiwn stormus o Bwyllgor Canolog Plaid Gomiwnyddol Armenia ym mis Medi 1937, ac ymatebodd Amatuni chwerw a'i alw'n "gelwyddog". [14] Arestiwyd Amatuni a cafodd ei saethu yng Ngorffenaf 1938.

Yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 1939, o dan Gytundeb Molotov-Ribbentrop, dyrannodd yr Almaen Natsïaidd a'r Undeb Sofietaidd eu 'cylchoedd dylanwad' yng Ngwlad Pwyl a Dwyrain Ewrop. Arestiodd y Sofietiaid 26,000 o swyddogion Pwylaidd yn nwyrain Gwlad Pwyl ac ym mis Mawrth 1940, ar ôl peth ystyriaeth, llofnododd Stalin a phum aelod arall o'r Politburo, gan gynnwys Mikoyan, orchymyn i'w dienyddio fel "cenedlaetholwyr a gwrth-chwyldroadwyr". [15] Pan ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd ym Mehefin 1941, prif dasg Mikoyan yn ystod y rhyfel oedd cyflenwi defnyddiau, bwyd ac angenrheidiau eraill i'r Fyddin Goch.[16] Bu farw ei fab Vladimir, peilot yn yr Awyrlu Goch, pan saethwyd ei awyren i lawr dros Stalingrad. [17]

Mae Mikoyan hefyd wedi cael clod am ei rôl arwyddocaol yn adleoli diwydiant Sofietaidd ym 1941 o'r dinasoedd gorllewinol oedd dan fygythiad, megis Moscow a Leningrad, i'r dwyrain i'r Urals, Gorllewin Siberia, rhanbarth Volga, a rhannau diogel eraill. [18]

Ym mis Chwefror 1942, trwy orchymyn Stalin, daeth Mikoyan yn Gynrychiolydd Arbennig o Bwyllgor Amddiffyn y Wladwriaeth. Nid oedd wedi bod yn aelod tan hynny oherwydd y credai Beria ei fod yn fwy defnyddiol yng ngweinyddiaeth y llywodraeth. [10] Urddwyd Mikoyan yn Arwr Llafur Sosialaidd ym 1943 am ei ymdrechion. Ym 1946, daeth yn Is-Lywydd Cyngor y Gweinidogion.[19] Fel Gweinidog dros Fasnach Dramor, bu'n gyfrifol am ddatgymalu diwydiant a seilwaith o ddwyrain yr Almaen a oedd wedi'i feddiannu gan y Sofietiaid i'w casglu fel iawn am y rhyfel. [20]

Dadmer a dad-Stalineiddio[golygu | golygu cod]

Anastas Mikoyan gyda Nikita Khrushchev (yn eistedd ar y chwith) ym Merlin, 1957

Ychydig cyn ei farwolaeth ym 1953, roedd Stalin yn ystyried cael carthu newydd yn erbyn Mikoyan, Molotov, a nifer o arweinwyr eraill y Blaid. Ond bu farw Stalin cyn y gallai rhoi hyn ar waith. Ar y dechrau dadleuodd Mikoyan yn erbyn cosbi Beria, ond ildiodd i'r gefnogaeth boblogaidd ymhlith aelodau’r Blaid i’w arestio. Cafodd Mikoyan y swydd o Weinidog Masnach o dan Malenkov. Cefnogodd Nikita Khrushchev yn ei frwydr i olynu Stalin, a daeth yn Ddirprwy Brif Weinidog fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth.

Ym 1956, helpodd Mikoyan Khrushchev i drefnu'r "Araith Gyfrinachol", a draddodwyd gan Khrushchev yn yr 20fed Cyngres o'r Blaid, yn ymosod ar gwlt personoliaeth ac unbennaeth Stalin.[10] Ef, ac nid Khrushchev, a draddododd yr araith wrth-Stalinaidd gyntaf yn yr 20fed Gyngres. Ynghyd â Khrushchev, helpodd i ddiwygio rhai o'r cyfyngiadau llethol ar ddiwylliannau cenedlaethol a osodwyd yn ystod cyfnod Stalin.[13] Ym 1954 ymwelodd â'i wlad enedigol Armenia, a thraddododd araith yn Yerevan, lle anogodd yr Armeniaid i ailgyhoeddi gweithiau Ruffi a'r llenor Yeghishe Charents. [21] Tu ôl i'r llenni, cynorthwyodd arweinwyr Sofietaidd Armenia i adsefydlu cyn "elynion" y weriniaeth, [13] a gweithio gyda Lev Shahumyan (mab Stepan) a pobl yn dychwelyd o'r Gulag fel Alexei Snegov ac Olga Shatunovskaya ar y broses o ddad-Stalineiddio. [22] [13]

