Vangelis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Vangelis
Vangelis, 26 July 2012.jpg
FfugenwVangelis, Βαγγέλης Edit this on Wikidata
GanwydEvángelos Odysséas Papathanassíou Edit this on Wikidata
29 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Agria Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mai 2022 Edit this on Wikidata
o COVID-19 Edit this on Wikidata
Label recordioRCA, Atlantic Records, Deutsche Grammophon, Universal Music Group Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Groeg Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Sciences Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Athens School of Fine Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, allweddellwr, arlunydd, artist recordio, cynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMythodea, Chariots of Fire, 1492 – Conquest of Paradise, Blade Runner Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth yr oes newydd, roc blaengar, cerddoriaeth electronig Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am y Sgôr Wreiddiol Gorau, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Commander of the Order of the Phoenix (Greece), Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata

Cerddor a chyfansoddwr Groegaidd oedd Evángelos Odysséas Papathanassiou (Groeg Ευάγγελος Οδυσσέας Παπαθανασίου [eˈvaɲɟelos oðiˈseas papaθanaˈsi.u]; 29 Mawrth 194317 Mai 2022), a elwir yn broffesiynol fel Vangelis (/væŋˈɡɛlɪs / vang-GHEL-iss ; Groeg: Βαγγέλης [vaɲˈɟelis]). Roedd yn gyfansoddwr caneuon a cynhyrchydd cerddoriaeth gerddorfaol electronig, flaengar, amgylchynol a chlasurol.[1] Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei sgôr a enillodd Wobr yr Academi i Chariots of Fire (1981), yn ogystal ag am gyfansoddi sgoriau i'r ffilmiau Blade Runner (1982), Missing (1982), Antarctica (1983), The Bounty (1984), 1492: Conquest of Paradise (1992), ac Alexander (2004), a defnyddiwyd ei gerddoriaeth yng nghyfres ddogfen PBS Cosmos: A Personal Voyage (1980) gan Carl Sagan.[1][2]

Yn enedigol o Agria, dechreuodd Vangelis ei yrfa yn gweithio gyda sawl band pop o'r 1960au fel The Forminx ac Aphrodite's Child, ac fe aeth albwm Aphrodite's Child - 666 (1972) ymlaen i gael ei gydnabod fel clasur roc blaengar-seicedelig.[1][3] Trwy gydol y 1970au, cyfansoddodd Vangelis sgoriau ar gyfer nifer o raglenni dogfen anifeiliaid, gan gynnwys L'Apocalypse des Animaux, La Fête sauvage ac Opéra sauvage; aeth llwyddiant y gerddoriaeth hyn ag ef i fyd sgorio ffilmiau. Ym 1975, sefydlodd ei stiwdio 16-trac newydd, Nemo Studios yn Llundain, a enwyd ganddo yn "labordy", gan ryddhau llawer o albymau stiwdio unigol lle bu'n arbrofi gyda cherddoriaeth a chysyniadau, gan gynnwys Heaven and Hell a China ymhlith eraill. Yn gynnar yn yr 1980s, ffurfiodd Vangelis bartneriaeth gerddorol gyda Jon Anderson, prif leisydd y band roc blaengar Yes, a rhyddhaodd y ddeuawd sawl albwm gyda'i gilydd fel “Jon and Vangelis”. Bu hefyd yn cydweithio ag Irene Papas ar ddau albwm o ganeuon traddodiadol a chrefyddol Groegaidd.

Yn 1980, cyfansoddodd y sgôr ar gyfer y ffilm Chariots of Fire, ac enillodd Wobr yr Academi am y Sgôr Wreiddiol Orau amdani. Aeth sengl o thema’r ffilm i frig siart Billboard Hot 100 yr Unol Daleithiau ac fe’i defnyddiwyd fel y gerddoriaeth gefndir yn seremonïau cyflwyno medalau enillwyr Gemau Olympaidd Llundain 2012.[1] Cyfansoddodd hefyd anthem swyddogol Cwpan y Byd FIFA 2002 a gynhaliwyd yng Nghorea a Japan.[4] Yn ei ugain mlynedd diwethaf, cydweithiodd Vangelis â NASA ac ESA ar brosiectau cerddoriaeth Mythodea, Rosetta a Juno to Jupiter, sef ei 23ain albwm stiwdio unigol (a'i olaf) yn 2021.

Yn dilyn gyrfa oedd yn ymestyn dros 50 mlynedd ym myd cerddoriaeth ac wedi iddo gyfansoddi a pherfformio mwy na 50 o albymau, ystyrior Vangelis yn un o’r ffigurau pwysicaf yn hanes cerddoriaeth electronig,[5][6][7] a cherddoriaeth ffilmiau cyfoes.[8] Roedd yn adnabyddus am ddefnyddio llawer o offerynnau electronig ar ffurf "cerddorfa led-glasurol un dyn" gan gyfansoddi a pherfformio ar y fersiwn gyntaf.[9]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Evángelos Odysséas Papathanassíou ar 29 Mawrth 1943 yn Agria, tref arfordirol ym Magnesia, Thessaly, Gwlad Groeg, a'i magu yn Athen.[10] Roedd ei dad Odysseus yn gweithio ym myd eiddo ac yn sbrintiwr amatur; dywedodd ei fab ei fod yn "caru gerddoriaeth yn fawr".[11][12] Roedd ganddo un brawd, Nikos. Datblygodd Vangelis ddiddordeb mewn cerddoriaeth yn bedair oed, gan gyfansoddi ar biano y teulu ac arbrofi gyda synau trwy osod hoelion a sosbenni cegin y tu mewn iddo a chyda sŵn clecian radio.[10][1][13] Pan oedd yn chwech oed cofrestrodd ei rieni ef ar gyfer gwersi cerdd, ond dywedodd Vangelis yn ddiweddarach fod ei ymdrechion i astudio "wedi methu" gan ei fod yn well ganddo ddatblygu techneg ar ei ben ei hun.[10] Roedd yn ystyried ei hun yn ffodus i beidio â mynychu ysgol gerdd, gan ei fod yn credu y byddai wedi amharu ar ei greadigrwydd.[1][5] Dysgodd chwarae o'r cof. “Pan ofynnodd yr athrawon i mi chwarae rhywbeth, byddwn yn smalio fy mod yn ei ddarllen ac yn chwarae ar y cof. Wnes i ddim eu twyllo, ond doedd dim ots gen i."

Canfu Vangelis fod cerddoriaeth Roegaidd draddodiadol yn arbennig o bwysig yn ei blentyndod, ond yn 12 datblygodd ddiddordeb mewn jazz a roc.[10][14] Yn 15, dechreuodd ffurfio bandiau ysgol, nid i chwarae caneuon cerddorion eraill, ond i gael hwyl. Cafodd Vangelis ei organ Hammond cyntaf yn 18 oed.[10] Ym 1963, cychwynnodd Vangelis a thri ffrind ysgol fand roc pum aelod The Forminx (neu The Formynx),[15] yn chwarae caneuon bandiau eraill a deunydd gwreiddiol a ysgrifennwyd yn bennaf gan Vangelis gyda geiriau Saesneg gan y DJ radio a chynhyrchydd recordiau Nico Mastorakis. Ar ôl naw sengl ac un EP Nadolig, a gafodd lwyddiant ar draws Ewrop, daeth y grŵp i ben ym 1966.[15]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

