Piast Gliwice

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Piast Gliwice
GKS Piast Gliwice.png
Enw llawnGliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice
LlysenwauPiastunki (y Nyrsus)
Szlachta (Uchelwyr)
Sefydlwyd18 Mehefin 1945; 76 o flynyddoedd yn ôl (1945-06-18)
MaesStadion Piast
(sy'n dal: 10,037)
CadeiryddMarek Kwiatek
RheolwrWaldemar Fornalik
CynghrairEkstraklasa
2020/216. (Ekstraklasa)
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol
Tu fewn Stadiwm Gliwice

Mae Gliwicki Klub Sportowy Piast Gliwice ([ˈpʲast ɡlʲiˈvʲit͡sɛ], "Clwb Chwaraeon Piast Gliwice") neu Piast yn gyffredin ar lafar, yn glwb pêl-droed Pwyleg sydd chwarae yn ninas Gliwice yn nhalaith Silesia yn ne orllewin Gwlad Pwyl, dinas o rhyw 180,000 o drigolion oddeutu 25 km i'r gorllewin o Katowice mewn ardal ddiwydiannol. Enillont bencampwriaeth yr Ekstraklasa (Uwch Gynghrair Gwlad Pwyl) yn 2018-19 am y tro cyntaf yn eu hanes. Lliwiau'r clwb yw coch a glas ac mae'r arfbais yn arddangos eryr a thŵr.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y clwb ar 18 Mehefin 1945 gan Bwyliaid a oedd wedi cael eu gorfodi i adael eu tir yn yr hyn sydd heddiw yng ngorllewin Wcráin ond a oedd, cyn yr Ail Ryfel Byd yn rhan o Wlad Pwyl. Y clwb yw'r un gyntaf erioed i esgyn o'r 7fed adran yn system byramid pêl-droed Gwlad Pwyl i'r Uwch Gynghrair ac yna ennill yr hawll i gystadlu yn Ewrop.[2]

Bu'r clwb yn chwarae am 32 tymor yn yr ail adran Bwylaidd, cyn esgyn i'r Ekstraklasa am y tro cyntaf yn 2008. Llwyddodd y clwb i gyrraedd Cwpan Gwlad Pwyl ddwywaith (yn 1978 a 1983) gan golli ar y ddau achlysur.

Daw enw clwb o'r llinach Piast, teulu brenhinol oedd yn rheoli Gwlad Pwyl o flynyddoedd cyntaf annibyniaeth rhwng 970 ac 1360.

Newid Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Stadiwm Piast Gliwice

Mae'r clwb wedi newid ei henw sawl gwaith ers ei sefydlu yn y mis gyntaf wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd:

  • (18.06.1945) - KS Piast Gliwice
  • (23.05.1946) - KSM Piast Gliwice
  • (Medi/Tachwedd 1947) - ZKSM Piast Gliwice
  • (05.03.1949) - ZS Metal Piast Gliwice (fusionado con el ZKSM Huta Łabędy, ZKS Walcownia Łabędy, RKS Jedność Rudziniec, *RKS PZS Gliwice y ZKS Silesia Gliwice)
  • (01.11.1949) - ZKS Stal Gliwice
  • (11.03.1951) - ZKS Stal GZUT Gliwice
  • (15.03.1955) - ZKS Piast Gliwice
  • (20.01.1957) - KS Piast Gliwice
  • (01.01.1961) - SKS Piast Gliwice
  • (15.03.1964) - GKS Piast Gliwice (fusionado con el GKS Gliwice y el KS Metal Gliwice)
  • (17.10.1983) - MC-W GKS Piast Gliwice
  • (12.09.1989) - CWKS Piast-Bumar Gliwice
  • (1989) - Fusionado con el ZTS Łabędy (Gliwice)
  • (1990) - CWKS Bumar-Piast Gliwice
  • (04.04.1990) - KS Bumar Gliwice
  • (11.05.1990) - KS Bumar Łabędy (Gliwice)
  • (01.07.1990) - KS Bumar Gliwice
  • (1991) - KS Piast-Bumar Gliwice
  • (01.07.1992) - MC-W GKS Piast Gliwice
  • (01.08.1995) - KS Bojków Gliwice (fusionado con el KS Bojków Gliwice)
  • (15.09.1995) - KS Piast Bojków Gliwice
  • (02.09.1996) - GKS Piast Gliwice

Anrhydedddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cystadlaethau Cenedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ekstraklasa
  • I Liga (ail adran)
    • Pencampwyr (1): 2011–12
  • Cwpan Bêl-droed Gwlad Pwyl
    • Ail (2): 1978, 1983

Ymddangosiadau yng nghystadlaethau UEFA[golygu | golygu cod y dudalen]

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Adref Oddi Cartref Agregad
2013-14 Cynghrair Europa UEFA Clasificatoria 2 Baner Aserbaijan FK Qarabağ 2–2 1–2 3–4 (t.e.)
2016–17 Cynghrair Europa UEFA Clasificatoria 2 Sweden IFK Göteborg 0–3 0–0 0–3

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]