Gwrthododd Mikoyan gefnogi ymgais Malenkov a Molotov ym 1957 i ddisodli Khrushchev, a sicrhaodd ei le fel un o gynghreiriaid agosaf Khrushchev yn ystod y 'dadmer'. Cefnogodd Khrushchev oherwydd ei gefnogaeth gref i ddad-Stalineiddio, a credai y gallai buddugoliaeth y cynllwynwyr wedi dod a 'carthu' tebyg i rhai'r 1930au. [23] I gydnabod ei gefnogaeth a'i ddoniau economaidd, penododd Khrushchev ef yn Ddirprwy Brif Weinidog.[angen eglurhad] .

Ym 1962, anfonodd Khrushchev Mikoyan a Froi Kozlov i Novocherkassk i ddelio ag aflonyddwch cynyddol yn y ddinas. Er bod Mikoyan yn gwrthwynebu grym ac yn ceisio deialog gyda'r protestwyr, gwthiodd Kozlov am ymateb llym, gan arwain at gyflafan Novocherkassk. [24]

Diplomyddiaeth dramor[golygu | golygu cod]

Mikoyan yn croesawu Kim Il Sung i Moscow yng Ngorsaf Yaroslav, Mawrth, 1949

Tsieina[golygu | golygu cod]

Mikoyan oedd y cyntaf o'r Politbiwro i gwrdd â cadeirydd Plaid Gomiwnyddol Tsieina, Mao Zedong. Cyrhaeddodd bencadlys Mao ar 30 Ionawr 1949, ddiwrnod cyn i lywodraeth Chiang Kai-shek gael ei gorfodi i gefnu ar Nanjing, sef prifddinas Tsieina ar y pryd, a ffoi i Guangzhou. Adroddodd Mikoyan fod Mao wedi cyhoeddi mai Stalin oedd arweinydd comiwnyddiaeth y byd ac yn 'athro pobl Tsieina', ond ychwanegodd yn ei adroddiad ei farn nad oedd Mao yn credu'r hyn yr oedd yn ei ddweud. [25] Ar gais Stalin gofynnodd Mikoyan i'r comiwnyddion Tsieineaidd arestio'r newyddiadurwr o'r Unol Daleithiau Sidney Rittenberg. [26]

Tsiecoslofacia[golygu | golygu cod]

Ar 11 Tachwedd 1951, ymwelodd Mikoyan â Phrâg i roi neges oddi wrth Stalin i’r Arlywydd Klement Gottwald yn mynnu y dylai arestio Rudolf Slansky, cyn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia. Pan wrthododd Gottwald, aeth Mikoyan o'r cyfweliad i ffonio Stalin, cyn dod yn ôl ac ail-adrodd y cyfarwyddyd, ac ar ôl hynny ildiodd Gottwald. Roedd hyn yn cam cyntaf tuag at roddi Slansky ar brawf.[27] Crogwyd ef ym 1952. Cadwyd rôl Mikoyan yn y gormes yn Tsiecoslofacia yn gyfrinach tan Wanwyn Prague 1968.

Hwngari[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 1956, ymwelodd Mikoyan â Hwngari i oruchwylio cael gwared ar yr unben Matyas Rakosi. Dychwelodd ym mis Hydref i gasglu gwybodaeth am yr argyfwng a achoswyd gan y chwyldro yn erbyn llywodraeth Plaid y Gweithwyr Hwngaraidd. Teithiodd Mikoyan a Mikhail Suslov i Budapest mewn cludwr personel arfog, oherwydd y saethu yn y strydoedd . Anfonodd delegram i Moscow yn adrodd ei argraffiadau o'r sefyllfa. “Cawsom yr argraff bod Erno Gero yn arbennig, a'r cymrodyr eraill hefyd, yn gorliwio cryfder y gwrthwynebwyr ac yn tanamcangyfrif eu cryfder eu hunain,” ysgrifennodd ef a Suslov. [28] Roedd Mikoyan yn gwrthwynebu’n gryf penderfyniad Khrushchev a’r Politbiwro i ddefnyddio milwyr Sofietaidd, gan gredu y byddai’n gwneud drwg i enw da rhyngwladol yr Undeb Sofietaidd, a dadlau yn lle hynny dros “brawychu milwrol” a phwysau economaidd. [29] Bu bron i Mikoyan ymddiswyddo yn dilyn ymosodiad y lluoedd Sofietaidd ar chwyldroadwyr Hwngari. [30]

Yr Unol Daleithiau[golygu | golygu cod]

Mikoyan gyda John F. Kennedy a cyfiethydd Adran y Wladwriaeth Natalie Kushnir yn y Ty Gwyn, 1962.