1963–1974: Prosiectau unigol cynnar a Aphrodite's Child[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn chwalu The Forminx, treuliodd Vangelis y ddwy flynedd nesaf yn y stiwdio yn bennaf, yn ysgrifennu ac yn cynhyrchu ar gyfer artistiaid Groegaidd eraill.[16] Sgoriodd gerddoriaeth ar gyfer tair ffilm Roegaidd; My Brother, the Traffic Policeman (1963) a gyfarwyddwyd gan Filippos Fylaktos,[17] 5,000 Lies (1966) gan Giorgos Konstantinou,[18] a To Prosopo tis Medousas (1967) gan Nikos Koundouros .[19]

Yn ystod y cyfnod hwn, bu Vangelis yn gweithio ar y sgorau i Frenzy (1966) i'r cyfarwyddwr Jan Christian,[17] i George Skalenakis ac Antique Rally (1966).[20]

Ym 1968, yn 25 oed, roedd Vangelis yn dymuno datblygu ei yrfa ac, ynghanol y cythrwfl gwleidyddol o amgylch gwrthryfel 1967, gadawodd Groeg am Lundain. Gwrthodwyd mynediad iddo i'r DU ac ymgartrefodd ym Mharis am y chwe blynedd nesaf.[10][21] Yn ddiweddarach yn 1968 ffurfiodd y band roc blaengar Aphrodite's Child gyda Demis Roussos, Loukas Sideras, ac Anargyros "Silver" Koulouris.[5] Roedd eu sengl gyntaf, “Rain and Tears”, yn llwyddiant masnachol yn Ewrop ac fe'i dilynwyd gan yr albymau End of the World (1968) ac It's Five O'Clock (1969). Creodd Vangelis y syniad o'u trydydd, 666 (1972), albwm cysyniadol dwbl yn seiliedig ar Lyfr y Datguddiad.[5] Ar ôl tensiynau cynyddol yn ystod y recordiad o 666, chwalodd y grŵp ym 1971. Byddai Vangelis yn cynhyrchu albymau a senglau yn y dyfodol ar gyfer eu canwr Demis Roussos.[16][22][23] Roedd Vangelis yn cofio ar ôl y chwalu: “Doeddwn i ddim yn gallu dilyn y ffordd fasnachol bellach, roedd yn ddiflas iawn. Mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth fel 'na yn y dechrau ar gyfer showbiz, ond ar ôl i chi ddechrau gwneud yr un peth bob dydd allwch chi ddim parhau."[24]

Rhwng 1970 a 1974, cymerodd Vangelis ran mewn amrywiol brosiectau unigol ym myd ffilm, teledu a theatr. Cyfansoddodd y sgôr ar gyfer Sex Power (1970) a gyfarwyddwyd gan Henry Chapier, ac yna Salut, Jerwsalem yn 1972 ac Amore yn 1974.[1] Ym 1971, cymerodd ran mewn cyfres o sesiynau jamio gyda cherddorion amrywiol yn Llundain a arweiniodd at ryddhau dau albwm heb ganiatâd Vangelis yn 1978: Hypothesis and The Dragon. Llwyddodd Vangelis i gymryd camau cyfreithiol i'w tynnu'n ôl. Ym 1972 rhyddhawyd ei albwm unigol cyntaf Fais que ton rêve soit plus long que la nuit, Ffrangeg ar gyfer Gwnewch Eich Breuddwyd Olaf Yn Hirach Na'r Nos. Fe'i hysbrydolwyd gan derfysgoedd myfyrwyr Ffrainc ym 1968, ac wedi hynny penderfynodd Vangelis ysgrifennu "poème symphonique" i fynegi ei undod â'r myfyrwyr,[21] yn cynnwys sioe gerdd gyda phytiau newyddion a chaneuon protest; roedd rhai geiriau'n seiliedig ar graffiti a beintiwyd ar waliau yn ystod y terfysgoedd.[25][26] Rhyddhawyd albwm trac sain o gerddoriaeth a berfformiwyd gan Vangelis ar gyfer cyfres ddogfen bywyd gwyllt 1970 gan Frédéric Rossif fel <i id="mw-A">L'Apocalypse des animaux</i> (1973).[25] Darparodd Vangelis gerddoriaeth hefyd ar gyfer y ffilm Amore gan Henry Chapier (1973).[27][28]

Ym 1973, rhyddhaodd Vangelis ei ail albwm unigol Earth, albwm wedi seilio ar offerynau traw gyda cherddorion ychwanegol amrywiol, gan gynnwys Robert Fitoussi a chyd-aelod Aphrodite's Child Silver Koulouris.[29] Perfformiodd y grŵp a rhyddhaodd sengl o'r enw "Who" yn 1974 dan yr enw Odyssey, gan gynnwys cyngerdd a gynhaliodd Vangelis yn Olympia Paris ym mis Chwefror 1974.[24] Rai misoedd yn ddiweddarach teithiodd Vangelis i Loegr am glyweliad gyda'r band roc blaengar Yes, ar ôl i'r canwr Jon Anderson ddod yn edmygwr o'i gerddoriaeth ac ei wahodd i gymryd lle'r allweddellwr oedd yn gadael - Rick Wakeman.[30] Ar ôl problemau gyda chael fisa gwaith ac Undeb y Cerddorion, a'i amharodrwydd i deithio gyda'r band, gwrthododd Vangelis. Cyflogodd y band Patrick Moraz, a ddefnyddiodd allweddellau Vangelis yn ei glyweliad.[21] Ym 1974, gadawodd Vangelis Baris am Lundain wrth iddo "dyfu'n fwy na Ffrainc". [31]

1975-1980: Symud i Lundain, datblygiad fel artist unigol, a Jon a Vangelis[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Awst 1975, ar ôl i Vangelis ymgartrefu mewn fflat yn Marble Arch, Llundain, lle sefydlodd ei stiwdio 16-trac newydd, Nemo Studios, a enwodd Vangelis ei "labordy",[11] sicrhaodd gytundeb recordio gyda RCA Records. [31][32] Byddai'n rhyddhau cyfres o albymau electronig ar gyfer RCA hyd at 1979;[1] mae'r gyntaf, Heaven and Hell, yn cynnwys yr English Chamber Choir a'r canwr Jon Anderson.[32] Wedi'i ryddhau ym mis Rhagfyr 1975, fe'i ddilynwyd gyda chyngerdd wedi ei werthu allan yn y Royal Albert Hall yn 1976.[33] Dilynwyd hyn gan Albedo 0.39 (1976), Spiral (1977), Beaubourg (1978), a Tsieina (1979), pob un â'u hysbrydoliaeth thematig eu hunain gan gynnwys y bydysawd, athroniaeth Tao, Canolfan Georges Pompidou, a diwylliant Tsieineaidd, yn y drefn honno.[33][34]

Lluniodd Vangelis y sgôr ar gyfer Do You Hear the Dogs Barking? a gyfarwyddwyd gan François Reichenbach. Rhyddhawyd hwn ym 1975 a'i ail-ryddhau ddwy flynedd yn ddiweddarach.[34] Ym 1976 rhyddhaodd Vangelis ei ail drac sain ar gyfer rhaglen ddogfen anifeiliaid Rossif, La Fête sauvage, a gyfunodd rhythmau Affricanaidd â cherddoriaeth y Gorllewin.[34] Dilynwyd hyn ym 1979 gan drydydd trac sain ar gyfer Rossif, Opéra sauvage. Bron mor adnabyddus â L'Apocalypse des animaux, daeth y trac sain hwn ag ef i sylw rhai o wneuthurwyr ffilm gorau'r byd. Byddai'r gerddoriaeth ei hun yn cael ei hail-ddefnyddio mewn ffilmiau eraill, gan gynnwys y trac "L'Enfant" yn The Year of Living Dangerously (1982) gan Peter Weir; gellir clywed alaw'r un trac (ar ffurf band gorymdeithio) hefyd ar ddechrau seremonïau agoriadol Gemau Olympaidd yr Haf 1924 yn y ffilm Chariots of Fire tra defnyddiwyd y trac "Hymne" mewn hysbysebion Barilla pasta yn yr Eidal a hysbysebion gwin Ernest &amp; Julio Gallo yn yr Unol Daleithiau.[35][36] Cydweithiodd Rossif a Vangelis eto ar gyfer Sauvage et Beau (1984) [37] a De Nuremberg à Nuremberg (1989).[38]

