Medeia (drama)
| Enghraifft o: | gwaith dramatig |
|---|---|
| Awdur | Ewripides |
| Iaith | Hen Roeg |
| Genre | trasiedi Roegaidd |
| Cymeriadau | Medea, Jason, Trofos, Paidagogos, Creon, Aegeus, Angelos, corws Groegaidd |
| Lleoliad y perff. 1af | Theatr Dionysos |
| Dyddiad y perff. 1af | 431 CC |
| Lleoliad y gwaith | Corinth |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02h6zv |
Trasiedi gan y dramodydd o hen Roeg, Ewripides (480 CC–406 CC) yw Medeia (Hen Roeg: Μήδεια, Mēdeia; Saesneg Medea). Fe'i llwyfannwyd gyntaf yn 431 CC fel rhan o drioleg o ddramâu, gyda'r ddwy arall heb oroesi. Mae'r ddrama yn canolbwyntio ar weithredoedd Medeia, cyn-dywysoges teyrnas Colchis a gwraig Iason; mae hi'n canfod bygythiad i'w safle yn y byd wrth i Iason ei gadael hi am dywysoges o Corinth ac yn dial arno trwy lofruddio ei wraig newydd, ei dad-yng-nghyfraith a'i ddau fab ei hun, cyn dianc i Athen i ddechrau bywyd newydd.
Mae drama Ewripides wedi cael ei dehongli gan ddramodwyr ar draws y canrifoedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnig diffiniadau gwleidyddol, seicdreiddiol a ffeministaidd.
Cyfieithiadau Cymraeg
[golygu | golygu cod]Cyfieithodd Annes Gruffydd y ddrama i'r Gymraeg ym 1996 i'w llwyfannu gan Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, o dan gyfarwyddyd Menna Price. Galwodd y ddrama yn Medea.[3]
Cyfieithwyd Medeia i'r Gymraeg gan y bardd Gwyneth Lewis yn 2016, ac fe'i cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[4]
Ystyrir y bardd Gwyneth Lewis yn un o'n prif lenorion; yn ogystal â chyhoeddi tair cyfrol o gerddi yn Gymraeg mae hi hefyd wedi cyhoeddi'n helaeth yn Saesneg ac mae ei chyhoeddiadau yn y ddwy iaith wedi ennill gwobrau. Medeia yw'r drydedd ddrama i Gwyneth ei chyfieithu. Eisoes cyhoeddwyd Clytemnestra (Sherman Cymru) ac Y Storm (Cyhoeddiadau Barddas) yn 2012.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Ewripides (2006). Medea. The Greek Tragedy in New Translations (yn Saesneg). Cyfieithwyd gan Michael Collier; Georgia Machemer. Rhydychen, Dinas Efrog Newydd: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 4. ISBN 978-0-19-514566-3. LCCN 2005026742. OCLC 61687702. OL 3410714M. Wikidata Q116691639.
- ↑ David Grene; Richmond Lattimore, eds. (1958) (yn en), The Complete Greek Tragedies; Volume IV: Euripides, The Complete Greek Tragedies, Chicago: University of Chicago Press, pp. 613, Wikidata Q133458634
- ↑ Gruffydd, Heini (Hydref 1996). "Cenfigen a dial". Barn.
- ↑ Archifwyd 2019-07-24 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Gwales; Cyngor Llyfrau Cymru; adalwyd 1 Awst 2017