Cytsain ffaryngeal
Gwedd
Mewn seineg, yngenir cytsain ffaryngeal (neu argegol neu sefnigol) â bôn y tafod yn erbyn yr argeg.
Ceir y cytseiniaid ffaryngeal canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
| IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
| ʕ | cytsain amcanedig ffaryngeal | Hebraeg Mishnäig | עין | [ʕaːjin̪] | y llythyren Hebraeg ain |
| ħ | cytsain ffrithiol ffaryngeal ddi-lais | Hebraeg Mishnäig | חית | [ħeːθ] | y llythyren Hebraeg cheth |