Ym 1979, rhyddhaodd Vangelis yr albwm Odes, a oedd yn cynnwys caneuon gwerin Groegaidd a berfformiwyd gan Vangelis a'r actores Irene Papas. Bu'n llwyddiant ar unwaith yng Ngwlad Groeg[34] ac fe'i dilynwyd gan ail albwm cydweithredol, Rapsodies, ym 1986.[36] Ym 1980 rhyddhawyd yr albwm arbrofol a dychanol See You Later.[39]

Ym 1979, ymunodd Vangelis â'r canwr Jon Anderson fel y ddeuawd Jon a Vangelis. Cyrhaeddodd eu halbwm cyntaf, Short Stories (1980), Rhif 4 yn y DU. Aethant ymlaen i ryddhau tri albwm arall; The Friends of Mr Cairo (1981), Private Collection (1983), a Page of Life (1991).[40][41][42][43] Roeddent yn cynnwys y senglau poblogaidd “I Hear You Now ”, “I’ll Find My Way Home” a "State of Independence”, gyda’r olaf yn dod yn sengl boblogaidd i Donna Summer.[8][44][45]

Mae cyfres deledu Carl Sagan Cosmos: A Personal Voyage (1980)[39] yn defnyddio sawl darn a gyfansoddwyd gan Vangelis yn ystod y 1970au, gan gynnwys thema agoriadol y gyfres, sef trydydd symudiad Nefoedd ac Uffern.[39] Ym 1986, chwaraeodd Vangelis ran weithredol yn y gwaith o gyfansoddi cerddoriaeth newydd ar gyfer rhifyn arbennig.[36] Roedd Vangelis yn cofio bod Sagan wedi anfon recordiadau ato o rai synau a gasglwyd gan loerennau, sef yr union beth a glywodd yn blentyn.[5]

1981–2002: Llwyddiant prif ffrwd[golygu | golygu cod y dudalen]

Vangelis yn 2012 gyda sêr yr addasiad llwyfan o Chariots of Fire

Ym 1980, cytunodd Vangelis i recordio'r sgôr ar gyfer Chariots of Fire (1981); derbyniodd oherwydd "Roeddwn i'n hoffi'r bobl roeddwn i'n gweithio gyda nhw. Roedd yn ffilm diymhongar iawn gyda chyllideb isel.” Roedd y dewis o gerddoriaeth yn anarferol gan fod y rhan fwyaf o ffilmiau'r cyfnod yn cynnwys sgorau cerddorfaol, tra bod cerddoriaeth Vangelis yn fodern ac yn canolbwyntio ar y syntheseinydd. Enillodd lwyddiant masnachol prif ffrwd a cynyddodd proffil Vangelis o ganlyniad.[46] Rhyddhawyd y darn teitl offerynnol agoriadol, " Titles ", a enwyd yn ddiweddarach yn "Chariots of Fire - Titles", fel sengl a gyrhaeddodd rif 1 ar siart Billboard Hot 100 yr Unol Daleithiau am wythnos ar ôl dringo pum mis.[47] Roedd yr albwm trac sain yn Rhif 1 ar y <i id="mwAaw">Billboard</i> 200 am bedair wythnos a gwerthodd filiwn o gopïau yn yr Unol Daleithiau. Ym mis Mawrth 1982, enillodd Vangelis Wobr yr Academi am y Sgôr Cerddoriaeth Wreiddiol Orau, ond gwrthododd fynychu'r seremoni wobrwyo,[46] yn rhannol oherwydd ei ofn o hedfan. Gwrthododd gynnig i aros mewn caban foethus ar fwrdd y Queen Elizabeth 2 ar gyfer teithio dros y dŵr.[48] Dywedodd Vangelis mai’r “prif ysbrydoliaeth oedd y stori ei hun. Gwnes y gweddill yn reddfol, heb feddwl am ddim arall, heblaw mynegi fy nheimladau gyda’r dulliau technolegol oedd ar gael i mi ar y pryd.” [49] Defnyddiwyd y gân yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 1984.[5]

Arweiniodd llwyddiant Chariots of Fire at gynigion pellach i Vangelis sgorio ffilmiau, ond llwyddodd i osgoi dod yn "ffatri o gerddoriaeth ffilm". Yn 1981, sgoriodd y ffilm ddogfen Pablo Picasso Painter gan Frédéric Rossif. Hon oedd y trydydd sgôr o'i fath gan Vangelis gan ei fod wedi sgorio rhaglenni dogfen am Georges Mathieu a Georges Braque o'r blaen. Cyfansoddodd sgôr Missing (1982) a gyfarwyddwyd gan Costa-Gavras, a enillodd y Palme d'Or ac a enillodd enwebiad i Vangelis am Wobr BAFTA am y Gerddoriaeth Ffilm Orau.[40] Mae traciau sain ffilm Vangelis eraill a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys Antarctica ar gyfer y ffilm Nankyoku Monogatari yn 1983, un o'r ffilmiau â'r gwerthiant mwyaf yn hanes ffilm Japan,[41] a The Bounty yn 1984.[37] Gwrthododd gynnig i sgorio 2010: The Year We Make Contact (1984), y dilyniant i 2001: A Space Odyssey.[46]

Ym 1981, cydweithiodd Vangelis â'r cyfarwyddwr Ridley Scott i sgorio ei ffilm ffuglen wyddonol, Blade Runner (1982).[50] Mae beirniaid wedi dweud bod sgôr Vangelis, wrth ddal arwahanrwydd a thristwch cymeriad Harrison Ford, Rick Deckard, yn gymaint rhan o'r amgylchfyd dystopaidd â'r adeiladau sy'n dadfeilio a'r glaw parhaol.[51] Enwebwyd y sgôr am wobr BAFTA a Golden Globe. Arweiniodd anghytundeb at Vangelis i atal caniatâd i ryddhau ei recordiadau, felly fe wnaeth y stiwdio gyflogi cerddorion a alwyd yn Gerddorfa America Newydd i ryddhau addasiadau cerddorfaol o'r sgôr wreiddiol. Ar ôl 12 mlynedd, rhyddhawyd gwaith Vangelis ei hun ym 1994 ond fe'i hystyrir yn anghyflawn gan fod y ffilm yn cynnwys cyfansoddiadau eraill Vangelis nad oeddent wedi'u cynnwys. Yn 2007, rhyddhawyd blwch set o'r sgôr i goffau 25 mlynedd ers sefydlu'r ffilm, yn cynnwys albwm 1994, rhai ciwiau cerddoriaeth heb eu rhyddhau o'r blaen, a deunydd Vangelis gwreiddiol newydd a ysbrydolwyd gan Blade Runner.[52]

