Liberty City

Oddi ar Wicipedia
Map Liberty City Stories

Mae Liberty City yn ddinas ffuglen, a ysbrydolwyd gan Efrog Newydd, sy'n ymddangos yn y gyfres gêm fideo Grand Theft Auto gan Rockstar Games. Mae'n archipelago sy'n ffurfio dinas fawr yn yr Unol Daleithiau. Ymddangosodd tair fersiwn o Liberty City yn y gyfres. Ymddengys y fersiwn gyntaf o Liberty City ym mhennod gyntaf y gyfres, Grand Theft Auto 1, mae'r ddinas yn gymharol debyg o ran ffurf, ac yn ddaearyddol i Efrog Newydd, ac mae'n cynnwys nifer o ynysoedd.

Mae Liberty city yn lleoliad un o'r ardaloedd yn Grand Theft Auto 1, unig leoliad Grand Theft Auto III, Grand Theft Auto Advance, Grand Theft Auto: Liberty City Stories, Grand Theft Auto IV, The Lost and Damned, Chinatown Wars a The Ballad of Gay Tony ac yn lleoliad ar gyfer un dasg yn Grand Theft Auto: San Andreas.

Ym mhob fersiwn o'r ddinas, dangosir Liberty City fel dinas fawr iawn gyda phoblogaeth o sawl miliwn (4 miliwn yn Grand Theft Auto III, dwywaith hynny yn Grand Theft Auto IV ), gyda seilwaith sy'n cynnwys ffyrdd, isffyrdd a threnau, ac weithiau feysydd awyr. Disgrifir y ddinas fel cartref i lawer o sefydliadau troseddol, gangiau a throseddwyr stryd, ac arweinwyr dinesig llygredig iawn. Mae trais a llofruddiaeth yn effeithio ar heddwch y ddinas yn lled aml.

Liberty City yw'r ddinas fwyaf cyffredin yng nghyfres GTA; o'r 14 gêm sydd wedi cyhoeddi, mae wyth yn cael eu lleoli yn Liberty City ac mae dau arall yn cynnwys y ddinas mewn ychydig o ddigwyddiadau bach.

Mae cyfres Grand Theft Auto yn cael ei rannu i'r hyn a elwir yn fydysawdau, wedi eu henwi ar ôl safon y graffig a defnyddir i'w dylunio[1]. Mae'r gêm wreiddiol Grand Theft Auto ei estyniadau a'i olynydd yn perthyn i'r bydysawd 2d. Mae Grand Theft Auto III a'i olynwyr yn perthyn i'r Bydysawd 3D. Mae Grand Theft Auto IV, ei estyniadau a Grand Theft Auto V yn perthyn i'r bydysawd HD. Mae Liberty City yn bodoli yn y tri bydysawd, ond mae'r gwahaniaethau rhwng y dinasoedd yn y wahanol fydysawdau yn sylweddol.

Yn y bydysawd 2D[golygu | golygu cod]

Cipolwg o'r ddinas yn GTA 2

Ymddengys Liberty City am y tro cyntaf yn Grand Theft Auto. Mae daearyddiaeth y ddinas ac aliniad yr ynysoedd yn debyg iawn i Efrog Newydd, gyda dwy brif ynys, sy'n debyg i Manhattan yn y canol (gyda pharc mawr yng nghanol yr ynys, tebyg i Central Park ), a nifer o ynysoedd bach, wedi'u cysylltu â phontydd i'r ynysoedd mwy. Mae trenau uwchlaw'r ffordd hefyd yn bresennol. Mae gweithred y gêm wedi ei osod yn y flwyddyn 1997.

Mae'r fersiwn hon o Liberty City yn debyg iawn yn ddaearyddol i Ddinas Efrog Newydd. Atgynhyrchir nifer o drefi Talaith New Jersey yn ogystal â sawl rhanbarth ac ardal dinas Efrog Newydd gyda golwg o'r brig.

