Thomas Roberts (Scorpion)
Thomas Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 25 Awst 1816 Dinbych |
Bu farw | 12 Mehefin 1887 Llanrwst |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, newyddiadurwr, postfeistr, gof |
Roedd Robert Thomas (Scorpion) (25 Awst, 1816 -12 Mehefin, 1887) yn Weinidog gyda'r Annibynwyr, yn bostfeistr ac yn awdur Cymreig.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Scorpion yn Ninbych yn blentyn i Harri Roberts a Catherine Foulks. Fe fu Harri yn filwr ym mrwydro yn rhyfeloedd Napoleon. Wedi dychwelyd i Ddinbych ar ôl y rhyfel cafodd tröedigaeth Gristnogol o dan weinidogaeth Robert Everett gweinidog Capel Annibynwyr Lôn Swan, Dinbych. Gan hynny cafodd Scorpion ei fagu yn Annibynnwr. Cafodd rhywfaint o addysg mewn ysgol oedd yn cael ei gadw gan Caledfryn.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gof
[golygu | golygu cod]Bu farw ei fam pan oedd Scorpion yn deuddeg mlwydd oed a bu'n rhaid iddo ddechrau gweithio er mwyn cyfrannu at y teulu. Cafodd ei osod fel prentis gof ac yn yr efail fu am nifer o flynyddoedd. Roedd yr efail yn chware rhan bwysig ym mywyd cymdeithasol trefi marchnad yn y cyfnod. Byddai beirdd a llenorion yn ymgynnull yno a bu'n lle i drafod pynciau athronyddol a gwleidyddol. Trwy gymdeithas yr efail dysgodd Scorpion llawer mwy na dim ond crefft y gof.[2]
Ymgeisydd am y weinidogaeth
[golygu | golygu cod]Ym 1837 penodwyd Gwilym Hiraethog yn weinidog ar Gapel Lôn Swan. Gwelodd bod y gof ifanc yn ŵr galluog addawol ac fe anogodd Scorpion i ddechrau pregethu. Ym 1839 penderfynodd Scorpion ymgeisio am y weinidogaeth. Roddodd gorau i'w swydd ac aeth i ysgol y Parch D. W. Jones, Treffynnon i baratoi am fynediad i'r coleg hyfforddi. Yn Rhagfyr 1839 gwnaeth ei gyfraniad gyntaf i'r wasg Gymreig pan gyhoeddwyd erthygl o'i eiddo Penderfyniadau i'w mabwysiadu gan Gristionogion mewn cyfarfodydd crefyddol yn y Dysgedydd.[3]
Wedi dwy flynedd yn Nhreffynnon ceisiodd cael lle yng Ngholeg Hyfforddi'r Annibynwyr yn Aberhonddu, ond o'r herwydd bod y coleg yn llawn ni fu ei gais yn llwyddiannus a phenderfynodd aros yn Nhreffynnon am flwyddyn arall cyn ceisio am le yn Aberhonddu eto. Yn y cyfamser penderfynwyd agor coleg newydd yn Llanuwchllyn gyda Michael Jones yn bennaeth arni. Yn Ionawr 1842 cychwynnodd Scorpion yno fel un o’r 12 myfyrwyr cyntaf. Ym mis Rhagfyr o'r un flwyddyn derbyniwyd ei gais i fod yn fyfyriwr yn Aberhonddu. Penderfynodd derbyn y cynnig a symudodd i astudio yn Aberhonddu, gan gerdded yno o Lanuwchllyn. Arhosodd yn Aberhonddu hyd ddiwedd 1846.
Yn ystod ei gyfnod yn Aberhonddu ysgrifennodd traethawd hir a gyhoeddwyd yn Yr Haul ym 1845 mewn tair rhan Gweinidogaeth yr Efengyl yn annibynnol ar weinidogaeth Rhagluniaeth.[4] Roedd yr erthyglau, i bob pwrpas, yn ddweud nad oedd gweinidogion na blaenoriaid cyfoes hanner cystal â'r rhai fu cynt. Achosodd yr erthyglau rhywfaint o anghydfod rhyngddo a'i gyd efrydwyr a chyfeillion Ieuan o Leyn a Ieuan Gwynedd. Yn bwysicach byth dyma oedd yr erthyglau cyntaf i'w cael eu cyhoeddi gyda'r ffugenw Scorpion ffugenw a lynodd wrtho am weddill ei oes. Er iddo bechu rhai o'i gyfoedion, bu nifer o hynafgwyr ei enwad gweld yr erthyglau fel rai gan lenor a meddyliwr oedd am frwydro'n ôl ar golli dylanwad yr Annibynwyr i rym Methodistiaeth Galfinaidd a Wesleaidd.
Gweinidogaeth
[golygu | golygu cod]Wrth i gyfnod Roberts fel myfyriwr tynnu i'w derfyn rhoddodd ei enwogrwydd fel Scorpion nifer o gyfleoedd iddo fel darpar weinidog a chafodd alwad i sawl capel. Derbyniodd alwad i olynu ei hen diwtor, Michael Jones, fel gweinidog yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, lle cafodd ei ordeinio ar 8 Ebrill 1847.