Ym 1992, rhyddhaodd Paramount Pictures y ffilm 1492: Conquest of Paradise, a gyfarwyddwyd hefyd gan Ridley Scott, i goffáu 500 mlwyddiant taith Christopher Columbus i'r Byd Newydd. Enwebwyd sgôr Vangelis fel "Sgôr Wreiddiol Orau - Motion Picture" yng ngwobrau Golden Globe 1993, ond ni chafodd ei enwebu am Wobr yr Academi.[53] Oherwydd ei lwyddiant, enillodd Vangelis Wobr Echo fel "Artist Rhyngwladol y Flwyddyn", a Gwobr Golden Lion RTL am y "Thema Teitl Gorau ar gyfer Ffilm Deledu neu Gyfres" yn 1996. [54]

Ysgrifennodd Vangelis y sgôr ar gyfer y ffilm Bitter Moon (1992) a gyfarwyddwyd gan Roman Polanski, a The Plague a gyfarwyddwyd gan Luis Puenzo.[42][55] Yn y 90au, sgoriodd Vangelis raglenni dogfen tanfor ar gyfer yr ecolegydd a'r gwneuthurwr ffilmiau o Ffrainc, Jacques Cousteau, a dangoswyd un ohonynt yn Uwchgynhadledd y Ddaear. [42] [56] Enillodd sgôr y ffilm Cavafy (1996) a gyfarwyddwyd gan Yannis Smaragdis,[42] wobr yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Fflandrys Ghent a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Valencia.[54]

Cynyrchiadau theatr a llwyfan[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn gynnar yn yr 1980au dechreuodd Vangelis gyfansoddi ar gyfer bale a dramâu llwyfan. [41] Ym 1983 ysgrifennodd y gerddoriaeth ar gyfer llwyfaniad Michael Cacoyannis o'r drasiedi Roegaidd Elektra a berfformiwyd gydag Irene Papas yn yr amffitheatr awyr agored yn Epidavros yng Ngwlad Groeg. Yr un flwyddyn cyfansoddodd Vangelis ei sgôr bale cyntaf, ar gyfer cynhyrchiad gan Wayne Eagling. Fe'i perfformiwyd yn wreiddiol gan Lesley Collier ac Eagling ei hun mewn gala Amnest Rhyngwladol yn theatr Drury Lane.[41] Ym 1984 cyflwynodd y Royal Ballet School y gwaith eto yn theatr Sadler's Wells. Ym 1985 a 1986, ysgrifennodd Vangelis gerddoriaeth ar gyfer dau fale arall: "Frankenstein - Modern Prometheus"[36] a "The Beauty and the Beast".[38] Ym 1992, ysgrifennodd Vangelis y gerddoriaeth ar gyfer ailosodiad o ddrama Euripides, Medea, a oedd yn cynnwys Irene Papas.[42][57] Yn 2001 cyfansoddodd ar gyfer trydedd ddrama yn serennu Papas, ac ar gyfer fersiwn o The Tempest gan William Shakespeare a lwyfannwyd gan y cyfarwyddwr Hwngari György Schwajdas. [58]

Albymau unigol a chydweithredu[golygu | golygu cod y dudalen]

Cydweithiodd Vangelis ym 1976 gyda’r gantores Eidalaidd Patty Pravo gyda’r albwm Tanto a’r gantores Eidalaidd Milva yn llwyddo, yn enwedig yn yr Almaen, gyda’r albymau Ich hab’ keine Angst hefyd wedi’u cyfieithu yn Ffrangeg fel Moi, Je N’ai Pas Peur (1981) a Geheimnisse yn 1986 (Does gen i ddim ofn na Chyfrinachau), cyfieithwyd hefyd yn Eidaleg fel Tra due sogni.[59][60][61]

Roedd albwm Eidaleg Nana Mouskouri yn cynnwys ei pherfformaiad o gyfansoddiad Vangelis "Ti Amerò". Roedd cydweithrediadau gyda'r telynoreswr Mikalis Bourboulis, a ganwyd gan Maria Farantouri, yn cynnwys y traciau "Odi A", "San Elektra", a "Tora Xero".

Rhyddhaodd Vangelis Soil Festivities ym 1984. Fe'i hysbrydolwyd yn thematig gan y rhyngweithio rhwng natur a'i chreaduriaid byw microsgopig; Cymerodd Invisible Connections (1985) ysbrydoliaeth o fyd gronynnau elfennol anweledig i'r llygad noeth;[37] Ysbrydolwyd Mask (1985) gan thema'r mwgwd, gwrthrych hynafol a ddefnyddiwyd yn yr hen amser ar gyfer cuddio neu ddifyrrwch;[46] a Direct (1988). Yr olaf o'r ymdrechion uchod oedd yr albwm cyntaf i'w recordio yn oes Vangelis ar ôl Nemo Studios.[38]

Perfformiodd Vangelis ei unig gyngerdd yn yr Unol Daleithiau ar 7 Tachwedd 1986 yn Royce Hall ar gampws Prifysgol California, Los Angeles. Roedd yn cynnwys ymddangosiad gwestai arbennig gan Jon Anderson.[12]

Roedd pum albwm unigol arall yn y 1990au; recordiwyd The City (1990) pan oedd yn aros yn Rhufain yn 1989, ac roedd yn adlewyrchu diwrnod o fywyd prysur yn y ddinas, o wawr hyd y cyfnos;[38] Roedd Voices (1995) yn cynnwys caneuon synhwyrus wedi'u llenwi â cherddorfeydd nosol; Archwiliodd Oceanic (1996) thema o ddirgelwch bydoedd tanddwr a hwylio môr;[62] a dau albwm clasurol am El Greco - Foros Timis Ston Greco (1995), a gafodd ryddhad cyfyngedig, ac El Greco (1998), a oedd yn ehangiad o'r cyntaf.[63]

Digwyddiadau chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Gosodwyd darllediad teledu Sport Aid (1986) i gerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig gan Vangelis.[36] Fe luniodd a llwyfannodd seremoni Pencampwriaethau Athletau'r Byd 1997 a gynhaliwyd yng Ngwlad Groeg. Ef hefyd a gyfansoddodd y gerddoriaeth, a dyluniodd a chyfarwyddodd y darn gyda'r ras gyfnewid baner Olympaidd ("Hndover to Athens"), o seremonïau cloi Gemau Olympaidd yr Haf 2000 yn Sydney.[64] Er nad oes recordiad swyddogol o'r cyfansoddiad hwn yn bodoli, gellir clywed y gerddoriaeth yn cyd-fynd â chyflwyniad arwyddlun Gemau Athen 2004. Yn 2002, creodd Vangelis yr Anthem swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2002.[65] Clywyd ei waith gan Chariots of Fire yn ystod seremoni agoriadol Gemau Olympaidd yr Haf 2012.[66]

2001–2021: Prosiectau cerddoriaeth gyda NASA ac ESA[golygu | golygu cod y dudalen]

Vangelis yn derbyn ei ddoethuriaeth er anrhydedd ym Mhrifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen yn 2008

Yn 2001, perfformiodd Vangelis yn fyw, ac wedi hynny fe ryddhawyd, y symffoni gorawl Mythodea, a ddefnyddiwyd gan NASA fel thema ar gyfer cenhadaeth Mars Odyssey. Darn cerddorfaol yn bennaf yw hwn yn hytrach nag electronig a ysgrifennwyd yn wreiddiol yn 1993.[67] Yn 2004, rhyddhaodd Vangelis y sgôr ar gyfer Alexander gan Oliver Stone, gan barhau â'i gysylltiad â phrosiectau'n ymwneud â Gwlad Groeg.[5][68]

Rhyddhaodd Vangelis ddau albwm yn 2007; y cyntaf oedd set 3-CD ar gyfer 25 mlynedd ers Blade Runner, o'r enw Blade Runner Trilogy a'r ail oedd y trac sain ar gyfer y ffilm Roegaidd, El Greco a gyfarwyddwyd gan Yannis Smaragdis, dan y teitl El Greco Original Motion Picture Soundtrack.[69][70][71]

