Sillaf
Mae’r gair sillaf yn dod o’r gair Hen Roeg “συλλαβή”. Sillaf yw trefniad o synnau llafarol. Gan amlaf crëir sillaf o gnewyllyn sydd fel arfer yn llafariad gyda llythrennau eraill (fel arfer cytseiniaid) i gwblhau’r terfyniad/au.
Enghreifftiau[golygu | golygu cod]
- Un sillaf: cath, ci, mawr, ayyb.
- Dwy sillaf: mantell, dinas, cryno, ayyb.
- Tair sillaf: llythyron, ansoddair, cythreulig, ayyb.
Swyddogaeth y sillaf mewn barddoniaeth Gymraeg[golygu | golygu cod]
Mae gan feirdd yn y Gymraeg dasg anodd pan yn ysgrifennu cerddi gan eu bod yn gorfod dilyn rheolau llym y Gynghanedd. Mae’r gair cynghanedd yn golygu “harmoni”, ac mae’n rhaid cael y drefniad gywir o sain a syllafau i bob llinell, drwy ddefnyddio acenion, cyflythreniad ac odl. Mae’r gynghanedd wedi cael ei defnyddio am ganrifoedd gan y Cymry ac mae hi’n dal i gael ei defnyddio gan feirdd cyfoes yn y canu caeth.