Carl Johnson (Grand Theft Auto)

Oddi ar Wicipedia
Carl Johnson
GanwydLos Santos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethgangster, lleiddiad cyflog Edit this on Wikidata
TadTad Carl Johnson Edit this on Wikidata
MamBeverly Johnson Edit this on Wikidata

Mae Carl Johnson (sy'n cael ei adnabof fel arfer fel CJ) yn gymeriad dychmygol. Ef yw'r prif gymeriad sy'n cael ei reoli gan y chwaraewr yn y gêm fideo Grand Theft Auto: San Andreas Mae'r cymeriad yn cael ei leisio gan Young Maylay.[1] Mae CJ yn aelod o gang The Grove Street Families (GSF), gang wedi'i leoli yn Los Santos. Drwy gydol y gêm, mae'n codi'n araf i amlygrwydd yn y gyfundrefn droseddol wrth iddo gwblhau tasgau sy'n gynyddol anodd.

Addasu'r cymeriad[golygu | golygu cod]

Yn wahanol i brif gymeriadau'r gemau GTA blaenorol, mae ymddangosiad CJ yn hynod addasadwy, oherwydd gall y chwaraewr talu i drin ei wallt a phrynu tatŵs a dillad iddo. Mae rhai o'r gwisgoedd, tatŵs a steiliau gwallt yn gwella statws CJ gyda chyd aelodau'i gang ac yn cynyddu ei apêl rywiol i rai o gymeriadau benywaidd y gêm. Wrth i CJ marchogaeth beiciau, gyrru ceir, gyrru beiciau modur a hedfan awyrennau, bydd ei sgil wrth wneud yn gwella. Mae'r un peth yn digwydd gyda'r arfau mae'n eu defnyddio. O ddefnyddio gwahanol gynnau'n aml bydd gallu CJ i'w anelu a'i gyflymder wrth eu saethu yn cynyddu. Gall y chwaraewr hefyd ddewis gwneud tasgau ymarfer corff, sy'n cryfhau cyhyrau a stamina CJ.

Cymeriad[golygu | golygu cod]

Mae personoliaeth CJ yn wahanol iawn i'r prif gymeriadau blaenorol gellid eu chwarae yn y gyfres Grand Theft Auto. Tra bod Claude a Tommy Vercetti ill dau wedi'u darlunio fel rhai sosiopathig ac yn teimlo dim gofid am y llofruddiaethau y maent yn eu cyflawni, mae CJ wedi'i ddarlunio fel person sydd â phersonoliaeth llawer llai treisgar, ac weithiau mae'n rhoi cyfle i'w ddioddefwyr adennill eu hunain (un enghraifft oedd ei ymgais aflwyddiannus i argyhoeddi Eddie Pulaski i adael ochr Frank Tenpenny). Ar ben hynny, mae CJ hefyd yn dangos edifeirwch gwirioneddol am orfod lladd cyd-aelodau ei gang, Ryder a Big Smoke, yr oedd wedi ei ystyried cynt fel dau o'i ffrindiau agosaf. Fodd bynnag, nid oes ganddo unrhyw broblem efo lladd aelodau o gangiau eraill a phobl sy'n elynion bygythiol iddo yn y gêm. Mae personoliaeth naïf CJ, ei ddiffyg profiad a'i dueddiad i ymddiried yn hawdd mewn cymeriadau eraill yn eu harwain o bryd i'w gilydd i gwestiynu deallusrwydd CJ.

Rhagymadrodd[golygu | golygu cod]

Cafodd Carl "CJ" Johnson ei eni ym 1968 yn ninas Los Santos, yn un o bedwar plentyn Beverly Johnson.[2] Ei frodyr a'i chwiorydd oedd: Sean (Sweet), Kendl, a Brian. Cafodd plant y teulu Johnson eu magu, ar yr un stryd â Melvin "Big Smoke" Harris a Lance "Ryder" Wilson, a daethant yn ffrindiau bore oes. Bu farw, Brian, brawd ieuengaf CJ ym 1987. Dydy achos ei farwolaeth ddim yn cael ei ddatgelu ond ceir yr awgrym bod CJ wedi ei "adael i farw". Wedi marwolaeth ei frawd bu'n rhaid i CJ ymadael a'r gang a'i gartref mewn cywilydd. Symudodd i Liberty City, lle bu'n gweithio gyda Joey Leone yn y busnes dwyn ceir.[3]

Ym 1992, mae Beverly Johnson yn cael ei lladd gan aelodau o gang y Ballas. Mae Sweet yn ffonio CJ i roi gwybod iddo ac mae'n cytuno i ddychwelyd am yr angladd.[4]

Dychwelyd i San Andreas[golygu | golygu cod]

Mae prif stori'r gêm yn dechrau gyda dychweliad CJ i Los Santos ar gyfer angladd ei fam.[5] Mae'n dal tacsi o'r maes awyr i'r cartref teuluol. Ar y ffordd mae'n cael ei arestio gan yr heddweision Frank Tenpenny, Eddie Pulaski a Jimmy Hernandez, tri aelod o'r adran CRASH (Community Resources Against Hoodlums). Mae'r heddweision yn dweud wrtho y byddant yn ei fframio am lofruddiaeth yr heddwas Ralph Pendlebury (a chafodd ei lofruddio, mewn gwirionedd gan CRASH) oni bai ei fod yn gweithio iddynt yn gyfnewid am ei ddiogelwch personol a diogelwch ei deulu a'i ffrindiau.

