Grand Theft Auto 2

Oddi ar Wicipedia
Clawr GTA2
Grand Theft Auto 2
Datblygwyr
  • DMA Design
  • Tarantula Studios (GBC)
Cyhoeddwr Rockstar Games
Cyfarwyddwyr
  • Jim Woods
  • David Jones
  • Simon Crisp (CBS)
Cynhyrchwyr
  • Sam Houser
  • David Jones
Dylunwyr
  • Stephen Banks
  • William Mills
  • Billy Thomson
Rhaglennydd
  • Keith R. Hamilton
  • Martin McKenzie (CBS)
Artistiaid
  • Ian McQue
  • Russell East (CBS)
Awdur Dan Houser
Cyfansoddwyr
  • Colin Anderson
  • Craig Conner
  • Bert Reid
  • Stuart Ross
  • Paul Scargill
  • Anthony Paton (CBS)
Cyfres Grand Theft Auto
Llwyfanau
Rhyddhau 30 Medi 1999
Genre Antur
Modd Chwaraewr sengl

Cyd-chwarae

Mae Grand Theft Auto 2 yn gêm fideo antur byd agored a datblygwyd gan y cwmni Albanaidd DMA Design ac a gyhoeddwyd gan Rockstar Games. Cafodd ei ryddhau ar 30 Medi 1999 ar gyfer Microsoft Windows, ac ar 22 Hydref 1999 ar gyfer y PlayStation, cyn cael ei ryddhau ar gyfer Dreamcast a Game Boy Color yn 2000. Mae'n olynydd i Grand Theft Auto 1, ac yn rhan o'r gyfres Grand Theft Auto. Mae'r fformat byd agored yn rhoi'r rhyddid i'r  chwaraewyr  i grwydro i unrhyw le yn y Ddinas.

Mae'r gêm yn cael ei chwarae gan edrych o'r brig i lawr. Mae modd tramwyo'r ddinas ar droed neu mewn cerbyd. Rhoddwyd y gêm ar system Steam ar 4 Ionawr 2008 fel rhan o gasgliad.[1] Cafodd ei olynydd, Grand Theft Auto III, ei ryddhau ym mis Hydref 2001.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Grand Theft Auto 2 yn cael ei leoli mewn amser amhenodol mewn dinas ddienw ddyfodolaidd Rhywle yn yr Unol Daleithiau.[2] Mae llawlyfr a gwefan y gêm yn defnyddio'r ymadrodd "tair wythnos i mewn i'r dyfodol";[3] ond mae cofnodion dyddlyfr ffuglen ar wefan Grand Theft Auto 2  yn awgrymu ei fod wedi ei leoli yn y flwyddyn 2013.

Mae'r ddinas wedi ei rhannu'n dair lefel, neu "ardal". Mae'r lefel gyntaf, Downtown, yn fwrlwm o weithgaredd busnes yn ogystal â safle ysbyty meddwl fawr a phrifysgol. Mae'r ail ardal yn Ardal Breswyl ac mae'n cynnwys carchar y ddinas, parc carafanau sefydlog gyda bar thema Elvis Presley o'r enw "Disgracelands", sydd yn foes am gartref go iawn y cannwr Graceland. Mae gan yr ardal, canolfan siopa, a gorsaf pŵer trydan dŵr enfawr hefyd. Y trydydd a'r olaf o'r ardaloedd yw'r Ardal Ddiwydiannol sy'n cynnwys porthladd, ffatri pacio cig, Gorsaf Ynni Niwclear a theml Krishna.

Gangiau[golygu | golygu cod]

Mae cyfanswm o saith gang troseddol yn y gêm, mae rhai wedi eu henwi ar ôl gangiau neu eu grwpiau go iawn. Mae'r Zaibatsu, Corfforaeth lygredig, yn bresennol ym mhob un o'r ardaloedd. Mae ardal Downtown yn gartref i'r Loonies, criw o bobl gyda salwch meddwl pobl sydd wedi meddiannu seilam y ddinas; mae Downtown hefyd yn gartref i'r Yakuza, maffia Japaneaidd. Yn yr ardal Breswyl, mae'r gangiau  Gwyddonwyr SRS (Sex and Reproductive Systems) a Rednecks, sy'n byw yn  y parc carafanau ac yn gyrru o gwmpas mewn tryciau gyda baneri Confederate mawr arnynt. Mae'r ardal Ddiwydiannol yn cynnwys y Maffia Rwsieg a'r Hare Krishna. Mae gan bob gang ceir, ymddygiad a nodweddion arbennig ei hun.

