Uwch Gynghrair Gwlad Pwyl
Gwlad | Poland |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 4 Rhagfyr 1926[1] |
Nifer o dimau | 16 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | I liga |
Cwpanau | Polish Cup Polish SuperCup |
Cwpanau rhyngwladol | UEFA Champions League UEFA Europa League |
Pencampwyr Presennol | Piast Gliwice (1st title) (2018–19) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Górnik Zabrze Ruch Chorzów (14 titles each) |
Prif sgoriwr | Ernest Pohl (186 goals) |
Partner teledu | NC+, Eurosport 2 (List of broadcasers) |
Gwefan | ekstraklasa.org |
2019–20 Ekstraklasa |
Yr Ekstraklasa (ynganiad Pwyleg: [ˌɛkstraˈklasa]) yw Uwch Gynghrair Gwlad Pŵyl a'r phinacle pêl-droed domestig yng Ngwlad Pwyl. Mae'r gynghrair yn cynnwys 16 tîm sy'n gweithredu ar system codi ac esgyn gyda I Liga, sef yr ail adran genedlaethol. Mae'r tymor yn dechrau ym mis Gorffennaf gan ddod i ben ym mis Mai neu Fehefin y flwyddyn ganlynol - ceir toriad gaeaf oherwydd anaddasrwydd chwarae yng nghannol y tymor hwnnw.. Mae timau'n chwarae cyfanswm o 37 o gemau yr un, sef cyfanswm o 296 o gemau yn y tymor. Mae gemau'n cael eu chwarae ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Mae enillydd yr Ekstraklasa yn gymwys ar gyfer y Super Cup Pwylaidd, sef y gwpan rhwng enillydd y Gynghrair ac enillydd Cwpan Gwlad Pwyl. Mae'r Ekstraklasa bellach yn cael ei weithredu gan yr Ekstraklasa SA (cwmni cyd-stoc Ekstraklasa Saesneg). Ceir gwahanol noddwyr i'r gynghrair, yr yn 2016-17 oedd y Loto Pwyleg.[2]
Rheolaeth
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Ekstraklasa heddiw ym 1927 [3] ac fe'i cynhaliwyd o 1928 i 2005 o dan ymbarél Cymdeithas Bêl-droed Pwylaidd (PZPN). Roedd Ligasponsor rhwng 2004 a 2005, y gweithredwr symudol o Wlad Pwyl Idea, a gafodd ei ailenwi'n ddiweddarach yn Orange, ac yna galwyd cynghrair pêl-droed Gwlad Pwyl o fis Medi 2005 i fis Mai 2008 Orange Ekstraklasa. Ers 2005, y cwmni stoc ar y cyd sydd newydd ei sefydlu Ekstraklasa S.A. y cyfrifoldeb am y llawdriniaeth.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ar 4–5 Rhagfyr 1926 yn Warsaw, cyfarfu cynrychiolwyr o nifer o glybiau Pwylaidd er mwyn trafod creu cynghrair. Nid yw'n hysbys o ble y daeth y syniad o gynghrair Pwylaidd, ond credwyd bod cynghrair genedlaethol yn ateb llawer mwy ymarferol na system dwy ran o gemau rhanbarthol a ddilynwyd gan gêm genedlaethol. Er mwyn siomi swyddogion clybiau, nid oedd y PZPN yn barod i dderbyn y syniad o gynghrair cenedlaethol ac felly ceisiodd ei rwystro. Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod bron pob un ond un o'r clybiau Pwylaidd yn cefnogi'r syniad heblaw am Cracovina, glwb bwysig o ddinas Krakow a oedd a'i chyfarwyddwr, Dr. Edward Cetnarowski, hefyd yn gadeirydd y Gymdeithas Bêl-droed Genedlaethol. Gwnaethpwyd y penderfyniad i greu beth bynnag oedd barn cynrychiolwyr PZPN amdano. Ddiwedd Chwefror 1927, yng nghyfarfod PZPN yn Warsaw, roedd ei swyddogion yn gwrthwynebu ffurfio cynghrair yn agored, ond honnir bod rhai o'r cadfridogion o'r Fyddin Bwylaidd yn chwarae rhan yn y clybiau (a chwaraeodd rôl allweddol yn pob agwedd ar fywyd cyhoeddus), aeth ymlaen beth bynnag. Cyhoeddwyd y Gynghrair ar 1 Mawrth 1927.[3]
Ffurfiwyd yr Ekstraklasa (neu, I Liga, fel ei henw blaenorol) yn swyddogol fel Liga Polska ar 4–5 Rhagfyr 1926 yn Warsaw, prifddinas y wlad. Yn 1 Mawrth 1927 newidiwyd yr enw i Liga Piłki Nożnej (ynganiad Pwyleg: [ˈlʲiɡa ˈpiwki ˈnɔʐnɛj]), er bod Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl (y PZPN) wedi ei sefydlu rhai blynyddoedd yn gynt, ar 20 Rhagfyr 1919, blwyddyn wedi annibyniaeth Gwlad Pwyl ym 1918. Cynhaliwyd gemau cyntaf y gynghrair newydd 3 Ebrill 1927, tra i'r bencampwriaeth pêl-droed genedlaethol nad oedd yn rhan o'r gynghrair gyntaf gael ei chynnal yn 1920.