Yn ogystal â bod yn weinidog i'r Hen Gapel, penderfynodd Scorpion agor ysgol ddyddiol yno hefyd gan wasanaethu fel ei brifathro. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ysgolion dyddiol y cyfnod doedd Scorpion ddim yn codi tal ar y plant am gael mynychu'r ysgol. Roedd y plant yn cael cyfle i ddysgu siarad, darllen ac ysgrifennu Saesneg, ond y Gymraeg oedd prif gyfrwng addysg yr ysgol a rhoddwyd gwersi ar sillafu a gramadeg Cymraeg. Peth arall oedd yn wahanol rhwng ysgol yr Hen Gapel ac ysgolion eraill y cyfnod oedd gwrthwynebiad Scorpion i'r defnydd o gosb gorfforol, megis y gansen, fel modd o gadw disgyblaeth ar y plant. Bu hefyd yn dysgu dosbarth nos i oedolion ar ysgrifennu'r Gymraeg yn Rhydymain.
Ym 1848, ysgrifennodd Scorpion ei erthygl fwyaf dadleuol. Cyhoeddwyd Ocheneidiau y weinidogaeth yn rhifyn Tachwedd o'r Dysgedydd.[5] Yn yr erthygl dadleuai bod rheolaeth yr eglwysi annibynnol wedi symud o ddwylaw'r gweinidogion i ddwylaw'r diaconiaid. Bod y diaconiaid yn tra-arglwyddiaethu ar yr eglwysi a'r gweinidogion, a bod llawer ohonynt yn ddynion hollol anghymwys i'r swydd. Cyfeiriai at y diaconiaid hyn fel lords. Cododd yr erthygl storm, cynhaliwyd cyfarfodydd protest mewn capeli annibynnol ledled Cymru yn condemnio Scorpion am ysgrifennu'r erthygl a Cadwaladr Jones, golygydd y Dysgedydd am ei gyhoeddi. Bu rai yn galw am daflu Roberts a Jones allan o'r weinidogaeth neu hyd yn oed eu hesgymuno o'r eglwys a danfonwyd cannoedd o gopïau o rifyn olynol y Dysgedydd yn ôl i'r wasg heb eu gwerthu. Dros y misoedd nesaf cyhoeddwyd llawer o lythyrau yn y wasg Gymreig yn condemnio Scorpion. Bu rhai o fawrion yr Annibynwyr yn amddiffyn Scorpion, yn arbennig Ieuan Gwynedd [6] a Simon Jones, y Bala. Wedi cael llond bol o fod yng Nghanol y ffrae, cyhoeddodd Cadwaladr Jones yn rhifyn Mehefin 1849, bod y drafodaeth wedi dod i ben cyn belled ag yr oedd y Dysgedydd yn y cwestiwn ac na fyddai'n cyhoeddi gair arall am y pwnc. Er hynny bu rai yn ceisio parhau a'r ymryson. Cyhoeddodd R. D. Thomas (Iorthyn Gwynedd), llyfr bychan dan y teitl, Yr Annibynwyr Cymreig a oedd yn difrio Scorpion, Ieuan Gwynedd, a'r Hen Olygydd,[7] mewn modd ffiaidd ac athrodus. Atebodd leuan Gwynedd ef mewn ysgrif yn rhifyn Mai 1850 o'r Drysorfa gan ddisgrifio cynnwys y llyfr fel "Anwiredd wedi ei wisgo mewn pres." Bu natur cas llyfryn Iorthyn yn foddion i droi tôn o gydymdeimlad yn ôl at Scorpion.
Wedi marwolaeth Michael Jones yn Hydref, 1853, gofynnwyd i Scorpion gymryd arolygiaeth Athrofa'r Bala hyd nes y penodid olynydd i'r hen athro. Parhaodd yn y swydd hyd ddiwedd 1854, pan benodwyd Michael D Jones yn olynydd parhaol i'w diweddar dad.
Ym 1856 symudodd maes ei weinidogaeth i Drelawnyd lle arhosodd am ddwy flynedd cyn derbyn galwad i wasanaethu fel gweinidog Annibynnol Llanrwst. Ymddeolodd o'r weinidogaeth ym 1881 oherwydd dirywiad yn ei iechyd.[8]
Postfeistr
[golygu | golygu cod]Un o orchwylion Scorpion pan oedd yn of yn Ninbych oedd mynd i Bentrefoelas yn achlysurol i gynorthwyo'r gof yno i bedoli ceffylau'r coetsis post oedd yn rhedeg o Gaergybi i Lundain. Trwy'r gwaith daeth yn ymwybodol o bwysigrwydd y gwasanaeth post. Agorodd y swyddfa bost cyntaf yn Llanuwchllyn ac yn ystod ei gyfnod yn Llanrwst bu'n gwasanaethu fel postfeistr y dref yn ogystal â gweinidog y capel.