Ar 11 Rhagfyr 2011, gwahoddwyd Vangelis gan Bentref Diwylliannol Katara yn nhalaith Qatar i greu, dylunio, cyfarwyddo a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer agoriad ei amffitheatr awyr agored. Gwelwyd y digwyddiad gan nifer o arweinwyr y byd a phwysigion a gymerodd ran ym 4ydd Fforwm Cynghrair Gwareiddiadau'r Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd yn ninas Doha. Perfformiodd yr actor Prydeinig Jeremy Irons rôl meistr y seremonïau, ac roedd y digwyddiad yn cynnwys sioe ysgafn gan yr artist Almaeneg Gert Hof. Cafodd ei ffilmio ar gyfer datganiad fideo gan y gwneuthurwr ffilmiau Prydeinig Hugh Hudson.[49][72]

Yn 2012, ail-offerynodd ac ychwanegodd Vangelis ddarnau newydd at ei drac sain eiconig Chariots of Fire, i'w ddefnyddio yn yr addasiad llwyfan o'r un teitl.[49][73] Cyfansoddodd drac sain y ffilm ddogfen amgylcheddol Trashed (2012) a gyfarwyddwyd gan Candida Brady ac yn serennu Jeremy Irons.[74] Rhyddhawyd ffilm ddogfen o'r enw Vangelis And The Journey to Ithaka yn 2013.[7] Cyfansoddodd hefyd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm Twilight of Shadows (2014) a gyfarwyddwyd gan Mohammed Lakhdar-Hamina.[75]

Ar gyfer glaniad y glaniwr Philae ar Comet 67P ar 12 Tachwedd 2014 (rhan o daith Rosetta yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd), cyfansoddodd Vangelis dri darn byr o'r enw "Arrival", "Rosetta's Waltz", a "Philae's Journey". Rhyddhawyd y darnau ar-lein fel fideos ynghyd â delweddau ac animeiddiadau o genhadaeth Rosetta.[76] Fe’i dyfynnwyd gan ESA yn dweud, “Mae mytholeg, gwyddoniaeth ac archwilio’r gofod yn bynciau sydd wedi fy swyno ers fy mhlentyndod cynnar. Ac roedden nhw bob amser yn gysylltiedig rhywsut â'r gerddoriaeth rydw i'n ei hysgrifennu". Ym mis Medi 2016, rhyddhawyd y gweithiau fel rhan o'r albwm stiwdio newydd Rosetta.[77] Yn 2018, cyfansoddodd Vangelis sgôr wreiddiol ar gyfer cofeb Stephen Hawking. Tra bod llwch Hawking yn cael ei gladdu yn Abaty Westminster, cafodd y gerddoriaeth a oedd yn cefnogi geiriau Hawking ei drawsyrru gan yr ESA i'r twll du agosaf at y Ddaear.[78][79] Teyrnged bersonol ydoedd gan Vangelis,[80] a rhannwyd cryno ddisg gyfyngedig o'r enw "The Stephen Hawking Tribute" gyda'r teulu a dros 1,000 o westeion.[81]

Ar 25 Ionawr 2019, rhyddhawyd albwm stiwdio newydd, Nocturne: The Piano Album, sy’n cynnwys cyfansoddiadau hen a newydd a chwaraeir ar biano crand ac a gafodd eu “ysbrydoli gan y nos, ac angerdd hirsefydlog Vangelis am y gofod”.[82] Fodd bynnag, roedd Vangelis yn cofio ei fod o dan bwysau o fath gan y cwmni recordiau i'w rhyddhau a chynnwys hen gyfansoddiadau.[83] Yn yr un flwyddyn, ysgrifennodd Vangelis sgôr electro-cerddorfaol wedi'i gwreiddio mewn cerddoriaeth ethnig ar gyfer The Thread, darn dawns modern a grëwyd gan Russell Maliphant a ysbrydolwyd gan fytholeg Roegaidd a dawnsiau Hellenig.[83] Derbyniodd adolygiadau cadarnhaol iawn,[84][85][86][87] a rhyddhawyd ei CD a DVD mewn rhifyn cyfyngedig arbennig gan Andromeda Music.[88] Ar brosiect y Maliphant's bu'n cydweithio â'r dylunydd ffasiwn Mary Katrantzou, ac unwaith eto cyfansoddodd gerddoriaeth newydd ar gyfer sioeau ffasiwn Katrantzou.[89][90][91][92]

Ar 24 Medi 2021, rhyddhaodd Vangelis Juno to Jupiter, ei albwm stiwdio olaf. Cafodd ei hysbrydoli gan long ofod Juno NASA, ac roedd yn cynnwys y soprano Angela Gheorghiu yn canu ar sawl trac.[93][94]

Bywyd personol a marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

I gerddor o'i fri, ychydig a wyddys am fywyd personol Vangelis ac anaml y byddai'n rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr.[83] Yn 2005, dywedodd nad oedd "byth â diddordeb" yn "ffordd o fyw anweddus" ei ddyddiau band, gan ddewis peidio â defnyddio alcohol neu gyffuriau eraill.[5] Ychydig iawn o ddiddordeb oedd ganddo hefyd ym musnes y diwydiant cerddoriaeth a cheisio am enwogrwydd, gan sylweddoli “nad yw llwyddiant a chreadigrwydd pur yn gydnaws iawn. Po fwyaf llwyddiannus y byddwch yn dod, y mwyaf y byddwch yn dod yn ynghlwm â rhywbeth sy'n cynhyrchu arian."[9][48][49] Yn hytrach, roedd yn ei ddefnyddio i fod mor rhydd ac annibynnol â phosibl ac yn aml yn gwrthod y cyfle i hyrwyddo neu fanteisio ar ei enwogrwydd.[48]

Nid oedd man preswyl Vangelis yn hysbys yn gyhoeddus; yn lle setlo mewn un lle neu wlad, dewisodd "teithio o gwmpas".[5] Nid oedd ganddo blant; yn 2005, roedd yn ei drydedd berthynas hirdymor a dywedodd: "Ni allwn ofalu am blentyn yn y ffordd yr wyf yn meddwl y dylid gofalu amdano."[5] Mae dyfyniadau o gyfweliadau eraill yn sôn bod Vangelis wedi priodi ddwywaith o'r blaen, ac roedd un ohonynt â'r ffotograffydd Ffrengig Veronique Skawinska, a gynhyrchodd waith ar gyfer rhai o'i albymau.[23][95] Mae cyfweliad ym 1982 â Backstage yn awgrymu bod Vangelis yn briod o'r blaen â'r gantores Roegaidd Vana Veroutis,[96][97] a ddarparodd leisiau ar gyfer rhai o'i recordiau.[98][99]

Er ei fod yn berson preifat iawn, yn ôl llawer y sôn roedd yn ddyn "hawdd mynd ato", "neis iawn" a "llawn hiwmor", a oedd yn mwynhau cynulliadau cyfeillgar hir, wedi'i swyno gan athroniaeth Groeg yr Henfyd, gwyddoniaeth a ffiseg cerddoriaeth a sain, ac archwilio'r gofod.[9][83] Roedd ei weithgareddau dyddiol yn ymwneud yn bennaf â chyfuno a chwarae ei offerynnau electronig a'r piano. [9][83] Roedd hefyd yn mwynhau peintio.[9] Cynhaliwyd ei arddangosfa gyntaf, o 70 o beintiadau, yn 2003 yn Almudin yn Valencia, Sbaen. Teithiodd y lluniau wedyn i Dde America tan ddiwedd 2004.[49][100][101]

