Tsieineeg Mandarin

Oddi ar Wicipedia

Tafodiaith Tsieineeg ydy Mandarin (中文 ZhongWen; 汉语 HanYu 普通话 "yr iaith gyffredin"). Y dafodiaith "safonol" ydyw, gyda'r gair "mandarin" yn cyfeirio at y swyddog a gaed yn y Tsieina draddodiadol (er nad yw'r gair "mandarin" ei hun yn air Tsieineaidd).

Seilir Mandarin i ryw raddau ar dafodiaith Beijing, gan hepgor acen gref brodorion y ddinas honno. Hon yw'r iaith a ddefnyddir gan ddarllenwyr newyddion ar y teledu a'r radio.

Dylid nodi fod gwahaniaethau mawr rhwng yr iaith lafar a'r iaith a ddefnyddir mewn dogfennau swyddogol lle gwelir o bryd i'w gilydd eiriau a chystrawen yr iaith glasurol. Oherwydd i nifer o silliau ddatblygu'n debyg i'w gilydd crëwyd yn yr iaith lafar yr arfer o ychwanegu gair arall at un o'r geiriau hyn er mwyn arbed camddealltwriaeth. Gan fod y lluniau Hanzi (汉字) yn glir eu hystyr nid oes rhaid gwneud hyn wrth ysgrifennu. Dyma un rheswm am yr agendor rhwng yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig.

Serch hynny defnyddir llawer o ymadroddion o'r iaith ysgrifenedig draddodiadol yng nghanol yr iaith lafar, gan gynnwys y llu o ddywediadau pedwar llun. Er enghraifft,

骑虎难下 (qí hŭ nán xià / qi1hu3nan2xia4 - lle mae'r rhifau yn dynodi goslef y sill). Cyfieithiad llythrennol fyddai "Marchogaeth Teigr, anodd disgyn" a dynoda'r y dywediad sefyllfa sydd yn anodd parhau ynddi a hefyd yn anodd dod allan ohoni.

班门弄斧 (bān mén nòng fŭ) - Defnyddio bwyellt o flaen drws Ban (saer crefftus iawn). Ystyr hyn ydyw rhywun o allu pitw yn ceisio dangos ei hun o flaen arbennigwr.

九牛一毛 (jiŭ niú yī máo) - naw buwch un blewyn, hynny yw rhywbeth sy'n anodd dod o hyd iddo.

同床异梦 (tóng chuáng yì mèng) - cysgu yn yr un gwely ond breuddwydio breuddwydion gwahanol, hynny yw, sefyllfa lle y mae dau berson neu gwmni yn cydweithio ond gyda nodau gwahanol.

Noder hefyd mai yr un iaith ysgrifenedig sydd yn cael ei defnyddio gan siaradwyr pob tafodiaith o Tsieineeg. Dyma un rheswm am undod Tsieina dros y canrifoedd.