Arweiniodd polisïau lled-ryddfrydol Khrushchev at welliant yn y berthynas rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau yn ystod y 1950au hwyr. Fel prif ddiplomatydd Khrushchev, ymwelodd Mikoyan â'r Unol Daleithiau sawl gwaith. Er gwaethaf y Rhyfel Oer rhwng y ddwy wlad, derbyniodd llawer o Americanwyr Mikoyan yn gyfeillgar, gan gynnwys y Democrat o Minnesota Hubert Humphrey, a'i ddisgrifiodd fel rhywun a gyda "agwedd hyblyg", a llywodraethwr Efrog Newydd Averell Harriman, a alwodd ef yn wleidydd Sofietaidd "llai anhyblyg".

Yn ystod Tachwedd 1958 gwnaeth Khrushchev ymgais aflwyddiannus i droi Berlin i gyd yn “ddinas rydd” annibynnol, di-filitaraidd, gan roi wltimatwm chwe mis i’r Unol Daleithiau, Prydain Fawr a Ffrainc dynnu eu milwyr allan o’r sectorau yr oeddent yn dal i’w meddiannu yng Ngorllewin Berlin, neu byddai'n trosglwyddo rheolaeth dros hawliau mynediad Gorllewinol i Lywodraeth Dwyrain yr Almaen. Ni chymeradwyai Mikoyan hyn gan honni eu bod yn torri "egwyddor y Blaid." Roedd Khrushchev wedi rhoi yr wltimatwm i'r Gorllewin cyn ei drafod gyda'r Pwyllgor Canolog. Credai yr hanesydd Ruud van Djik bod Mikoyan yn ddig oherwydd na wnaeth Khrushchev ymgynghori ag ef cyn gwneud hyn. Gofynnodd Khrushchev iddo'n ddiweddarach fynd i'r Amerig i leddfu'r tensiwn gyda'r Unol Daleithau ac ymatebodd Mikoyan, "Fe wnaethoch chi ei ddechrau, felly ewch chi!" [30]

Mikoyan gyda Jawaharlal Nehru ac Indira Gandhi ym Moscow, 1956

Gadawodd Mikoyan am Washington DC fodd bynnag, a hwn oedd y tro cyntaf i uwch aelod o Gyngor Gweinidogion yr Undeb Sofietaidd ymweld â'r Unol Daleithiau ar genhadaeth ddiplomyddol i'w harweinyddiaeth. Aeth Mikoyan at y genhadaeth gydag anffurfioldeb digynsail, gan eirio ei gais am fisa i Lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau fel cais am "pythefnos o wyliau" i ymweld â'i ffrind, Mikhail Menshikov, y Llysgennad Sofietaidd i'r Unol Daleithiau. Nid oedd y Tŷ Gwyn yn disgwyl ymweliad gan genhadaeth ddiplomyddol fel hon a oedd yn ymddangos yn fyrfyfyr, a gwahoddwyd Mikoyan i siarad â nifer o sefydliadau elitaidd Americanaidd megis y Cyngor ar Gysylltiadau Tramor a Chlwb Detroit lle mynnodd Mikoyan ei fod yn gobeithio y gallai'r Undeb Sofietaidd â'r Unol Daleithiau gyd-fyw yn heddychlon. Tra yn Cleveland, rhoddodd Mikoyan droika i'r diwydiannwr Cyrus Eaton ac edmygodd Terminal Tower y ddinas, a'i hatgoffodd o'r Twr ym Mhrifysgol Talaith Moscow. [31]