Bu farw Vangelis o fethiant y galon ar 17 Mai 2022, yn 79 oed, mewn ysbyty ym Mharis lle roedd yn cael triniaeth am COVID-19.[102][103][104]

Arddull a chyfansoddiad cerddorol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae arddull gerddorol Vangelis yn amrywiol iawn; er ei fod yn defnyddio offerynnau cerdd electronig yn bennaf, sy'n nodweddu cerddoriaeth electronig, mae ei gerddoriaeth wedi'i disgrifio fel cymysgedd o electronica,[105] clasurol (roedd ei gerddoriaeth yn aml yn symffonig), roc blaengar,[106] jazz (byrfyfyr), amgylchol,[106][107]avant-garde / arbrofol,[106][108] a cerddoriaeth byd.[46][109] Weithiau mae Vangelis yn cael ei gategoreiddio fel cyfansoddwr Oes-newydd,[108] disgrifiad y mae eraill wedi'i ddadlau. Roedd Vangelis ei hun yn galw cerddoriaeth Oes-newydd yn arddull a oedd yn "rhoi cyfle i bobl ddi-dalent wneud cerddoriaeth ddiflas iawn".[5]

Fel cerddor a oedd bob amser yn cyfansoddi ac yn chwarae'n bennaf ar allweddellau, roedd Vangelis yn dibynnu'n helaeth ar syntheseisyddion[110] a dulliau electronig eraill o gerddoriaeth. Bu hefyd yn chwarae ac yn defnyddio llawer o offerynnau acwstig (gan gynnwys gwerin[1]) a chorau:

Dywedodd Synthtopia, gwefan adolygu cerddoriaeth electronig, y gellid cyfeirio at gerddoriaeth Vangelis fel "electronica symffonig"[1] oherwydd ei ddefnydd o syntheseisyddion mewn modd cerddorfaol. Aeth y wefan ymlaen i ddisgrifio ei gerddoriaeth fel melodig : "gan dynnu ar alawon cerddoriaeth werin, yn enwedig cerddoriaeth Roegaidd ei famwlad".[111] Mae cerddoriaeth a chyfansoddiadau Vangelis hefyd wedi'u disgrifio fel "sŵn nodweddiadol gydag alawon syml, ailadroddus ond cofiadwy yn erbyn rhythmau atgofus a dilyniant cordiau."[112] Organ Hammond B3 oedd ei offeryn trydan cyntaf, a Korg 700 monoffonig oedd ei syntheseisydd cyntaf.[13] Roedd yn aml yn defnyddio vibrato ar ei syntheseisyddion, a oedd yn cael ei wneud mewn ffordd nodedig ar ei syntheseisydd polyffonig Yamaha CS-80 - gan amrywio'r pwysau a roddwyd ar yr allwedd i gynhyrchu'r sain vibrato mynegiannol. Mewn cyfweliad ym 1984 disgrifiodd Vangelis y CS-80 fel "Syntheseisydd pwysicaf fy ngyrfa - ac i mi y dyluniad syntheseisydd analog gorau a fu erioed."[13]

Mewn cyfweliad â Soundtrack, gwefan cerddoriaeth a ffilm, siaradodd Vangelis am ei broses cyfansoddi. Ar gyfer ffilmiau, dywedodd Vangelis y byddai'n dechrau cyfansoddi sgôr ar gyfer nodwedd cyn gynted ag y byddai wedi gweld toriad bras o'r ffilm.[113] Yn ogystal â gweithio gyda syntheseisyddion ac offerynnau electronig eraill, bu Vangelis hefyd yn gweithio gyda cherddorfeydd ac yn eu harwain. Er enghraifft, yn y ffilm Alexander, arweiniod Vangelis gerddorfa a oedd yn cynnwys amryw o offerynnau clasurol gan gynnwys sitars, offerynnau taro, symbalau bys, telynau a duduks.

Ar un adeg, defnyddiodd Vangelis y samplwr E-mu Emulator.[13] Tra'n cydnabod bod cyfrifiaduron yn "hynod o gymwynasgar ac anhygoel ar gyfer llu o feysydd gwyddonol", fe'u disgrifiodd fel rhai "annigonol ac araf" ar gyfer y greadigaeth uniongyrchol a digymell ac, o ran cyfathrebu, "y peth gwaethaf sydd wedi digwydd i'r cerddor sy'n perfformio".[49][13] Roedd o'r farn bod gwareiddiad cyfoes yn byw mewn "oes dywyll" ddiwylliannol o "lygredd cerddorol". Ystyriai cyfansoddi cerddorol fel gwyddoniaeth yn hytrach na chelfyddyd, tebyg i Pythagoreaniaeth.[5] Roedd ganddo safbwynt cyfriniol ar gerddoriaeth fel "un o'r grymoedd mwyaf yn y bydysawd",[49][114] a fod "cerddoriaeth yn bodoli cyn i ni fodoli".[5] Mae rhai yn ystyried bod ei brofiad o gerddoriaeth yn fath o synaesthesia.[5]

Anrhydeddau ac etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1989 derbyniodd Vangelis Wobr Max Steiner.[54] Gwnaeth Ffrainc ef yn Farchog Urdd y Celfyddydau a Llythyrau yn 1992 a'i ddyrchafu'n Gomander yn 2017,[115] yn ogystal â Marchog Urdd Lleng er Anrhydedd yn 2001.[116] Ym 1993 derbyniodd y wobr gerddoriaeth Apollo gan Gyfeillion Cymdeithas Opera Genedlaethol Athen.[54] Ym 1995, cafodd blaned leiaf ei enwi ar ei gyfer (6354 Vangelis) gan Ganolfan Mân Blanedau (MPC) yr Undeb Seryddol Rhyngwladol yn Arsyllfa Astroffisegol Smithsonian; cynigiwyd yr enw gan gyd-gyfarwyddwr yr MPC, Gareth V. Williams, yn hytrach na chan ddarganfyddwr gwreiddiol y gwrthrych, Eugène Joseph Delporte, a fu farw yn 1955, ymhell cyn y gellid cadarnhau darganfyddiad 1934 gan sylwadau a wnaed yn 1990. Ym 1996 a 1997, derbyniodd Vangelis wobrau yng Ngwobrau Cerddoriaeth y Byd.[54]

Rhoddodd NASA eu Medal Gwasanaeth Cyhoeddus i Vangelis yn 2003. Y wobr yw'r anrhydedd uchaf y mae'r asiantaeth ofod yn ei chyflwyno i unigolyn nad yw'n ymwneud â llywodraeth America. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2008, pleidleisiodd bwrdd Prifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athens i ddyfarnu gradd doethur er anrhydedd i Vangelis, gan ei wneud yn athro emeritws yn eu Cyfadran Addysg Gynradd. Ym mis Mehefin 2008, anrhydeddodd Sefydliad Hellenig America Vangelis â Gwobr Cyflawniad Treftadaeth Hellenig AHI am ei "gyflawniadau artistig eithriadol" fel arloeswr mewn cerddoriaeth electronig ac am ei ymroddiad gydol oes i hyrwyddo Helleniaeth trwy'r celfyddydau. Ar 16 Medi 2013, derbyniodd yr anrhydedd o ymddangos ar stamp post Groeg 80 cent, fel rhan o gyfres o chwe phersonoliaeth fyw nodedig o'r Alltudion Groegaidd.[117] Ym mis Mai 2018 dyfarnodd Prifysgol Thessaly yn nhref enedigol Vangelis, Volos, radd doethuriaeth er anrhydedd iddo mewn peirianneg drydanol a chyfrifiadurol.[118]

