Neidio i'r cynnwys

67P/Churyumov–Gerasimenko

Oddi ar Wicipedia
67P/Churyumov–Gerasimenko
Enghraifft o:near-Earth object, Jupiter-family comet, contact binary Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod22 Hydref 1969 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.640908129745 ±2.7e-08 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Churyumov–Gerasimenko

Comed yw 67P/Churyumov–Gerasimenko (a dalfyrir weithiau i: 67P neu 67P/C-G, ac a gaiff ei sgwennu yn y yr wyddor Gyrilig fel: Чурюмова — Герасименко); mae'n tarddu o Wregus Kuiper,[1] ac mae ganddo gylchdro (neu orbit) o tua 6.45 blwyddyn, ac yn troi ar ei echel unwaith mewn 12.4 awr. Ei fuanedd yw 135,000 km/awr (38 km/eil; 84,000 mya) ar ei gyflymaf. Hyd Churyumov–Gerasimenko (ar ei hiraf) yw 4.3 wrth 4.1 km (2.7 x 2.5 mi).[2]

Cafodd ei enwi ar ôl yr seryddwyr Sofietaidd a'i darganfu yn 1969, sef Klim Ivanovych Churyumov a Svetlana Ivanovna Gerasimenko.

Churyumov–Gerasimenko oedd cyrchfan y cerbyd ofod Rosetta a lawnsiwyd ar 2 Mawrth 2004 a'r goden lanio Philae a grwewyd gan Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.[3][4] Daeth Rosetta o fewn tafliad carreg at y comed ar 6 Awst 2014 a dechreuodd droi o'i amgylch, mewn orbit, ar 10 Medi 2014. Glaniodd ei is-gerbyd Philae ar wyneb y comed ar 12 Tachwedd 2014; hwn oedd y tro cyntaf i gerbyd gofod o unrhyw fath i lanio ar gomed.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Borenstein, Seth (10 Rhagfyr 2014). "The mystery of where Earth's water came from deepens". Excite News. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-15. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2014.
  2. "Bigger than you think! Comet 67P compared to cities. HD". YouTube. 12 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2014.
  3. Krolikowska, Malgorzata (2003). "67P/Churyumov–Gerasimenko – potential target for the Rosetta mission". Acta Astronomica 53: 195–209. arXiv:astro-ph/0309130. Bibcode 2003AcA....53..195K.
  4. Agle, D. C.; Cook, Jia-Rui; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (17 Ionawr 2014). "Rosetta: To Chase a Comet". NASA. 2014-015. Cyrchwyd 18 Ionawr 2014.
  5. Agle, D. C.; Webster, Guy; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (12 Tachwedd 2014). "Rosetta's 'Philae' Makes Historic First Landing on a Comet". NASA. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2014.