Yn ogystal ag ymrwymiadau o'r fath, cymerodd y cyfle i gwrdd yn anffurfiol â'r cyhoedd megis cael brecwast mewn bwyty Howard Johnson, ymweld â Siop Macy's yn Ninas Efrog Newydd a chwrdd ag enwogion yn Hollywood fel Jerry Lewis a Sophia Loren cyn cael cyfarfod gyda'r Arlywydd Dwight Eisenhower a'r Ysgrifennydd Gwladol John Foster Dulles. [32] Er i Mikoyan fethu â newid polisi yr Unol Daleithiau ar Berlin, [33] cafodd ei ganmol yn yr Unol Daleithiau am leddfu tensiynau rhyngwladol gyda'i bwyslais arloesol ar ddiplomyddiaeth feddal a gafodd groeso annisgwyl gan y cyhoedd yn America. [34]

Nid oedd Mikoyan yn hapus pan gerddodd Khrushchev allan o Uwchgynhadledd Paris 1960 am ei fod, yn ei farn ef, wedi cadw tensiwn yn y Rhyfel Oer yn uchel am bymtheng mlynedd arall. Fodd bynnag, trwy gydol y cyfnod hwn, ef oedd cynghreiriad agosaf Khrushchev yn uchelfannau yr arweinyddiaeth Sofietaidd. Fel y nododd Mikoyan yn ddiweddarach, roedd Khrushchev "yn cymryd rhan [mewn] hysterics anfaddeuol". [35]

Ym mis Tachwedd 1963 gofynnodd Khrushchev i Mikoyan gynrychioli'r Undeb Sofietaidd yn angladd yr Arlywydd J.F. Kennedy. [36] Roedd Mikoyan wedi'i ysgwyd yn amlwg gan farwolaeth yr arlywydd a daeth Jacqueline Kennedy ato, gan gymryd ei law a dweud: "Dywedwch wrth Mr. Cadeirydd [Khrushchev] fy mod yn gwybod ei fod ef a fy ngŵr yn gweithio gyda'i gilydd am fyd heddychlon, ac yn awr mae'n rhaid iddo ef a thithau barhau â gwaith fy ngŵr.”

Ciwba a'r Argyfwng Taflegrau[golygu | golygu cod]

Croesawodd y llywodraeth Sofietaidd ddymchwel Arlywydd Ciwba Fulgencio Batista gan wrthryfelwyr sosialaidd Fidel Castro ym 1959. Roedd Khrushchev yn gweld potensial cynghreiriad Sofietaidd yn y Caribî ac anfonodd Mikoyan fel un o'i ddiplomyddion i America Ladin . Ef oedd y swyddog Sofietaidd cyntaf i ymweld â Chiwba ar ôl y chwyldro, ac eithrio swyddogion cudd Sofietaidd, a sicrhaodd gytundebau masnach pwysig gyda'r llywodraeth newydd. [33] Gadawodd Ciwba gydag argraff gadarnhaol iawn, gan ddweud bod yr awyrgylch yno yn gwneud iddo deimlo "fel pe bawn wedi dychwelyd i fy mhlentyndod." [30]

Datgelodd Khrushchev iddo ei syniad o gludo taflegrau Sofietaidd i Giwba, ond roedd Mikoyan yn erbyn y fath beth, ac roedd hyd yn oed yn fwy gwrthwynebus i roi rheolaeth i Ciwba dros y taflegrau Sofietaidd. [33] Yn gynnar ym mis Tachwedd 1962, ar ôl i'r Undeb Sofietaidd gytuno i dynnu'n ôl y taflegrau niwclear o Giwba, anfonwyd Mikoyan i Hafana i berswadio Castro i gydweithredu.[37] [30] Ychydig cyn dechrau trafodaethau gyda Castro, hysbyswyd Mikoyan am farwolaeth ei wraig, Ashkhen, ym Moscow; ond yn hytrach na dychwelyd yno ar gyfer yr angladd, arhosodd Mikoyan ac anfonodd ei fab Sergo yno yn ei le. [38]

Roedd Castro yn bendant bod y taflegrau'n aros ond ceisiodd Mikoyan, gan geisio osgoi gwrthdaro llwyr â'r Unol Daleithiau, ei argyhoeddi fel arall. Dywedodd wrth Castro, “Rydych chi'n gwybod, nid yn unig yn y llythyrau hyn ond heddiw hefyd, ein bod yn dal i'r sefyllfa y byddwch yn cadw'r holl arfau a'r holl arbenigwyr milwrol ac eithrio'r arfau 'ymosodol' a'r personél cysylltiedig, a addawyd eu tynnu'n ôl yn llythyr Khrushchev [27 Hydref]." [39] Anghytunai Castro a'r syniad o gonsesiynau pellach, cael gwared ar yr awyrennau bomio Il-28 ac arfau niwclear tactegol oedd ar ôl yng Nghiwba. Ond ar ôl wythnosau o drafodaethau anodd a blinedig, ildiodd o'r diwedd a symudwyd y taflegrau a'r awyrennau bomio ym mis Rhagfyr. [40]