Yn y Bydysawd 3D[golygu | golygu cod]

Liberty City yn y bydysawd 3D yw lle mae Grand Theft Auto III[2], Grand Theft Auto Advance[3] a Liberty City Stories[4] yn cael eu lleoli. Yn y dasg Saint Marks Bistro yn GTA San Andreas mae CJ, y prif gymeriad yn ymweld â Liberty City mewn awyren i gyflawni un o'r tasgau[5]. Mae'r ddinas yn seiliedig ar nifer o ddinasoedd mawr yn Nwyrain America yn gyffredinol (Chicago, Efrog Newydd a Philadelphia). Arwyddair y ddinas yw "Y lle gwaethaf yn America". Mae'r ddinas mewn talaith o'r enw "Liberty State". Mae gan y ddinas adran heddlu Liberty City Police Department (LCPD) a hefyd cangen o'r National Office of Security Enforcement (NOOSE) heddlu efo arfau trwm sy'n seiliedig ar adrannau diogelwch go iawn yr Unol Daleithiau yr Adran Diogelwch Cartref (US Department of Homeland Security)[6] a Thimau Arfau Arbennig a Thecteg (Special Weapons And Tactics Teams) yr FBI[7].

Rhennir Liberty City i 3 ynys: Ynys Portland, Ynys Staunton, a Dyffryn Shoreside[8]. Mae hefyd ynys fach o’r enw Portland Rock, sydd mewn gwirionedd yn rhan o Portland. Mae gorsaf dân, ysbyty a gorsaf heddlu wedi lleoli ar bob un o'r ynysoedd.[9]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Ynys Portland[golygu | golygu cod]

Ynys Portland[10] yw'r ynys ddwyreiniol sy'n cynnwys yr ardal ddiwydiannol. Dyma le mae'r chwaraewr yn dechrau yng ngemau GTA III, Liberty City Stories, a GTA Advance. Mae'r Portland El, (rheilffordd uwchben y ffyrdd) gallai'r chwaraewr ei gymryd er mwyn teithio'n gyflym i wahanol gymdogaethau'r ynys. Mae 'na orsaf Metro yn Chinatown sy'n galluogi'r chwaraewr i deithio i'r ynysoedd eraill ar drên tanddaearol wedi i'r holl ynysoedd cael eu datgloi.

  • Atlantic Quays yw ardal harbwr yr ynys.
  • Mae Pont Callahan yn cysylltu Portland a Staunton.
  • Mae Chinatown yn ardal ddiwydiannol, lle mae gang Tsieineaidd y Triads yn rheoli.
  • Mae Harwood yn gymdogaeth eithaf annatblygedig, sy'n cynnwys garej gwerthu ceir, gorsaf betrol ac iard ceir sgrap.
  • Mae Hepburn Heights yn ardal breswyl lle mae gang y Diablos yn ymgasglu.
  • Traeth Portland yw traeth ar ochr ddwyreiniol yr ynys.
  • Mae Harbwr Portland yn doc gyda llong nwyddau mawr.
  • Mae Portland Rock i'r dwyrain o Portland, lle mae goleudy wedi'i leoli.
  • Mae Portland View yn gymdogaeth breswyl, Clwb Stripio Luigi a siopau oedolion wedi eu lleoli
  • Saint Mark's yw ardal y Teulu Maffia Leone, lleoliad cartref Salvatore Leone a bwyty mam Toni Cipriani .
  • Mae Trenton yn gartref i garej Joey, a busnesau eraill, fel melin llifo.

Ynys Staunton[golygu | golygu cod]

Ynys Staunton yw'r ynys ganolog ac ardal fasnachol[11], mae llawer o adeiladau ar yr ynys hon sy'n ymdebygu i ardal Manhattan. Dyma'r ail ynys hygyrch.

  • Mae Aspatria yn ardal i'r gogledd, lle mae stadiwm y ddinas. Mae timau pêl-droed Liberty City Cocks a Liberty City Beavers yn chwarae yno.
  • Bedford Point yw ardal fasnachol y ddinas, wedi'i modelu ar Times Square, Efrog Newydd.
  • Parc bach yw Parc Belleville, gyda thoiled, llys pêl-fasged a thŷ.
  • Mae Fort Staunton yn gymdogaeth fawr, ond wedi'i ddinistrio'n llwyr ym 1998 ar ôl y bomiau a roddwyd yno gan Toni Cipriani. Mae'r gymdogaeth i gyd yn cael ei hailadeiladu, y Cartel Colombiaidd sy'n rheoli'r gwaith ailadeiladu.
  • Campws Liberty yw campws prifysgol y ddinas, mae yna orsaf y Metro yno
  • Mae Newport yn ardal fasnachol a phreswyl. Gang y Yardies sy'n rheoli'r rhanbarth hwn.
  • Mae Rockford yn ardal fasnachol yn Staunton, sy'n eithaf tawel ac, ar y cyfan, yn weddol rydd o'r gangiau a'u trais.
  • Mae Torrington yn lle masnachol ac yn gartref i unig gasino y ddinas. Mae gang Siapaneaidd yr Yakuza yn rheol yma

Shoreside Vale[golygu | golygu cod]

Dyffryn Shoreside yw ynys orllewinol y ddinas, ac yn bennaf yn ardal breswyl. Dyma le mae Maes Awyr Rhyngwladol Francis wedi'i leoli. Dyma'r ynys olaf i agor yn y gemau[12].

  • Yn sicr, Cedar Grove yw'r gymdogaeth gyfoethocaf yn y ddinas, gyda thai hardd, yn bennaf ar ben bryniau. Gellir gweld Ynys Staunton yn y pellter. Mae'r Cartel Colombiaidd yn hongian o gwmpas yr ardal.
  • Argae hydro-electrig yw Argae Cochrane, a enwyd er anrhydedd i un o ddatblygwr cwmni Rockstar o'r enw Adam Cochrane.
  • Mae Maes Awyr Rhyngwladol Francis yn faes awyr mawr iawn sy'n cynnwys gorsaf metro. Mae'r maes awyr yn fwy na rhai Vice City, Los Santos a Las Venturas.
  • Pike Creek yw'r unig ardal ddiwydiannol ar yr ynys, lle mae'r holl wasanaethau brys a busnesau eraill wedi'u lleoli.
  • Mae Wichita Gardens yn ardal breswyl weddol wael. Mae'r rhan fwyaf o'r tai yn fflatiau rhent isel, ac mae gangiau stryd yn bresennol iawn ar ei strydoedd. Yn GTA III mae Claude yn byw yn un o'r fflatiau

Twnnel Porter yw twnnel ceir sy'n mynd dan ddaear ac yn cysylltu'r ddinas gyfan.

Gangiau[golygu | golygu cod]

Yn Liberty City GTA III, mae llawer o gangiau yn ymladd am reolaeth y ddinas. Cartel y Colombiaid yw'r gang mwyaf peryglus a dylanwadol yn y ddinas, gan reoli llawer o'r ddinas am ychydig. Maffia Leone yw'r unig deulu maffia sydd wedi gwrthsefyll, gan barhau i ymladd i adennill yr hen diriogaethau hyn, ac yn parhau i fod yn un o'r gangiau mwyaf peryglus yn y ddinas. Mae'r Yakuzas hefyd wedi cynyddu lefel eu dylanwad, dyma'r prif gang sy'n ymladd yn erbyn Cartel y Colombiaid. Flwyddyn yn gynharach yn Advance, mae'r senario'r un fath, mae'r Yazukas yn ymladd rhyfel yn erbyn Colombiaid, ac mae'r Maffia yn ceisio goroesi.

Yn Liberty City Stories, sydd wedi ei osod tair blynedd yn gynharach, mae 'na tri theulu maffia (Y Leone, y Sindaccos a'r Forelli) yn rhannu rheolaeth y ddinas. Oherwydd rhyfel rhwng y tri theulu, a drefnwyd gan y Sisiliaid, mae gangiau eraill yn ymddangos. Bydd gangiau sy'n dod i'r amlwg yn dod yn gynyddol ddylanwadol, gan achosi colli rheolaeth gan deuluoedd Maffia'r ddinas. Y gangiau yn Liberty City Stories yw:

  • Teuluoedd Maffia Leone, Sindacco a Forelli
  • Y Triad o Tsieina
  • Y Yakuza o Siapan
  • Cartel y Colombiaid
  • Y Diablos
  • Y Yardi
  • Yr Hwdiau
  • Beicwyr (yn diflannu wedi gwahardd beiciau modur yn y ddinas)

Gwahaniaethau rhwng Liberty City yn y gwahanol gemau[golygu | golygu cod]

Er bod y gêm GTA III wedi ei gyhoeddi yn gyntaf mae'r gêm Liberty City Stories wedi ei osod mewn cyfnod cynharach. Mae GTA III yn sôn am ddigwyddiadau yn 2001 a Liberty City Stories am ddigwyddiadau ym 1998.

