Rosetta (cerbyd gofod)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rosetta
Cerbyd gofod Rosetta
Darlun o Rosetta
Math o daithOrbitiwr
Corff neu gwmni rheoliAsiantaeth Ofod Ewropeaidd
Dynodwr Rhyngwladol2004-006A
Rhif Lloeren (SATCAT)28169
Gwefanesa.int/rosetta
Hyd y daith17 blwyddyn, 1 fis a 11 diwrnod
Manylion y cerbyd
GwneuthurwrAstrium
Mas ar lansiadOrbitiwr: 2,900 kg (6,400 lb)
Glaniwr: 100 kg (220 lb)
Mas sychOrbitiwr: 1,230 kg (2,710 lb)
Mas y prif lwythOrbitiwr: 165 kg (364 lb)
Glaniwr: 27 kg (60 lb)
Maint (dimensiwn)2.8 × 2.1 × 2 m (9.2 × 6.9 × 6.6 tr)
Pwer850 watts ar 3.4 AU[1]
Cychwyn y daith
Dyddiad lansio2 Mawrth 2004, 07:17 UTC
RocedAriane 5G+ V-158
Safle lansioCanolfan Ofod Guiana ELA-3
ContractiwrArianespace
Hedfan heibio Mawrth
Dynesiad agosaf25 Chwefror 2007
Pellter250 km (160 milltir)
Hedfan heibio 2867 Šteins
Dynesiad agosaf5 Medi 2008
Pellter800 km (500 milltir)
Hedfan heibio 21 Lutetia
Dynesiad agosaf10 Gorffennaf 2010
Pellter3,162 km (2,000 milltir)
Trawsatebwyr (transponders)
BandS band (low gain antenna)
X band (high gain antenna)
Ystod (bandwidth)7.8 bit/s (S band) - 91 kbit/s (X band)

Chwiliedydd gofod robotaidd yw Rosetta a adeiladwyd ac a lawnsiwyd gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd. Gyda'i fodiwl glanio Philae, mae'n cynnal nifer o ymchwiliadau gwyddonol o'r comed 67P/Churyumov–Gerasimenko (67P).[2][3] Gwibiodd hefyd yn agos i'r blaned Mawrth a'r asteroidau 21 Lutetia a 2867 Šteins. Ar 12 Tachwedd 2014 llwyddwyd i lanio ar gomed - am y tro cyntaf yn hanes gwyddoniaeth y gofod. Yn Awst 2015 roedd data Philae yn parhau i gael ei ddanfon i'r fam gerbyd Rosetta, a'i drosglwyddo ymhellach i'r Ddaear.

Dyma un o gonglfeini holl waith ESA. Mae'r prosiect yn cynnwys yr orbitiwr Rosetta ei hun, gyda 12 o offerynnau arno a Philae - glaniwr gyda 9 offeryn. Cynlluniwyd y prosiect gyda'r gobaith y byddai Rosetta'n orbitio 67P am gyfnod o 17 mis, gan wneud yr ymchwiliadau mwyaf manwl yn hanes ymchilio'r gofod. Caiff i cerbyd ei rheoli gan Ganolfan Rheoli'r Gofod, Ewrop (European Space Operations Centre, neu ESOC) yn Darmstadt, yr Almaen. Cynlluniwyd ei phrif lwyth (neu'r payload) a'r trin data, yr archifo a dosbarthu gwybodaeth o Ganolfan Ewropeaidd Seryddiaeth y Gofod (European Space Astronomy Centre neu ESAC) yn Villanueva de la Cañada, ger Madrid, Sbaen. Yn y ddegawd cyn 2014 amcangyfrifir fod oddeutu 2,000 o bobl wedi cynorthwyo gyda'r gwaith a'r prosiect.

Daeth taith Rosetta i ben ar 30 Medi 2016, drwy ddilyn llwybr bwriadol i daro fewn i'r comed ger pydew o'r enw Deir el-Medina. Fe fydd buanedd y gwrthdrawiad yn weddol isel ond disgwylir i ddarnau o'r chwiliedydd gael ei ddinistrio. Fe fydd holl systemau ar y cerbyd yn cau lawr cyn hyn.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Rosetta at a glance – technical data and timeline". Canolfan Ofod yr Almaen. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2014. Cyrchwyd 8 Ionawr 2014.
  2. Agle, D. C.; Brown, Dwayne; Bauer, Markus (30 Mehefin 2014). "Rosetta's Comet Target 'Releases' Plentiful Water". NASA. Cyrchwyd 30 Mehefin 2014.
  3. Chang, Kenneth (5 Awst 2014). "Rosetta Spacecraft Set for Unprecedented Close Study of a Comet". The New York Times. Cyrchwyd 5 Awst 2014.
  4. Rosetta probe set for comet collision (en) , BBC News, 30 Medi 2016.