Cytsain lotal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mewn seineg, yngenir cytsain lotal â'r camdwll, neu'r glotis. Mae llawer o seinegwyr yn credu mai cyflyrau trosiannol y camdwll ydyn nhw, neu'r "ffritholion" o leia, heb bwyntiau ynganiad fel sydd gan gytseiniaid eraill. Dyw rhai seinegwyr ddim yn eu hystyried nhw'n gytseiniaid o gwbl. Er hynny, mae'r ffrwydrolyn glotal yn ymddwyn fel cytsain arferol mewn ieithoedd fel yr iaith Tsou.

Ceir y cytseiniaid glotal canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):

IPA Disgrifiad Enghraifft
Iaith Sillafiad IPA Ystyr
ʔ cytsain ffrwydrol lotal ddi-lais Hawäieg ōlelo [ynganiad: [ʔ]ynganiad: [oːlelo]] iaith
ɦ cytsain "ffrithiol" lotal leisiol â llais anadlog Tsieceg Praha [ynganiad: [pra]ynganiad: [ɦ]ynganiad: [a]] Prag
h cytsain "ffrithiol" lotal ddi-lais Cymraeg hwch [ynganiad: [h]ynganiad: [uːχ]] hwch