Enillwyr cyntaf y gynghrair newydd yn 1927 oedd Wisła Kraków a gurodd 1.FC Kattowtz a Warta Poznań yn drydydd. Roedd buddudoliaeth Wisła Kraków drod 1.FC yn arbennig o symbolaidd gan mai 1.FC oedd tîm Almaenaeg dinas. Daeth hyn wedi gwrthdaro a refferendwm ar ddyfodol yr ardal - a ddylid fod yn rhan o Wlad Pwyl neu'r Almaen wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]O ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd, newidiodd ffiniau Gwlad Pwyl yn sylweddol. Cafodd Lwów, un o ganolfannau pêl-droed Pwylaidd (gyda thimau fel Pogoń Lwów, Czarni Lwów a Lechia Lwów) eu hatodi gan yr Undeb Sofietaidd a daeth yr holl dimau hyn i ben, wedi i'r Undeb Sofietaidd ddod i ben yn 1991 mae'r ddinas bellach yn rhan o Iwcrain annibynnol ac adnebir yn swyddogol fel Lv'iv. Symudodd swyddogion pêl-droed a chwaraewyr Lwów tua'r gorllewin, gan greu clybiau fel Polonia Bytom, Odra Opole a Pogoń Szczecin. Cafodd Wilno (gyda Śmigły Wilno) ganolfan bwysig arall, ei hatodi hefyd gan y Sofietau a'i rhoi i'r hyn sydd bellach yn wlad annibynnol Lithwania gyda Wilna, Vilnius bellach yn brifddinas arni. Yn gyfnewid am hynny, enillodd Gwlad Pwyl gyfran fawr o diriogaeth yr Almaenwyr yn arbennig yn Silesia, gyda'i phrif dref, Wrocław (Breslau yn Almaenaeg, cartref yr pencampwyr dwbl, Śąląsk Wrocław) a threfi fel Zabrze (Hindenburg in Oberschlesien yn Almaeneg, cartref y pencampwr 14-tro, Górnik Zabrze, Bytom (Beuthen in Oberschlesien yn Almaeneg, cartref pencampwyr Polonia Bytom a Szombierki Bytom) a Lubin (Lüben yn Almaeneg, cartref y pencampwr dwbl Zagłębie Lubin).
Wedi'r Ail Ryfel Byd hefyd, dan bwysau gan y llywodraeth Gomiwnyddol newydd, newidiwyd enwau nifer o'r timau i rai mwy dosbarth gweithol i adlewyrchu athronaieth newydd y wlad.[3]
Mae cyfanswm o 81 o dimau wedi chwarae yn yr adran uchaf o bêl-droed Pwylaidd ers sefydlu'r gynghrair, ac mae 16 o glybiau wedi ennill y teitl. Y pencampwyr presennol yw Piast Gliwice, a enillodd eu teitl cyntaf erioed yn nhymor 2018–19.
Tabl Enillwyr
[golygu | golygu cod]Teitlau | Clwb | Blwyddyn |
---|---|---|
14 | Górnik Zabrze | 1957, 1959, 1961, 1963, 1964, 1965, 1966, 1967, 1971, 1972, 1985, 1986, 1987, 1988 |
14 | Ruch Chorzów | 1933, 1934, 1935, 1936, 1938, 1951, 1952, 1953, 1960, 1968, 1974, 1975, 1979, 1989 |
13 | Wisła Kraków | 1927, 1928, 1949, 1950, 1978, 1999, 2001, 2003, 2004, 2005, 2008, 2009, 2011 |
13 | Legia Warsaw | 1955, 1956, 1969, 1970, 1994, 1995, 2002, 2006, 2013, 2014, 2016, 2017, 2018 |
7 | Lech Poznań | 1983, 1984, 1990, 1992, 1993, 2010, 2015 |
5 | Cracovia | 1921, 1930, 1932, 1937, 1948 |
4 | LKS Pogoń Lwów | 1922, 1923, 1925, 1926 |
4 | Widzew Łódź | 1981, 1982, 1996, 1997 |
2 | Warta Poznań | 1929, 1947 |
2 | Polonia Bytom | 1954, 1962 |
2 | Stal Mielec | 1973, 1976 |
2 | ŁKS Łódź | 1958, 1998 |
2 | Polonia Warsaw | 1946, 2000 |
2 | Zagłębie Lubin | 1991, 2007 |
2 | Śląsk Wrocław | 1977, 2012 |
1 | Garbarnia Kraków | 1931 |
1 | Szombierki Bytom | 1980 |
1 | Piast Gliwice | 2019 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "History". Polish Football Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ionawr 2015. Cyrchwyd 2 Ionawr 2015. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ https://web.archive.org/web/20160718034522/http://www.ekstraklasa.org/lotto-partnerem-tytularnym-ekstraklasy
- ↑ 3.0 3.1 3.2 https://www.pzpn.pl/en/association/history
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol yr Ekstraklasa (Pwyleg, Saesneg)
- Gwefan annibynnol ar yr Ekstraklasa (Pwyleg)
|