Goleuo[golygu | golygu cod]

Ar y fersiwn PC mae modd chware'r gêm ar osodiadau dau wahanol amser o'r dydd, hanner dydd neu gyfnos. Ar osodiad hanner dydd mae'r hinsawdd yn llachar ac yn gwneud y gêm yn glir i weld (mae hefyd yn gostwng y raffeg gwaelodol ar galedwedd is raddedig oherwydd bod llai o effeithiau goleuo). Ar osodiad y cyfnos mae'r gêm yn dywyllach, sydd yn caniatau effeithiau goleuo deinamig o ffrwydradau a goleuadau car. Yn y fersiwn Dreamcast dim ond y fersiwn cyfnos sydd ar gael, ac ar y PlayStation dim ond yr osodiad hanner dydd. Mae'r nodwedd hon yn cael ei ehangu ymhellach yn Grand Theft Auto III a gemau eraill lle mae'r golau dydd yn newid gydag amser diwrnod yn y gêm.

Chware'r gêm[golygu | golygu cod]

Mae Grand Theft Auto 2 yn cadw golwg o'r brig i lawr a defnyddiwyd yn y gemau blaenorol, yn ogystal â'r gallu i ddwyn ceir, a chael tasgau newydd dros y ffôn fformiwla wreiddiol. Mae Claude Speed, cymeriad  y chwaraewr a'r prif gymeriad y gêm yn gallu i archwilio dinasoedd ar droed neu mewn gwahanol gerbydau. Y nod yw ennill sgôr penodol. O gyflawni'r nod bydd y chwaraewr yn gallu symud ymlaen i'r lefel nesaf. Bydd cyflawni tasgau'r gêm yn llwyddiannus yn gwobrwyo'r chwaraewr gyda mwy o bwyntiau nag unrhyw ddull arall ond nid ydynt yn hanfodol ar gyfer cwblhau'r gêm.

Cipolwg o'r gêm

Nodwedd newydd a gyflwynwyd yn Grand Theft Auto 2 yw gwneud tasgau ar gyfer y gwahanol gangiau. Mae dau gang newydd ar gyfer pob un o dair lefel  y gêm, ac un garfan sydd yn bresennol ar bob lefel. Os yw'r chwaraewr yn  cael ei gyflogi gan un gang bydd yn codi drwgdybiaeth gang arall (mae gweithio i gang Rhif 1 yn pechu gang Rhif 2, bydd gweithio i gang Rhif 2 yn achosi gelyniaeth gyda gang Rhif 3, ac ati.). Yn y  Grand Theft Auto gwreiddiol , dim ond yr heddlu lleol oedd yn  dilyn y chwaraewr. Yn Grand Theft Auto 2, mae timau SWAT (heddlu tactegol gydag arfau milwrol)  yn cael eu cyflwyno yn yr Ardal Downtown os bydd y chwaraewr yn ennill 4 pen cop. Mae Asiantau Arbennig (5 pen cop) a'r fyddin (6 pen cop) yn cael eu cyflwyno yn yr ardaloedd Preswyl a Diwydiannol. Bydd y mathau ychwanegol yma o orfodi cyfraith a threfn yn cael eu defnyddio wrth i lefel troseddol y chwaraewr cynyddu. Mae'r lefel troseddol yn cael ei gynrychioli trwy ddelweddau o ben cop (heddwas) ar y sgrin.

Mae Grand Theft Auto 2 yn cyflwyno gwell ffordd o gadw gêm. Yn y gêm wreiddiol, doedd dim ond modd cadw gêm wedi gorffen holl dasgau mewn dinas. Yn GTA2 mae modd cadw gêm trwy fynd i mewn i'r eglwys a rhoi rhodd o $50,000, bydd llais yn cyhoeddi "Haleliwia! Enaid arall wedi ei gadw!". Mae hyn yn rhoi gwybod i'r chwaraewr bod y gêm wedi cael ei gadw. Os nad oes gan y  chwaraewr digon o arian, mae'r llais yn dweud "Damnedigaeth! Dim arian, dim achubiaeth!" a bydd dim modd cau'r gêm heb golli'r cynnydd yn y gêm a wnaed hyd hynny. 

Gwnaed gwelliannau eraill perthnasol i fywyd y ddinas hefyd. Nid rhannau cosmetig o'r gêm yn unig yw cerbydau a cherddwyr eraill maent yn chwarae rôl yn y gêm. Weithiau bydd cerddwyr  yn mynd i mewn i a theithio yn y tacsis a'r bysiau. Mae aelodau'r cyhoedd, cerddwyr, aelodau gangiau a'r heddlu weithiau yn ymladd ym mysg ei gilydd. Mae lladron ceir eraill, mewn siwmperi gwyrdd, a mygwyr, mewn siwmperi coch hefyd yn weithredol yn y ddinas.[4]

Mae'r gêm yn cyflwyno 'tasgau ochr' megis gyrrwr tacsi, gyrru bws, ac yn a gyrru tryc. Mae modd casglu pecynnau cydd (Bathodynnau GTA2) neu Wang-Cars (ceir Mr Wang nid halwyr). Bydd gyrru tacsi yn enill tua 1 doler yr eiliad. Mae'r Wang-Cars yn ymddangos yn yr ail ardal. Maent yn cael eu cuddio yn dda ac fel arfer mae'n ofynnol i'r chwaraewr gwneud i'w gar neidio ar gyflymder uchel i gyrraedd y ceir gan fod rhai ohonynt wedi parcio ar ben adeiladau. O fynd i mewn i Wang-Car bydd y chwaraewr yn ail ymddangos o flaen garej Mr Wang. Mae canfod y cyfan o'r Wang-Cars yn datgloi Tanc, Land Roamer arfog, Injan Dân gyda fflamau yn dod trwy ei bibellau dŵr, pedwar GT Furore; dau gyda ffrwydron, un gyda slics olew ac un gyda gwn peiriant, a Char Asiant Arbennig gyda gwn peiriant. Bydd y cerbydau hyn yn ymddangos ym maes parcio'r garej.

Mae rhai arfau yn Grand Theft Auto 2 yn dechrau tasg  "Lladd Cynddeiriog" o'u codi. Bydd gan y chwaraewr amser cyfyngedig i ladd nifer penodol o bobl. Bydd bonws yn cael ei wobrwyo am gyflawni'r tasgau.

Mae fersiwn y PlayStation o Grand Theft Auto 2 wedi i addasu fel ei fod yn llai eithafol na'r fersiwn PC, gyda'r angen i ladd llai o bobl yn y tasgau cynddeiriog. Mae un dasg wedi newid hefyd. Yn lle ceisio twyllo'r aelodau o'r cyhoedd i fynd i mewn bws i gael eu gyrru i ffatri prosesu cig i'w canibaleiddio, rhaid gyrru aelodau o gang Hare Krishna.

Fel yn achos y Grand Theft Auto a Grand Theft Auto: Llundain  1969, mae'r chwaraewr yn derbyn taliadau bonws am redeg ei gar dros bobl benodol heb stopio neu frecio. Bydd nifer o ddynwaredwyr Elvis weithiau i'w gweld yn cerdded y strydoedd. Os yw'r chwaraewr yn eu lladd mewn cyfnod byr o amser, bydd yn ennill bonws ariannol mawr a bydd y geiriau "Elvis has left the building"yn ymddangos ar y sgrîn

Mae Grand Theft Auto 2 hefyd yn cynnwys pedwar tasg aml chwaraewr: Deathmatch, Team Deathmatch, Tag a Race.

Mae trenau yn y fersiwn PC, a bydd y chwaraewyr yn gallu teithio arnynt.

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Sgoriau Cyfanredol
Cyfanredwr Sgôr
GameRankings 71.50% (PC) [5]

70.80% (DC)[6]
69.92% (PS1) [7]
35.00% (GBC)[8]

Metacritic 70/100 (PS1)[9]
Sgoriau adolygu
Cyhoeddiad Sgôr
Edge 8/10 [10]
GameSpot 6.9 / 10 (PS1)[11]
 

6.9 / 10 (DC)[12]
6.8 / 10 (PC) [13]

IGN[4] 7.3 / 10 (PC)
 

6.8 / 10 (PS1)
6.7 / 10 (DC)

Derbyniodd fersiwn PC GTA2 gwobr "Arian" am werthiant gan Gymdeithas Cyhoeddwyr Meddalwedd Adloniant a Hamdden (ELSPA),[14] yn dangos gwerthiant o leiaf 100,000 o gopïau yn y Deyrnas Unedig.[15] Cafodd y fersiwn PlayStation gwobr "Platinwm" ELSPA am werthu 300,000 neu fwy o unedau yn y Deyrnas Unedig.[16]

Cafodd Grand Theft Auto 2 ei ryddhau i adolygiadau cymysg. Cafodd graffeg y gêm derbyniad cymysg gan y beirniaid, a nododd mai prin bu unrhyw wahaniaeth yn safon y raffeg ers y gêm wreiddiol. Dywedodd Tal Blevins o International Games News (IGN)  bod y raffeg "yn gyfartalog ar y gorau", a bod y golygfeydd yn "anodd ei gwerthfawrogi". Dwedodd Jeff Gerstmann o GameSpot bod y "raffeg yn edrych ychydig yn blaen." Cafodd trac sain derbyn y gêm adborth cadarnhaol, gyda Jeff Gerstmann yn dweud bod y "sain yn wych".[17] Meddai Tal Blevins o IGN yn ei alw yn "un o nodweddion gorau" y gêm.

Cafodd elfennau chwarae'r gêm derbyniad cymysg hefyd. Dwedodd Jeremy Dunham o IGN gall yr arddull chware yn "wedi bod yn llawer gwell."[18] Dywedodd Tal Blevins ei fod yn "syml, ond effeithiol." Yn ôl Jeff Gerstmann  "er bod yr arddull chware, i raddau helaeth, yr un fath ag yn GTA y flwyddyn flaenorol, mae'n dal i fod yn llawer o hwyl." Roedd y cylchgrawn Edge yn tynnu sylw at y modd yr oedd stori'r gêm yn datblygu a'r tasgau dyfeisgar, gan nodi bod Grand Theft Auto 2 "yn llwyddo i dynnu chi yn ddwfn i mewn i gymhlethdodau'r byd".[10]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Steam (4 Ionawr 2008). "News – Rockstar Games Brings Full Line-up to Steam". Valve Corporation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Awst 2010. Cyrchwyd 5 Chwefror 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "GTA2 – Individual Police Files". Rockstar Games. Cyrchwyd 29 Ebrill 2007.
  3. "GTA2 – Frameset". Rockstar Games. Cyrchwyd 5 Chwefror 2011.
  4. 4.0 4.1 Blevins, Tal (18 Tachwedd 1999). "Grand Theft Auto 2 – IGN". IGN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Chwefror 2008. Cyrchwyd 29 Ebrill 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Grand Theft Auto 2 for PC". GameRankings. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mehefin 2012. Cyrchwyd 12 Awst 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Grand Theft Auto 2 for Dreamcast". GameRankings. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Awst 2012. Cyrchwyd 12 Awst 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. "Grand Theft Auto 2 for PlayStation". GameRankings. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Medi 2012. Cyrchwyd 12 Awst 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Grand Theft Auto 2 for Game Boy Color". GameRankings. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Awst 2012. Cyrchwyd 12 Awst 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. "Grand Theft Auto 2 for PlayStation Reviews". Metacritic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ebrill 2013. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. 10.0 10.1 "Grand Theft Auto 2". Edge. Rhif. 79. Future Publishing. tt. 80–81.
  11. "Grand Theft Auto 2 - GameSpot.com". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2013. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. "Grand Theft Auto 2 - GameSpot.com". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ionawr 2013. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  13. "Grand Theft Auto 2 - GameSpot.com". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ionawr 2013. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  14. "ELSPA Sales Awards: Silver". Entertainment and Leisure Software Publishers Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  15. Caoili, Eric (26 Tachwedd 2008). "ELSPA: Wii Fit, Mario Kart Reach Diamond Status In UK". Gamasutra. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  16. "ELSPA Sales Awards: Platinum". Entertainment and Leisure Software Publishers Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mai 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  17. Gerstmann, Jeff (22 Hydref 1999). "Grand Theft Auto 2 Review - GameSpot.com". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2013. Cyrchwyd 26 Awst 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  18. Dunham, Jeremy (8 Mai 2000). "Grand Theft Auto 2 Review – IGN". Cyrchwyd 26 Awst 2013.