Pennaeth y Wladwriaeth ac ymddeoliad[golygu | golygu cod]

Ar 15 Gorffennaf 1964, penodwyd Mikoyan yn Gadeirydd Presidiwm y Sofiet Goruchaf, i gymryd lle Leonid Brezhnev, yn dilyn ei ddyrchafiad o fewn y Blaid. Swydd seremonïol oedd hon i raddau helaeth; gan nodi ei henaint a bod ei iechyd yn dirywio.

Cred rhai haneswyr bod Mikoyan yn rhan o'r cynllwyn yn Hydref 1964 a ddaeth â Brezhnev ac Alexei Kosygin i rym. [30] Ond mae William Taubman yn anghytuno â hyn, gan mai Mikoyan oedd yr unig aelod o'r Presidiwm (yr enw ar y Politbiwro yr adeg hon) i amddiffyn Khrushchev. Er hynny, pleidleisiodd Mikoyan i orfodi ymddeoliad Khrushchev (fel ag, yn y dull Sofietaidd traddodiadol, i wneud y bleidlais yn unfrydol). Ef, yr unig un ymhlith cydweithwyr Khrushchev, ddymunodd yn dda i'r cyn arweinydd ar ei ymddeoliad, ac ef yn unig a ymwelodd â Khrushchev yn ei dacha ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Gosododd Mikoyan dorch ac anfonodd lythyr cydymdeimlad yn angladd Khrushchev ym 1971. [41]

Yn rhannol oherwydd iddo amddiffyn Krushchev, collodd Mikoyan ei statws uchel gyda'r arweinyddiaeth Sofietaidd newydd. Gorfodwyd iddo ymddeol o'i sedd yn y Politbiwro oherwydd henaint. Yn fuan wedyn collodd Mikoyan ei swydd fel pennaeth y wladwriaeth a cael ei olynu yn y swydd gan Nikolai Podgorny ar 9 Rhagfyr 1965. [42] Ar ôl ymddeol, ysgrifennodd Mikoyan, fel Khrushchev, gofiant di-flewyn-ar-dafod (ond detholus) o'i yrfa wleidyddol, yn cynnwys ei weithgarwch chwyldroadol yn Baku. [10] Bu farw ar 21 Hydref 1978, yn 82 oed, o achosion naturiol a chladdwyd ef ym Mynwent Novodevichy ym Moscow. Derbyniodd chwe cymeradwyaeth o Urdd Lenin. [2]

Personoliaeth ac etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Amgueddfa y Brodyr Mikoyan yn Sanahin, Armenia

Disgrifiodd yr hanesydd Simon Sebag-Montefiore Mikoyan fel "tenau, gwyliadwrus, cyfrwys a diwyd". Yn ddyn deallus, roedd ganddo feistrolaeth ar sawl iaith. Yn ogystal ag Armeneg a Rwsieg, roedd yn deall Saesneg a dysgodd Almaeneg trwy gyfieithu Das Kapital Karl Marx o'r Almaeneg i Rwsieg. Yn wahanol i lawer o rai eraill, nid oedd ofn ganddo ddadlau gyda Stalin. Nododd Artyom Sergeev "Doedd neb erioed yn diflasu ar Mikoyan", tra galwai Khrushchev ef yn 'gavalier' go iawn. Er hynny, rhybuddiodd Khrushchev rhag ymddiried yn "y llwynog craff hwnnw o'r dwyrain." [43] Mewn sgwrs agos gyda Molotov a Bukharin, cyfeiriodd Stalin at Mikoyan fel "hwyaden fach mewn gwleidyddiaeth". Roedd gan Mikoyan bump o fechgyn (Stepan, Vladimir, Aleksei, Vano, a Sergo), a mabwysiadodd ddau fab y diweddar arweinydd Bolsiefic Stepan Shahumyan. Roedd ganddo gymaint o blant dan ei ofal fel ei fod ef a'i wraig yn wynebu problemau ariannol. Byddai ei wraig Ashkhen yn benthyca arian gan wragedd eraill y Politbiwro efo llai o blant. Pe bai Mikoyan wedi darganfod hyn, byddai, yn ôl ei blant, wedi mynd yn gandryll. [10]

