Oliver Stone
Oliver Stone | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
William Oliver Stone ![]() 15 Medi 1946 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Man preswyl |
Manhattan, Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor, cynhyrchydd ffilm ![]() |
Taldra |
6 Troedfedd ![]() |
Priod |
Sun-jung Jung, Elizabeth Burkit Cox, Najwa Sarkis ![]() |
Plant |
Sean Stone ![]() |
Gwobr/au |
Medal y Seren Efydd, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Purple Heart, Gwobr Urdd Awduron America, Commandeur de l'ordre du Ouissam alaouite, Gwobr Donostia, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Medal Aer, Medal y Gwasanaeth Amddiffyn Cenedlaethol, Vietnam Service Medal, Vietnam Campaign Medal, Combat Infantryman Badge, Golden Globes, British Academy of Film and Television Arts, Yr Arth Aur, Silver Bear ![]() |
Gwefan |
http://www.oliverstone.com ![]() |
Mae William Oliver Stone (ganed 15 Medi 1946) yn gyfarwyddwr a sgriptiwr ffilmiau. Daeth Stone yn enwog fel cyfarwyddwr gyda chyfres o ffilmiau am Ryfel Fietnam, rhyfel yr oedd ef ei hun wedi cymryd rhan ynddo fel milwr. Mae Stone yn parhau i weithio ar faterion gwleidyddol a diwylliannol cyfoes, ac yn aml ystyrir ei weithiau fel rhai dadleuol. Enillodd dair o Wobrau'r Academi, y cyntaf am ei sgript ar gyfer Midnight Express (1978). Enillodd Wobrau'r Academi hefyd am gyfarwyddo Platoon (1986) a Born on the Fourth of July (1989), gyda'r ddwy ffilm yn sôn am Ryfel Fietnam.
Nodwedd amlwg o'r arddull gyfarwyddo yw ei ddefnydd o gamerau a fformatau ffilm gwahanol, o VHS o ffilm 70mm. Weithiau, defnyddia nifer o fformatau gwahanol yn yr un olygfa, fel a welwyd yn JFK (1991) a Natural Born Killers (1994). Yn aml, beirniedir ffilmiau Stone am hyrwyddo damcaniaethau cynllwynion a diffyg cywirdeb hanesyddol. Yn ogystal a hyn, beirniadwyd y ffilm "Natural Born Killers" am glodfori trais; fodd bynnag, dadleua Stone fod y ffilm yn dychanu diddordeb y cyfryngau mewn darlunio trais.
Ffilmograffiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Fel cyfarwyddwr[golygu | golygu cod y dudalen]
|
|
Gweithiau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]
- Midnight Express (sgriptiwr) (1978)
- Conan the Barbarian (sgriptiwr) (1982)
- Scarface (sgriptiwr) (1983)
- Year of the Dragon (sgriptiwr) (1985)
- 8 Million Ways to Die (sgriptiwr) (1986)
- Dave (cameo) (1993)
- Evita (sgriptiwr) (1996)
|