Enwebodd Sefydliad Ffilm America sgoria Vangelis ar gyfer Blade Runner a Chariots of Fire am eu rhestr o'r 25 sgôr ffilm gorau erioed. [119]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 1.9 Thomas S. Hischak (2015). The Encyclopedia of Film Composers. Rowman & Littlefield. tt. 386–388. ISBN 978-1-4422-4550-1.
  2. Beaumont-Thomas, Ben (19 Mai 2020). "Vangelis, composer of Chariots of Fire and Blade Runner soundtracks, dies aged 79". The Guardian. Cyrchwyd 20 Mai 2022.
  3. "Prog Reviews review of 666". Ground & Sky. 5 Ionawr 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2009. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2008.
  4. "FIFA World Cup Official Songs: Every Anthem from 1962–2022". Goal (website). Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  5. 5.00 5.01 5.02 5.03 5.04 5.05 5.06 5.07 5.08 5.09 5.10 5.11 5.12 5.13 Peter Culshaw (6 Ionawr 2005). "My Greek odyssey with Alexander". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  6. Jason Ankeny. [[[:Nodyn:AllMusic]] "Vangelis Biography"] Check |url= value (help). AllMusic. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2008.
  7. 7.0 7.1 "Vangelis And The Journey to Ithaka Documentary Now Available". Synthtopia.com. 4 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 23 Awst 2016.
  8. 8.0 8.1 "Vangelis: Chariots of Fire and Blade Runner composer dies at 79". BBC. 19 Mai 2022. Cyrchwyd 20 Mai 2022.
  9. 9.0 9.1 9.2 9.3 9.4 Paphitis, Nicholas (19 Mai 2022). "Vangelis, the Greek 'Chariots of Fire' composer, dies at 79". Associated Press. Cyrchwyd 20 Mai 2022.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 Doerschuk, Bob (Awst 1982). "Oscar-winning Synthesist". Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2017.
  11. 11.0 11.1 Harrison, Tom (22 Tachwedd 1981). "Vangelis, speaking from his laboratory". The Province. Cyrchwyd 27 Ionawr 2019 – drwy Newspapers.com.
  12. 12.0 12.1 Christon, Lawrence (7 Tachwedd 1986). "Vangelis and His Friend, the Synthesizer". Los Angeles Times. Cyrchwyd 27 Ionawr 2019.
  13. 13.0 13.1 13.2 13.3 13.4 Dan Goldstein (Tachwedd 1984), "Soil Festivities Vangelis Speaks", Electronics & Music Maker, http://www.nemostudios.co.uk/vangelis/interviews/emm/emm.htm, adalwyd 22 Awst 2016
  14. Yves Bigot (Ionawr 1984). "Vangelis analyses his syntheses". Cyrchwyd 22 Awst 2016.
  15. 15.0 15.1 "The Forminx". Vangelis Movements. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2008.
  16. 16.0 16.1 Blue Point Cyrchwyd 11 Hydref 2008
  17. 17.0 17.1 "Early Soundtracks".
  18. "Vangelis Collector - Movies - 5000 Lies". vangeliscollector.com.
  19. "To prosopo tis Medousas- Soundtrack details - SoundtrackCollector.com". www.soundtrackcollector.com.
  20. "Vangelis Collector - Music - Zoe Kouroukli". vangeliscollector.com.
  21. 21.0 21.1 21.2 Lake, Steve (10 Awst 1974). "Greek Group". Melody Maker. Cyrchwyd 26 Ionawr 2019.
  22. Prog Archives bio of AC Cyrchwyd 21 Awst 2008
  23. 23.0 23.1 Elsewhere Oor Cyrchwyd 12 October
  24. 24.0 24.1 Gilbet, Jerry (9 Mawrth 1974). "Vangelis – Obscure genius". Sounds. Cyrchwyd 26 Ionawr 2019.
  25. 25.0 25.1 "Nemo: Vangelis – chapter 1". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  26. Album review Cyrchwyd 20 Awst 2008
  27. "Amore". www.vangelismovements.com. Cyrchwyd 20 Mai 2022.
  28. "Vangelis Papathanassiou - Amore (Musique Originale De Vangelis Papathanassiou)". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Mai 2022.
  29. Groove NL reviews Cyrchwyd 2 Medi 2008
  30. Paul Simpson. "Jon & Vangelis | Biography & History". AllMusic. Cyrchwyd 5 Medi 2019.
  31. 31.0 31.1 Salewicz, Chris (16 Awst 1975). "The Greek Connection". NME. Cyrchwyd 26 Ionawr 2019.
  32. 32.0 32.1 "Vangelis' Heaven and Hell". Beat Instrumental. Rhagfyr 1975. Cyrchwyd 26 Ionawr 2019.
  33. 33.0 33.1 "Nemo: Vangelis – chapter 2". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  34. 34.0 34.1 34.2 34.3 "Nemo: Vangelis – chapter 3". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  35. [[[:Nodyn:AllMusic]] All Music review of Opera.] Cyrchwyd 2 Medi 2008
  36. 36.0 36.1 36.2 36.3 36.4 "Nemo: Vangelis – chapter 8". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  37. 37.0 37.1 37.2 "Nemo: Vangelis – chapter 7". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  38. 38.0 38.1 38.2 38.3 "Nemo: Vangelis – chapter 9". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  39. 39.0 39.1 39.2 "Nemo: Vangelis – chapter 4". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  40. 40.0 40.1 "Nemo: Vangelis – chapter 5". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  41. 41.0 41.1 41.2 41.3 "Nemo: Vangelis – chapter 6". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  42. 42.0 42.1 42.2 42.3 42.4 "Nemo: Vangelis – chapter 10". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  43. Conolly discography of J&V Cyrchwyd 25 Medi 2008
  44. "The Official Charts Company - Jon And Vangelis - State Of Independence". Official Charts. Cyrchwyd 16 Mawrth 2009.
  45. [[[:Nodyn:AllMusic]] "Allmusic review"] Check |url= value (help). Cyrchwyd 27 Ebrill 2018.
  46. 46.0 46.1 46.2 46.3 46.4 John Schaefer (Mehefin 1985). "New Sounds". Spin. Cyf. 1 rhif. 2. t. 49. ISSN 0886-3032.
  47. [[[:Nodyn:AllMusic]] AMG review of Chariots of Fire]. Cyrchwyd 25 Medi 2008
  48. 48.0 48.1 48.2 Duncan, Andrew (21 Tachwedd 1982). "Mechanic of Music". Telegraph Sunday Magazine. Cyrchwyd 10 Chwefror 2019.
  49. 49.0 49.1 49.2 49.3 49.4 49.5 49.6 Allegra Donn (1 Gorffennaf 2012). "Vangelis: why Chariots of Fire's message is still important today". The Guardian. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  50. Vangelis's Blade Runner film score Cyrchwyd 12 Chwefror 2012
  51. Synthtopia BR review Cyrchwyd 27 Tachwedd 2008
  52. Play.com BR Tri. Product page Cyrchwyd 20 Awst 2008
  53. 1492: Conquest of Paradise soundtrack review at Filmtracks.com Cyrchwyd 25 Medi 2008
  54. 54.0 54.1 54.2 54.3 54.4 "Vangelis Papathanassiou by Gus Leous". Newsfinder.Org. 7 Mawrth 2003. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  55. Internet Movie Database Cyrchwyd 13 Ebrill 2012
  56. Proggnosis Web-site Cyrchwyd 25 Medi 2008
  57. Dennis Lodewijks. "Elsewhere: Other Music". Elsew.com. Cyrchwyd 25 Medi 2008.
  58. "Nemo: Vangelis – chapter 13". Nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  59. "Milva - Moi, Je N'ai Pas Peur".
  60. "Milva - Tra Due Sogni".
  61. "Patty Pravo - Tanto".
  62. "Nemo: Vangelis – chapter 11". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  63. "Nemo: Vangelis – chapter 12". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  64. Myles Garcia (2014). Secrets of the Olympic Ceremonies. eBookIt. ISBN 978-1-4566-0808-8.
  65. Prog archives single Cyrchwyd 26 Medi 2008
  66. Sophia Heath (19 Mehefin 2012). "London 2012 Olympics: the full musical playlist for the Olympic opening ceremony". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  67. Tracksounds Review Cyrchwyd 26 Medi 2008