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Bu Scorpion yn gyfrannwr rheolaidd i gylchgronau Cymru gan ysgrifennu erthyglau ar bynciau crefydd, addysg a gwleidyddiaeth tramor. Ysgrifennodd gyfres o erthyglau i'r Dysgedydd am hanes Twrci a'r ymerodraeth Otoman. Rhwng 1853 a 1856 bu Prydain yn ymladd yn erbyn Ymerodraeth Rwsia yn Rhyfel y Crimea. Roedd rhai o ffigyrau crefyddol amlwg Cymru megis Caledfryn, S. R. a Henry Richard yn gwrthwynebu'r rhyfel, bu Scorpion yn gryf o blaid y rhyfel. Ysgrifennai lawer mewn ymateb i'r gwrthwynebwyr a'r heddychwyr ac aeth ar daith darlithio i gefnogi cyfiawnder y rhyfel.
Pan ymddeolodd Cadwaladr Jones fel golygydd y Dysgedydd penodwyd bwrdd o olygyddion i'w olynu. Roedd Scorpion yn aelod o'r bwrdd gyda chyfrifoldeb am erthyglau am addysg a bywgraffiadau.
Cyhoeddodd nifer o lyfrau. Yn eu plith bu:
- Esboniad Cyflawn ar y Testament Newydd,[9]
- Testament Daearyddol,[10]
- Gwaith Barddonol Ieuan Gwynedd,[11]
- Cofiant H. Pugh, Mostyn (cydolygydd),
- Cofiant Caledfryn
Dechreuodd ysgrifennu cofiant i Gwilym Hiraethog, ond bu farw cyn darfod y gwaith.[12]
Teulu
[golygu | golygu cod]Priododd Elizabeth Sarah Jones yn Llanrwst ym 1859 [13] a bu iddynt thair merch a mab.[14]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn Llanrwst yn 70 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mair.[15] Gan ei fod yn aelod o orsedd Arwest Glan Geirionnydd cludwyd ei arch gan rhai o'i gyd arwestwyr yn eu lifrau, gan gynnwys Gwalchmai, Hwfa Môn a Gwilym Cowlyd.[16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ROBERTS, THOMAS ('Scorpion'; 1816 - 1887), gweinidog gyda'r Annibynwyr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-01-22.
- ↑ Y Dysgedydd Rhif. 812 - Hydref 1889 Scorpion gan Mr W R Owen Liverpool Rhan II adalwyd 22 Ionawr 2020
- ↑ Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. XVIII rhif. 217 - Rhagfyr 1839 tud 366 adalwyd 22 Ionawr 2020
- ↑ Yr Haul Cyf. XI rhif. 133 - Gorffennaf 1846 Gweinidogaeth yr Efengyl yn annibynnol ar weinidogaeth Rhagluniaeth adalwyd 22 Ionawr 2020
- ↑ Y Dysgedydd Crefyddol Tachwedd 1848; Ocheneidiau y weinidogaeth adalwyd 22 Ionawr 2020
- ↑ Y Dysgedydd Crefyddol Mawrth 1849; Scorpion a'i Erlidwyr adalwyd 22 Ionawr 2020
- ↑ Thomas, R. D (1849). Yr Annibynwyr Cymreig: yn cynnwys attebion i ysgrifau Scorpion ac Ieuan Gwynedd ; sylwadau ar nodiadau ac ymddygiadau golygydd y Dysgedydd. Bala: Argraffwyd dros yr awdwr gan Griffith Jones. OCLC 895890596.
- ↑ "YMDDISWYDDIAD Y PARCH THOMAS ROBERTS SCORPION LLANRWST - Y Dydd". William Hughes. 1881-11-04. Cyrchwyd 2020-01-22.
- ↑ Roberts, T (1880). Esboniad cyflawn ar y Testament Newydd. Dolgellau: W. Hughes. OCLC 5186877.
- ↑ Roberts, Thomas (1880). Y Testament Daearyddol: yn cynwys sylwadau ar dros dair mil o adnodau, a geiriadur o'r holl leoedd y sonir am danynt yn yr hen Destament a'r Newydd, a'u pellder o Jerusalem, a'u hydred a'u lledred, &c. &c. Wrexham: Hughes a'i Fab. OCLC 1110382630.
- ↑ Jones, Evan; Roberts, Thomas (1876). Gweithiau barddonol Ieuan Gwynedd. Dolgellau: R.O. Rees, argraffedig gan W. Hughes. OCLC 70162945.
- ↑ Roberts, T; Roberts, David (1893). Cofiant y Parch. W. Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog). OCLC 16293090.
- ↑ "ENGLYN ar briodas Scorpion - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1860-09-05. Cyrchwyd 2020-01-22.
- ↑ "MARWOLAETH Y PARCH THOMAS ROBERTS SCORPION LLANRWST - Y Drych". Mather Jones. 1887-06-30. Cyrchwyd 2020-01-22.
- ↑ Y Dysgedydd Rhifyn Gorffennaf 1887, marwolaeth a Chladdedigaeth Y Parch T Roberts Llanrwst adalwyd 22 Ionawr 2020
- ↑ "Marwolaeth a Chladdedigaeth SCORPION - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1887-06-22. Cyrchwyd 2020-01-22.