Roedd Mikoyan yn hynod falch o'i etifeddiaeth Armenaidd, ac mewn cyfarfod yn 1959 ag Is-lywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon yn Washington, fe gwynodd am driniaeth yr Armeniaid yn Nhwrci. [44] Mwynhaodd gwrdd â chyd-Armeniaid dramor, gan gynnwys cyn-lysgennad yr Unol Daleithiau, Edward Djerejian. [45] Er hyn, mae Mikoyan yn ddadleuol yn yr Armenia fodern. [46] Tynnir sylw gan ei feirniaid at ei gyfraniad yn y carthu yn Armenia yn y 1930au ar orchymyn Stalin. [46] Mae ei gefnogwyr yn dadlau ei fod yn ffigwr o bwys ar y llwyfan gwleidyddol byd-eang ac yn tynnu sylw at ei rôl yn tawelu argyfwng taflegrau Ciwba. [46] Mae eraill yn pwysleisio gwaith pwysig Mikoyan yn y dad-Stalineiddio yn Armenia, gan gynnwys ei araith ym mis Mawrth 1954 yn Yerevan a'i gymorth mawr mewn adsefydlu carcharorion gwleidyddol. [13] Roedd cyfraniadau Mikoyan i ddatblygiad y wladwriaeth Sofietaidd Armenia yn cynnwys cefnogaeth i brosiectau economaidd mawr, megis camlas Arpa-Sevan.[47] Fel Dirprwy Goruchaf Sofietaidd i Yerevan, cadwodd gysylltiadau agos ag arweinwyr Sofietaidd Armenia fel Yakov Zarobyan ac Anton Kochinyan ac ymgynghorodd yn rheolaidd â nhw ar faterion Armenia. [47] Er fod ei allu yn gyfyngedig wrth gynorthwyo arweinwyr Armenia ar broblem Nagorno-Karabakh, roedd yn cydymdeimlo â phryderon Armenia, [47] [48] a bu ei fab Sergo yn hyrwyddwr amlwg yn ddiweddarach i Fudiad Karabakh. [49] Er gwaethaf ei doriad gyda Eglwys Armenia, cynhaliodd Mikoyan berthynas dda â'r Catholicos Vazgen 1. [50] Roedd yn gefnogwr i'r cyfansoddwr Aran Khachaturian, [51] ac yn ffrindiau mawr gyda Marshal Ivan Bagramyan. [52]

Yn cael ei adnabod fel y "Goroeswr," roedd Mikoyan yn un o'r ychydig Hen Folsieficiaid (sef aelodau o'r blaid cyn y chwyldro) a gafodd ei arbed rhag carthu Stalin ac a gafodd ymddeol yn gyfforddus o fywyd gwleidyddol. Amlygwyd hyn mewn nifer o ddywediadau poblogaidd yn Rwsieg, gan gynnwys "O Ilyich [Lenin] i Ilyich [Brezhnev] ... heb drawiad ar y galon na strôc!" ( Ot Ilyicha do Ilyicha bez infarkta a paralicha ). [43] Disgrifiodd un swyddog Sofietaidd hynafol ei yrfa wleidyddol fel hyn: “Gallai'r cnaf gerdded trwy Sgwâr Coch ar ddiwrnod glawog heb ymbarél [a] heb wlychu. Gallai osgoi'r diferion glaw."

Portreadodd y Cymro Paul Whitehouse Mikoyan yn y ffilm ddychanol 2017 The Death of Stalin . [53]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

  • Arwr Llafur Sosialaidd
  • Urdd Lenin, chwe gwaith
  • Urdd Chwyldro Hydref
  • Urdd y Faner Goch

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mikoyan, Stepan Anastasovich (1999). Stepan Anastasovich Mikoyan: An Autobiography. Shrewsbury: Airlife Publishing. t. 522. ISBN 978-1-85310-916-4. LCCN 99488415. OCLC 41594812.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Միկոյան, Անաստաս Հովհաննեսի [Mikoyan, Anastas Hovhannesi] (yn Armeneg). vii. Yerevan: Armenian Academy of Sciences. 1981. t. 542.
  3. Staff writer (23 December 1958). "Mikoyan: Soviet Union's Shrewd Trader". Milwaukee Sentinel. t. 7. Cyrchwyd 8 May 2012.[dolen marw]
  4. Mikoyan's activities in Baku are treated in passim in Ronald Grigor Suny, The Baku Commune, 1917-1918: Class and Nationality in the Russian Revolution. Princeton: Princeton University Press, 1972.
  5. Suny, The Baku Commune, pp. 341–343.
  6. Hovannisian, Richard G. (1971). [[[:Nodyn:Google Books]] The Republic of Armenia: The First Year, 1918–1919] Check |url= value (help). 1. Berkeley: University of California Press. t. 401. ISBN 978-0-520-01984-3. LCCN 72129613. OCLC 797273730.
  7. Marshall, Alex (2010). The Caucasus Under Soviet Rule. London: Routledge. tt. 163–164. ISBN 9780415410120.
  8. For more on Mikoyan's and Stalin's first encounter see Stephen Kotkin, Stalin: Volume I: Paradoxes of Power, 1878-1928. New York: Penguin Press, 2014, p. 465.
  9. Deutscher, Isaac (1989). The Prophet Unarmed, Trotsky 1921-1929. Oxford: Oxford U.P. t. 32. ISBN 0-19-281065-0.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 Montefiore 2005.
  11. Russell, Polly; The history cook; The Financial Times (FT Weekend Magazine), 17/18 August 2013, p36.
  12. Montefiore 2005, t. 256.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 13.4 13.5 13.6 Shakarian, Pietro A. (12 November 2021). "Yerevan 1954: Anastas Mikoyan and Nationality Reform in the Thaw, 1954–1964". Peripheral Histories. Cyrchwyd 14 November 2021.
  14. Conquest, Robert (1971). The Great Terror. Harmondsworth, Middlesex: Penguin. t. 341.
  15. Montefiore 2005, t. 333.
  16. Montefiore 2005, t. 373.
  17. Montefiore 2005, t. 463.
  18. Keegan, John (2005). The Second World War. New York: Penguin Books. t. 209.
  19. Vasilyevich, Ufarkinym Nikolai. [Mikoyan, Anastas Ivanovich] |trans-title= requires |title= (help) (yn Rwseg). warheroes.ru http://www.warheroes.ru/hero/hero.asp?Hero_id=9089 |url= missing title (help). Cyrchwyd 27 January 2011.
  20. Naimark, Norman M. The Russians In Germany: a History of the Soviet Zone of Occupation, 1945-1949. E-book, Cambridge, Mass.: Harvard University Press, 1995
  21. Matossian, Mary Kilbourne (1962). The Impact of Soviet Policies in Armenia. Leiden: E.J. Brill. t. 201.
  22. Cohen, Stephen F. (2011). The Victims Return: Survivors of the Gulag After Stalin. London: I. B. Tauris & Company. tt. 89–91. ISBN 9781848858480.
  23. Laqueur, Walter (1990) [1965]. Russia and Germany: A Century of Conflict. New Brunswick, NJ: Transaction Publishers. t. 313. ISBN 978-0-88738-349-6. LCCN 89020685. OCLC 20932380.
  24. Baron, Samuel H. (2001). Bloody Saturday in the Soviet Union: Novocherkassk, 1962. Stanford, CA: Stanford University Press. tt. 47, 56. ISBN 9780804740937.
  25. Chang, Jung; Halliday, Jon (2007) [2005]. Mao, the Unknown Story. London: Vintage Books. tt. 416–417. ISBN 978-0-09-950737-6. OCLC 774136780.
  26. Chang & Halliday 2007.
  27. Komunistická Strana C̆eskoslovenska, Komise pro vyr̆izování stranických rehabilitací. (1971). Pelikán, Jiří (gol.). The Czechoslovak Political Trials, 1950-1954: The Suppressed Report of the Dubcek Government's Commission of Inquiry, 1968. London: MacDonald & Co. t. 106. ISBN 978-0-356-03585-7. LCCN 72877920. OCLC 29358222.
  28. Mikoyan, Anastas; Suslov, Mikhail (24 October – 4 November 1956). Soviet Documents on the Hungarian Revolution, 24 October – 4 November 1956. Cold War International History Project Bulletin. Government of the Soviet Union. tt. 22–23 and 29–34. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-18. Cyrchwyd 19 January 2011.