Ar ôl ei wrthdaro â CRASH, mae CJ yn dychwelyd i Grove Street lle caiff ei aduno â'i frodyr a'i chwiorydd.

Mae CJ yn canfod bod GSF, gang ei deulu a'i ffrindiau, wedi colli llawer o'i rym a'i ddylanwad i gangiau eraill, yn enwedig gang y Ballas, yn ystod ei absenoldeb. Yn fuan ar ôl iddo ddychwelyd, mae CJ yn dechrau cynorthwyo ei gynghreiriaid i ailsefydlu goruchafiaeth GSF drwy gael gwared â delwyr cyffuriau, caffael arfau ac adennill tiriogaeth goll y gang. Mae CJ hefyd yn cynorthwyo ei ffrind OG Loc i hyrwyddo ei yrfa rapio (gan ddinistrio gyrfa'r rapiwr llwyddiannus, Madd Dogg, yn y broses) ac yn ddiweddarach caiff ei gyflwyno i gariad Kendl, Cesar Vialpando, arweinydd gang Varrio Los Aztecas.

Fodd bynnag, nid oes mawr o lewyrch i adfywiad gang GSF gan fod CJ yn darganfod bod Big Smoke a Ryder wedi bradychu'r gang trwy gyd weithio gyda CRASH a gang y Ballas. Mae aelodau gang y Ballas yn ymosod ar Sweet ac mae'n cael ei glwyfo yn y frwydr ddilynol. Mae CJ yn cyrraedd maes y gad ac yn achub bywyd ei frawd, ond mae'r ddau yn cael eu harestio gan yr heddlu. Mae Sweet yn cael ei roi ar brawf, yn cael ei ddyfarnu'n euog o nifer o droseddau ac yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes. Ond mae gan CRASH angen help CJ o hyd. Maent yn ei herwgipio ac yn ei adael yng nghefn gwlad gyda'r dasg o ladd tyst yn eu herbyn mewn achos o lygredigaeth. Maent yn rhybuddio CJ i gadw draw o Los Santos wedi cyflawni'r dasg. Yn dilyn y digwyddiadau hyn, mae GSF yn colli eu dylanwad unwaith eto ac yn ildio eu holl diriogaethau i'r gangiau sy'n elyniaethus iddynt.[6]

Alltudiaeth, cynghreiriau newydd a mentrau busnes[golygu | golygu cod]

Wedi ei alltudiaeth mae Cesar yn awgrymu y gallai CJ cael lloches a modd i ennill tamaid trwy gyfarfod a'i chyfnither, Catalina. Mae'r ddau yn cyflawni pedwar o ladradau gyda'i gilydd ac yn cychwyn perthynas rhywiol er nad yw CJ i'w gweld yn awyddus iawn efo'r perthynas, yn enwedig hoffter Catalina o BDSM.[7] Wedi'r lladrad olaf mae'r ddau yn torri fyny wedi i Catalina dechrau perthynas efo Claude, perchennog gweithdy trwsio ceir yn ninas San Fierro. Mae Catalina yn herio ei chariad newydd a'i chyn cariad i rasio ei gilydd mewn ras ceir. Mae Claude yn colli'r ras ac yn gorfod ildio ei modurdy i CJ yn lle talu dyled y fet.

Mae Tenpenny yn cyflwyno CJ i hipi o'r enw "The Truth" sy'n ei gyflenwi gyda mwg drwg. Wedi cyflawni sawl dasg ar gyfer Truth, mae'n rhaid iddo ei helpu i losgi ei gnwd rhag iddo gael ei ddarganfod gan yr awdurdodau. Wedi colli ei fusnes amaethyddol mae'r Truth a CJ yn penderfynu hel eu hunain i San Fierro i weld sut siâp sydd ar y busnes a enillwyd gan Claude. Un o'r rai fu'n cyd rasio a Claude a CJ oedd arweinydd dall y Triads, sef y Maffia Tsieineaidd, yn San Fierro, Wu Zi Mu (Woozie). Wrth geisio adeiladu ei fusnes yn y modurdy mae CJ yn cyflawni tasgau i Woozie. Mae'r ddau yn cydweithio i dargedu'r Loco Syndicate (cyflenwyr Big Smoke) a'r gang sy'n cystadlu a Woozie y Da Nang Boys. Un o aelodau'r Loco Syndicate, mae CJ yn credu ei fod wedi ei ladd yw Mike Toreno. Wedi ei farwolaeth mae CJ yn derbyn galwad ffôn gan Toreno, sydd wedi goroesi yn groes i'r disgwyl. Mae Toreno yn datgelu ei fod yn asiant cudd i'r llywodraeth. Mae o'n mynnu bod CJ yn gweithio iddo ef ar addewid o ennill rhyddhad o'r carchar i Sweet, ei frawd.[8]

Er mwyn gweithio i Toreno mae'n rhaid i CJ dysgu hedfan. Mae'n gorfod mynychu Ysgol Hedfan yn yr anialwch a chyflawni nifer o dasgau i gynyddu ei sgiliau hedfan. Yn ôl lawer dyma ran anoddaf y gêm. Wedi dysgu hedfan mae'n gallu parhau a thasgau Toreno.[9]

Yn y cyfamser mae'n helpu Truth i ddwyn offer o adran gudd yr awyrlu gan gynnwys jetpack a gŵ gwyrdd.[10] Mae o hefyd yn cael ei wahodd gan Woozie i ddod yn gyfranddaliwr yn Casino y Four Dragons yn Las Venturas. Cost ei gyfranddaliad yw cynorthwyo Woozie i danseilio Casino arall, Casino Caligula, sy'n eiddo i Maffia'r Eidal, dan reolaeth Salvatore Leone. Mae'r casino yn cael ei reoli gan Ken Rosenberg. Mae Ken hefyd yn rheoli grŵp pop Seisnig sydd yn cynnwys y cerddorion Paul a Maccer. Trwy ei fusnes mwg drwg mae Truth yn adnabod y ddau, sydd yn galluogi CJ i gysylltu â busnes Casino Caligula. Bu CJ hefyd yn gweithio i Joe, mab Salvatore, yn ei gyfnod yn Liberty City. Mae'n gwneud tasgau ar gyfer Ken a'r grŵp a thasgau ar gyfer Salvatore. Mae hyn yn rhoi modd i CJ trefnu lladrad enfawr o Gasino Caligula.

Mae Carl dan fawd CRASH o hyd, maent yn rhoi'r gorchwyl iddo i ladd Hernandez, sydd wedi bradychu llygredd CRASH, mae'n gwrthod. Y bwriad yw lladd CJ a honni ei fod ef yn gyfrifol am farwolaeth Harnandez. Mae pethau yn mynd o chwith. Mae Pulaski yn lladd Harnandez. Mae CJ yn lladd Pulaski wrth ffoi am ei fywyd.

Wrth ddychwelyd i Las Venturas mae CJ yn canfod Madd Dogg yn ceisio lladd ei hun, wedi colli popeth wedi i OG Loc, dwyn ei fywoliaeth. Mae CJ yn ei achub ac yn mynd ag ef i'r ysbyty. Gan fod OG Loc wedi mynd drosodd i'r sawl fu'n gyfrifol am ddisodli gang GSF, mae'n cytuno i geisio adfer enw da Madd Dogg

Diweddglo[golygu | golygu cod]

Mae'r anghydfod rhwng CJ, Tenpenny a Big Smoke, yn dwysau wedi i Madd Dogg cael ei orfodi i werthu ei blasty i'r arglwydd cyffuriau Big Poppa. Mae CJ yn dychwelyd i Los Santos, gan adfeddiannu plasty'r rapiwr trwy rym. Wrth recordio albwm newydd Madd Dogg mae Toreno yn galw CJ i roi tasg arall iddo cyn i Sweet cael ei ryddhau o'r carchar. Wedi cael ei ryddhau mae Sweet wedi ei ffieiddio gan fywyd llewyrchus newydd CJ ac yn ei gyhuddo o anghofio ei gefndir a'i gang. Mae Sweet yn mynd a CJ yn ôl i Grove Street i gychwyn ar y gwaith o adennill eu tiriogaeth a'u dylanwad. Mae CJ yn llwyddo i adennill llyfr caneuon gan OG Loc gan gynorthwyo i ail gychwyn gyrfa rapio Madd Dogg.

Mae rhaglen newyddion yn adrodd bod diffyg tystiolaeth wedi arwain at fethiant yr achos o lygredigaeth yn erbyn yr heddwas Tenpenny. O ganlyniad i ryddfarniad Tenpenny mae poblogaeth Los Santos yn dechrau terfysgu. Mae CJ yn ymosod ar, ac yn lladd Big Smoke yn ei ffatri cyffuriau sy'n cael ei amddiffyn gan Tenpenny. Mae Tenpenny yn ffoi mewn injan dân. Mae CJ a Sweet yn ei gwrso i geisio i'w atal rhag ffoi. Mae Tenpenny yn marw wedi i'r injan dân syrthio oddi ar bont. Mewn dathliad yn nhŷ'r teulu Johnson, mae Madd Dogg, Ken, Kent, a Maccer, yn cyhoeddi eu bod wedi cael eu record aur gyntaf. Ar yr un pryd, mae Sweet yn mynnu gwneud ail adeiladu GSF yn flaenoriaeth, tra bod Kendl yn awgrymu mynd yn ôl i Las Venturas gyda Woozie, ond unig ateb CJ oedd ei fod am fynd am dro o amgylch y bloc i weld beth sy'n digwydd. Wrth iddo ddechrau ar ei daith mae'n cael galwad ffôn gan Catalina sydd am iddo wrando arni yn cael cyfathrach gyda Claud. Mae CJ yn torri'r cysylltiad ffon.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]