  • Yn Ynys Staunton yn gêm Liberty City Stories mai gan ardal Fort Staunton amgueddfa, bwyty, tŷ opera a thai (mae'r ardal yn cael ei dinistrio gan Toni Cipriani yn ystod y gêm) ac yn Grand Theft Auto III mae'r safle yn cael ei adeiladu.
  • Mae gwaith trwsio yn digwydd yn Nhwnnel Porter yn Liberty City yn y rhan sy'n pasio o dan Ynys Staunton a Portland tua diwedd GTA III bydd y gwaith yn cael ei orffen.
  • Yn Portland i'r gogledd-orllewin o'r ddinas yn Liberty City Stories mai yna fferi i Fort Staunton tra yn GTA III mae yno fynedfa i Dwnnel Portland.
  • Mae Pont Callahan yn Liberty City Stories yn cael ei adeiladu, yn GTA III mae'n cael ei dymchwel gan ffrwydrad ac mae'n rhaid ei atgyweirio.
  • Nid yw fflat Toni Cipriani yn Portland wedi'i ddymchwel eto yn Liberty City Stories, tra yn GTA III, dim ond ychydig o rannau o wal sydd ar gael, a'r ffordd wrth ei ymyl mewn cyflwr gwael.
  • Mae Twnnel Cedar Grove yn Nyffryn Shoreside ar agor tra bod ar gau ar gyfer gwaith yn GTA III .
  • Mae'r fflatiau yn Heipburn Heights yn Portland yn cael eu hadeiladu yn Liberty City Stories, tra yn GTA III, mae'r gwaith wedi'i orffen.
  • Mae'r stadiwm yn Stauton Island yn cael ei hadeiladu yn Liberty City Stories, tra bod y gwaith wedi gorffen yn GTA III.

Bydysawd HD[golygu | golygu cod]

Mae 5ed ymddangosiad Liberty City yn y gyfres, GTA IV, yn wahanol iawn i'r ddinas yn y gemau blaenorol. Mae'n gopi llawer mwy agos at Efrog Newydd go iawn.[13] Mae'r ddinas yn cadw ei hen arwyddair "Y Lle Gwaethaf yn America". Honnir bod poblogaeth y ddinas bellach yn 8 miliwn o bobl.

Hanes y Ddinas[golygu | golygu cod]

Mae yna setiau teledu yn y tai lle mae'r gêm yn cael ei arbedi[14]. Mae modd gwylio rhaglenni ar y teledu. Mae un o'r rhaglenni yn adrodd hanes liberty City o'i sefydlu hyd at Ryfel Cartref America, mae ardal Liberty City yn cael ei fforio ym 1609 gan Horatio Humboldt (Cafodd ardal Efrog Newydd ei fforio ym 1609 gan Henry Hudson). Sefydlwyd gorsaf fasnachu gan bobl o'r Iseldiroedd ym 1625 ar South Algonquin (sefydliwyd gorsaf debyg ym 1624 ar Governor Island, Efrog Newydd[15]). Yn wreiddiol, enwyd y ddinas yn Rotterdam Newydd gan y setlwyr cyntaf o'r Iseldiroedd (Amsterdam Newydd oedd cyn enw Efrog Newydd).

Cymdogaethau[golygu | golygu cod]

Dyma'r rhestr o bedwar bwrdeistref "modern" Liberty City o GTA IV[16], The Lost and Damned[17], Chinatown Wars, a The Ballad of Gay Tony:[18]

  • Broker (Brooklyn)
  • Dukes (Queens)
  • Bohan (Bronx)
  • Algonquin (Manhattan)

Nid yw Staten Island yn cael ei gynrychioli yn y gêm.

Downtown Brooklyn
Prospect Park
Coney Island
Maes Awyr JFK
Cymdogaeth Wedi'i ysbrydoli gan
Broker (wedi'i ysbrydoli gan Brooklyn )
BOABO DUMBO
Downtown Downtown Brooklyn
East Hook Red Hook
Outlook Prospect Park
South Slopes Park Slope
Schottler Sunnyside
Beechwood City Flatbush
Hove Beach Brighton Beach
Prosiectau Firefly Brownsville
Firefly Island Coney Island
Beachgate Seagate
Cymdogaeth Wedi'i ysbrydoli gan
Dukes (wedi'i ysbrydoli gan Queens )
Steinway Astoria
Meadows Park Flushing Meadows-Corona Park
East Island City Long Island City
Meadow Hill Forest Hills
Willis Hollis
Maes Awyr Rhyngwladol Francis Maes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy
Cerveza Heights Jackson Heights Corona
Cymdogaeth Wedi'i ysbrydoli gan
Bohan (wedi'i ysbrydoli gan y Bronx )
Boulevard Concourse
Chase Point Hunts Point
Fortside Fordham
Industrial Port Morris
Little Bay Throg's Neck
Northen Gardens Co-op City
South Bohan South Bronx
Cymdogaeth Wedi'i ysbrydoli gan
Algonquin (wedi'i ysbrydoli gan Manhattan )
Castle Garden City Battery Park City
Castle Gandens Battery Park
Chinatown Chinatown
Neuadd y Ddinas Neuadd y Ddinas
East Holland Harlem Sbaeneg
Easton Midtown
Fishmarket North & South South Street Seaport
Happiness Island Liberty Island
Hatton Gardens Tudor City
Lancaster Kips Bay
Little Italy Little Italy
Lower Easton Lower East Side
Middle Park Central Park
Middle Park East Upper East Side
Middle Park West Upper West Side
North Holland Harlem
Northwood Inwood
Presidents City Alphabet City
Purgatory Hell's Kitchen
Star Junction Times Square
Suffolk Soho
The Exchange Financial District
The Meat Quarter Meatpacking District
The Triangle Flatiron District
Varsity Hights Morningside Hights
Westminster Greenwich Village

Alderney[golygu | golygu cod]

Mae talaith arall hefyd yn bresennol, er ei fod yn chwarae rôl lai yn GTA IV, sef talaith Alderney, sy'n cael ei ysbrydoli gan talaith New Jersey. Mae Alderney yn ardal fach wedi'i leoli wrth ymyl ardal Liberty.

Mae Alderney City yn eiddo i'r wladwriaeth yn bennaf, ac mae hefyd yn cael ei ysbrydoli gan ddinasoedd Newark a Jersey City. Nid yw Alderney yn ymddangos yn Grand Theft Auto: Chinatown Wars .

Dyma'r rhestr o gymdogaethau yn Alderney;

Cymdogaeth a / neu ddinas Wedi'i ysbrydoli gan
Alderney (Wedi'i Ysbrydoli gan New Jersey )
Leftwood Englewood
Westdyke Weehawken
Acter East Orange o Newark
Normandi Bayonne
Dinas Alderney Dinas Jersey
Tudor Elizabeth
Harbwr Tudur Port Elizabeth
Parc Diwydiannol Acter Port Johnson
Cyfleuster Cywiro Talaith Alderney Carchar gogledd y dalaith, Newark

Henebion[golygu | golygu cod]

Gangiau[golygu | golygu cod]

Yn Liberty City GTA IV nid yw'r gangiau yn amlwg er eu bod yn bresennol yn y ddinas. Prif gangiau'r ddinas yw:

  • Maffia Rwsia (Brocer)
    • Y Teulu Petrovic
    • Teulu Faustin
    • Y Teulu Bulgarin
    • Y Teulu Rascalov
  • Maffia Gwyddelig (Dukes)
    • Y Teulu McReary
  • Maffia Tseiniaidd (Algonquin)
    • Y Teulu Jaoming
    • Y Teulu Lee
    • Y Teulu Ming
  • Maffia Corea (Dinas Alderney)
  • Maffia Albaniaidd (Brocer a Bohan)
  • Affricanaid-Americanaidd (Bohan ac Algonquin)
  • Yr Angels of Death (Algonquin)
  • The Lost (Alderney)
  • Uptown Riders (Algonquin)
  • Gangsters y Canolbarth (Bohan)
  • Arglwyddi Sbaen (Bohan ac Algonquin)
  • Y Jamaiciaid (Brocer)
  • MOBs (Algonquin)
  • Mae pum maffia Eidalig yn rhannu'r frwydr yn Liberty City (o'r lleiaf pwysig i'r mwyaf o ran pŵer):
    • Y teulu Gambetti, wedi'i leoli yn Broker a'i gyfarwyddo gan Jon Gravelli. Wedi'i ysbrydoli gan y teulu Gambino
    • Y teulu Pavano, wedi'i leoli yn Algonquin ac weithiau'n ymwneud â busnes yn Alderney, dan arweiniad Mario Pavano. Wedi'i ysbrydoli gan y teulu Genovese
    • Y teulu Messina, wedi'i leoli yn Dukes ac a arweinir gan Harvey Messina. Wedi'i ysbrydoli gan y teulu Bonanno
    • Y teulu Lupisella, wedi'i leoli yn Bohan ac wedi'i arwain gan Mark "Loopy" Lupisella. Wedi'i ysbrydoli gan y teulu Lucchese
    • Teulu Ancelotti, wedi'i leoli yn Little Italy a Alderney City ac wedi'i gyfarwyddo gan Giovanni Ancelotti. Wedi'i ysbrydoli gan y teulu Colombo

Mae'r pum teulu yn rhan o Gyngor Liberty City Five Mafia.

  • Mae'r teulu Pegorino, a leolir yn Alderney ac yn cael ei arwain gan Jimmy Pegorino, yn cael ei ystyried gan y Cyngor fel gang bach o South Alderney.

Mae'r gangiau beic modur hefyd ar eu hochr, gan ymladd am reolaeth Alderney, gan fod "Lost" ac "Angels of Death" wedi cael eu hysbrydoli gan Hells Angels a gangiau eraill o feicwyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rockstar. "Grand Theft Auto III: Your Questions Answered – Part One (Claude, Darkel & Other Characters)". Rockstar: The “universes” are the worlds interpreted at different definitions, 2D, 3D and high definition, so we felt brands and radio / back ground characters would exist in both, but 3 dimensional characters would not.
  2. Grand Theft Auto III ar IMDb adalwyd 07 Mehefin 2018
  3. Grand Theft Auto Advance ar IMDb adalwyd 07 Mehefin 2018
  4. Liberty City Stories ar IMDb adalwyd 07 Mehefin 2018
  5. GTA Fandom Missions in GTA San Andreas; Saint Mark's Bistro adalwyd 07 Mehefin 2018
  6. Gwefan US Department of Homeland Security adalwyd 07 Mehefin 2018
  7. American Special Ops Special Weapons & Tactics | SWAT adalwyd 07 Mehefin 2018
  8. Mapiau gêm sy'n cynwysiedig yn y pecynau gêm
  9. Rockstar Games llawlyfr gêm GTA III
  10. GTA Fandom Portland adalwyd 07 Mehefin 2018
  11. GTA Fandom Staunton Island adalwyd 07 Mehefin 2018
  12. GTA Fandom Shoreside Vale adalwyd 07 Mehefin 2018
  13. IGN 28 Mawrth 2008 GTA IV: BUILDING A BRAVE NEW WORLD adalwyd 7 Mehefin 2018
  14. XBox360 Liberty City Guidebook (llawlyfr gêm)
  15. "United States History – History of New York City, New York". Cyrchwyd Medi 9, 2012.
  16. Grand Theft Auto IV Signature Series Guide Paperback – 29 Apr 2008 by Tim Bogenn
  17. Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned Official Strategy Guide Bradygames 2009 Tim Bagenn & Rick Barba
  18. PC Gamer Ebrill 25, 2018 Ten years on, GTA 4's Liberty City is still an incredible virtual city adalwyd 07/06/2018
  19. Eurogamer -Hillary Clinton slams GTA Former first lady aligns with hardline right-wingers to slam Grand Theft Auto adalwyd 7 Mehefin 2018
  20. N4G Is Hillary Clinton's Face on GTA IV's Statue of Happiness? adalwyd 7 Mehefin 2018