  29. Gati, Charles (2003). "Foreword". In Békés, Csaba; Byrne, Malcolm; Ranier, János M. (gol.). [[[:Nodyn:Google Books]] The 1956 Hungarian Revolution: A History in Documents] Check |url= value (help). Budapest: Central European University Press. t. xv. ISBN 978-963-9241-66-4. OCLC 847476436.
  30. 30.0 30.1 30.2 30.3 30.4 Taubman 2004.
  31. Shakarian, Pietro A. (January 6, 2019). "Cleveland visit 60 years ago this week of No. 2 Soviet official Anastas Mikoyan reflected a detente that served both nations well". The Plain Dealer. Cyrchwyd July 26, 2022.
  32. Kaplan, Fred (2009). 1959: The Year Everything Changed (arg. [Online-Ausg.].). Hoboken, N.J.: J. Wiley & Sons. tt. 8–9. ISBN 978-0-470-38781-8.
  33. 33.0 33.1 33.2 Van Djik, Ruud (2008). Encyclopedia of the Cold War. 1. New York: Taylor & Francis. t. 586. ISBN 978-0-415-97515-5.
  34. Kaplan (2009). 1959. J. Wiley & Sons. t. 13. ISBN 9780470387818.
  35. Newman, Kitty (2007). Macmillan, Khrushchev and the Berlin Crisis 1958–1960. New York: Taylor & Francis. t. 175. ISBN 978-0-415-35463-9.
  36. Leffler, Melvyn P. (2007). For the Soul of Mankind: The United States, the Soviet Union, and the Cold War. New York: Hill and Wang. t. 192. ISBN 978-0-8090-9717-3.
  37. See Mikoyan, Sergo; Svetlana Savranskaya (ed.) The Soviet Cuban Missile Crisis: Castro, Mikoyan, Kennedy, Khrushchev, and the Missiles of November. Stanford: Stanford University Press, 2012.
  38. Khrushchev, Sergei; Benson, Shirley (2008). Nikita Khrushchev and the Creation of a Superpower. 1. University Park, PA: Penn State Press. tt. 652–653. ISBN 978-0-271-02170-6.
  39. Savranskaya, Svetlana. "The Soviet Cuban Missile Crisis: Castro, Mikoyan, Kennedy, Khrushchev, and the Missiles of November." George Washington University.
  40. Matthews, Joe. "Cuban Missile Crisis: The Other, Secret One." BBC News Magazine. 12 October 2012. Retrieved 13 October 2012.
  41. Khrushchev, Nikita (2006). Memoirs of Nikita Khrushchev: Reformer, 1945–1964. 2. University Park, Pa: Pennsylvania State Press. t. 700. ISBN 978-0-271-02332-8.
  42. Brown, Archie (2009). The Rise and Fall of Communism. New York: Ecco. t. 402. ISBN 978-0-06-113879-9.
  43. 43.0 43.1 Montefiore 2005, t. 83n.
  44. "Document 97: Memorandum of Conversation: Vice President's Kremlin Conversation with Mikoyan". Office of the Historian - U.S. Department of State. 25 July 1959. Cyrchwyd 21 August 2021.
  45. "Matlock and Djerejian talk Stalin's monument and meeting with Mikoyan". Mediamax. 23 May 2017. Cyrchwyd 21 August 2022. 'Mikoyan asked, 'So you're Armenian, right?' When I confirmed, he clapped me on the shoulder and said he was glad Armenians were doing well in America,' Edward Djerejian recalled.
  46. 46.0 46.1 46.2 Poghosyan, Yekaterina (29 May 2014). "Stalin's Man Mikoyan to Get Statue in Yerevan". Institute for War and Peace Reporting. Cyrchwyd 25 June 2014.
  47. 47.0 47.1 47.2 "Q&A With Pietro Shakarian: On Anastas Mikoyan, Armenia and Karabakh". USC Institute of Armenian Studies. 16 September 2020. Cyrchwyd 26 November 2022.
  48. Astsatryan, Yeghishe (2004). XX դար. Հայաստանի կառուցման ճանապարհին (yn Armenian). Yerevan: Edit Print. tt. 81–84.CS1 maint: unrecognized language (link)
  49. Libaridian, Gerard, gol. (1988). The Karabagh File: Documents and Facts on the Question of Mountainous Karabagh, 1918-1988. Cambridge, MA: Zoryan Institute. t. 69.
  50. Mikoyan, Anastas I. (2014). Так было. Размышления о минувшем (yn Russian). Moscow: Центрполиграф. t. 48. ISBN 9785227051097.CS1 maint: unrecognized language (link)
  51. Yuzefovich, Victor (1985). Aram Khachaturyan. New York: Sphinx Press. t. 128.
  52. Gasparyan, Albert (1992). I. C. Bagramyan. Moscow: MaRafon. tt. 300–303.
  53. "The Death of Stalin".