Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth.
Mae'r IPA wedi ei chynllunio i gynrychioli priodoleddau lleferydd sydd yn wahanredol yn yr iaith lafar yn unig, sef ffonemau, tonyddiaeth a gwahaniad geiriau a sillafau. Er mwyn cynrychioli priodoleddau lleferydd ychwanegol megis rhincian dannedd, siarad yn floesg, a seiniau wedi'u gwneud â thaflod hollt, defnyddir set estynedig o symbolau a elwir yn IPA Estynedig.
Ar hyn o bryd (2007), mae gan yr IPA 107 o lythrennau gwahanol a 56 o nodau acen a nodweddion mydryddol. Yn achlysurol, ychwanegir, gwaredir neu addasir symbolau gan y Gymdeithas Seinegol Ryngwladol.
Lle y ceir pâr o symbolau, cynrychiola'r un ar y chwith gytsain ddi-lais, ac ar y dde gytsain leisiol. Golyga'r sgwarau tywyll ynganiadau yr ystyrir eu bod yn amhosibl.
Mae'r seren (*) yn dilyn symbol sydd newydd ei hychwanegu at Unicode. Dylech weld v â bachyn ar y dde os oes fersiwn diweddar y ffontiau Charis SIL, Doulos SIL neu DejaVu Sans wedi'u gosod ar eich cyfrifiadur.