  68. Synthtopia Review of Alex. S.T. Cyrchwyd 26 Medi 2008
  69. "Nemo: Vangelis – chapter 15". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  70. Synthopia Trilogy Preview Cyrchwyd 26 Medi 2008
  71. Elsewhere albums page Cyrchwyd 26 Medi 2008
  72. Peter Townson (13 Rhagfyr 2011). "Cultural village amphitheatre opens with inspiring concert". Gulf Times. Cyrchwyd 27 Rhagfyr 2011.
  73. Jasper Rees (3 Mai 2012). "Chariots of Fire: The British are coming... again". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  74. Leo Hickman (11 Rhagfyr 2012). "Jeremy Irons talks trash for his new environmental documentary". The Guardian. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  75. Alejandro Clavijo (14 Mai 2014). "Vangelis compone la banda sonora de la última película del director argelino Mohammed Lakhdar-Hamina". Reviews New Age. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  76. Claudia (19 Rhagfyr 2014). "Music Of The Irregular Spheres". European Space Agency. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  77. "Rosetta CD". uDiscover. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2016. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  78. "Stephen Hawking's words will be beamed into space". BBC. 14 Mehefin 2018. Cyrchwyd 17 Mehefin 2018.
  79. "Stars turn out for Stephen Hawking memorial at Westminster Abbey". BBC. 15 Mehefin 2018. Cyrchwyd 17 Mehefin 2018.
  80. "The Stephen Hawking Tribute CD". The Stephen Hawking Foundation UK. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  81. Elizabeth Elkin, Hilary Clarke and Brandon Griggs (15 Mehefin 2018). "Stephen Hawking's voice bound for a black hole 3,500 light years away". CNN. Cyrchwyd 18 Mehefin 2018.
  82. Paul Sexton (19 Rhagfyr 2018). "Vangelis Sets Out On New Mission With 'Nocturne' Album". uDiscover. Cyrchwyd 20 Rhagfyr 2018.
  83. 83.0 83.1 83.2 83.3 83.4 Greiving, Tim (26 Mawrth 2019). "Vangelis trades synthesizers for piano and finds life after the film score". Los Angeles Times. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  84. Monahan, Mark (16 Mawrth 2019). "The Thread, Russell Maliphant and Vangelis, Sadler's Wells, review: Greece is the word in this scenic cross-cultural odyssey". The Telegraph. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  85. Craine, Debra (18 Mawrth 2019). "Review: The Thread at Sadler's Wells". The Times. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  86. Crompton, Sarah (24 Mawrth 2019). "Russell Maliphant and Vangelis: The Thread review – reimagining Greece". The Guardian. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  87. Swain, Marianka (20 Ebrill 2020). "The Thread, Sadler's Wells Digital Stage review - Greek folk and contemporary unite". The Arts Desk. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  88. "Vangelis – The Thread". Discogs. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  89. Mower, Sarah (15 Medi 2018). "Mary Katrantzou: Spring 2019 Ready-To-Wear". Vogue. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  90. Johnston, Flora (4 Hydref 2019). "Mary Katrantzou shows a Greek Epic at the Temple of Poseidon". Financial Times. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  91. Freeman, Liam (7 Hydref 2019). "Mary Katrantzou on her breathtaking show that supported a cancer charity, at the Temple of Poseidon". Vogue. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  92. "Mary Katrantzou: An exalted collection at an epic setting". Athens Insider. 20 Mawrth 2020. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  93. Parr, Freya (3 Awst 2021). "Vangelis to release album inspired by NASA's Jupiter exploration". BBC Music Magazine. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  94. "Vangelis to release Juno To Jupiter this September". Classic Pop. 6 Awst 2021. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  95. Vangelis collector Telegraph interview Cyrchwyd 12 Hydref 2008
  96. Elsewhere Backstage Cyrchwyd 12 Hydref 2008
  97. According to the Vangelis Movements website not mentioning marriage to Veroutis, she is reported to have played again recently (2012). This website refers to Veroutis' own website, and includes images of Vangelis and Veroutis together.
  98. Connolly, Dave. [[[:Nodyn:AllMusic]] "La Fete Sauvage"] Check |url= value (help). Allmusic. Cyrchwyd 10 Medi 2013.
  99. "Heaven and Hell - Vangelis".
  100. "Nemo: Vangelis – chapter 14". nemostudios.co.uk. Cyrchwyd 18 Awst 2016.
  101. "Vangelis Paintings". Vangelis Movements. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2016.
  102. "Vangelis, composer of 'Chariots of Fire' score, dies at 79". National Post. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  103. "Vangelis Papathanasiou: Oscar-winning composer passes away at the age of 79". OT.gr. 19 Mai 2022. Cyrchwyd 19 Mai 2022. Vangelis died at hospital in France on Tuesday, where he was being treated for Covid-19
  104. Limbong, Andrew (19 Mai 2022). "Vangelis, famed film composer and synth pioneer, dead at 79". NPR. Cyrchwyd 19 Mai 2022.
  105. "Rediscover Vangelis' 'See You Later'". uDiscover. 29 Chwefror 2016. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  106. 106.0 106.1 106.2 Mike G. "Vangelis". Ambient Music Guide. Mike Watson aka Mike G. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  107. "Ambient In 20 Songs". uDiscover. 5 Mai 2016. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  108. 108.0 108.1 Mike Orme (7 Chwefror 2008). "Blade Runner Trilogy: 25th Anniversary". Pitchfork. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  109. "Rediscover China". uDiscover. 30 Medi 2014. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  110. "Nemo Studios: Portrait of a studio". Cyrchwyd 12 Mehefin 2010.
  111. "Review of Vangelis". Synthtopia.com. 17 Ionawr 2004. Cyrchwyd 6 Hydref 2008.
  112. Mfiles biog. Cyrchwyd 6 Hydref 2008
  113. Soundtrack Interview Cyrchwyd 6 Hydref 2008
  114. "Greek composer Vangelis says music shaped space". CNN. 4 Gorffennaf 2001. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  115. "Vangelis is 'Commandeur des Arts et des Lettres' (Commander in the Order of Arts and Letters)". mounarebeiz.com. 3 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
  116. Jacqueline A. Schaap (21 Mehefin 2004). "Vangelis copyright BUMA and STEMRA" (PDF). Commission of the European Communities. Cyrchwyd 20 Awst 2016.
  117. Papantoniou, Margarita (17 Medi 2013). "Six Greek Diaspora Personalities on Postal Stamps | GreekReporter.com". Greece.greekreporter.com. Cyrchwyd 24 Ebrill 2014.
  118. "Honorary Doctorate degree for Vangelis". Elsewhere. Cyrchwyd 24 Mai 2018.
  119. "AFI's 100 Years of Film Scores Ballot" (PDF). Afi.com. Cyrchwyd 30 Medi 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: