Sir Feirionnydd
Gwedd
Math | siroedd hynafol Cymru, sir hanesyddol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Poblogaeth | 37,835 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cymru |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Sir Gaernarfon, Sir Ddinbych, Sir Drefaldwyn, Sir Aberteifi |
Cyfesurynnau | 52.8333°N 3.8333°W |
Roedd Sir Feirionnydd yn un o 13 o siroedd Cymru cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Roedd yn cynnwys hen gantrefi Ardudwy (cymydau Uwch Artro ac Is Artro), Meirionnydd (cymydau Tâl-y-bont ac Ystumanner), a Phenllyn (Cymydau Edeirnion, Is Tryweryn, ac Uwch Tryweryn) Ym 1536 symudwyd cwmwd Mawddwy o Sir Drefaldwyn i Feirionnydd. Ym 1895 symudwyd plwyf Nantmor o Feirionnydd i Sir Gaernarfon.[1] Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r hen sir yn rhan o Wynedd, gyda chwmwd Edeirnion yn rhan o Sir Ddinbych.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Gwynedd
- Meirionnydd (etholaeth seneddol), etholaeth seneddol yr hen sir
- Cyngor Sir Feirionnydd
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Geraint Bowen (gol.), Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail-argraffiad, 1976). Yr atlas hanesyddol safonol ar gyfer yr hen sir.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y GOGLEDD.|1894-09-26|Baner ac Amserau Cymru - Papurau Newydd Cymru". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2021-05-31.
|