Grand Theft Auto

Oddi ar Wicipedia
Grand Theft Auto
Logo'r gyfres ers 2001
Enghraifft o'r canlynolcyfres o gemau fideo Edit this on Wikidata
CrëwrDavid Jones, Dan Houser, Sam Houser Edit this on Wikidata
CyhoeddwrRockstar Games, Capcom Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Genregêm antur ac ymladd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.rockstargames.com/games?franchise=grand-theft-auto Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Grand Theft Auto (GTA) yn gyfres o gemau antur arwaith fideo a grëwyd gan David Jones a Mike Dailly[1] yn wreiddiol. Dyfeisiwyd teitlau ddiweddarach yn y gyfres gan y brodyr Dan a Sam Houser gyda Leslie Benzies ac Aaron Garbut. Datblygwyd y gyfres gan gwmni Rockstar North (DMA Design cynt), ac yn cael ei gyhoeddi gan eu chwaer gwmni Rockstar Games. Mae enw'r gyfres yn cyfeirio at y term a ddefnyddir yn yr Unol Daleithiau ar gyfer y trosedd o ladrata cerbydau modur. Mae'r rhan fwyaf o'r gemau yn y gyfres wedi eu gosod mewn lleoliadau ffuglennol, fel arfer, yn Liberty City, Vice City neu San Andreas, sydd wedi eu seilio ar Ddinas Efrog Newydd, Miami a thalaith California. Mae'r gêm gyntaf wedi ei leoli mewn tair dinas ffuglennol ond mae'r teitlau olynol yn tueddu defnyddio un lleoliad. Mae'r tasgau'r gemau yn llinynnol, lle fo cwblhau un dasg yn agor y nesaf. Mae'n bosib cael nifer o linynnau ar agor ar yr un pryd, gan fod rhai llinynnau'n gofyn i chwaraewyr aros am gyfarwyddiadau neu ddigwyddiadau pellach cyn symud ymlaen i'r dasg nesaf. Y tu allan i linynnau'r gêm, gall chwaraewyr crwydro'n rhydd trwy fyd y gêm. Wrth grwydro gall y chwaraewr cyflawni tasgau ochr, dewisol, sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm. Mae'r gyfres yn canolbwyntio ar lawer o wahanol gymeriadau sydd yn ceisio codi drwy rengoedd yr isfyd troseddol, er bod eu cymhellion i wneud hynny, yn amrywio ym mhob gêm. Mae gwrth arwyr y gemau fel arfer yn gymeriadau sydd wedi bradychu'r prif gymeriad neu ei sefydliad, neu gymeriadau sy'n cael yr effaith fwyaf i atal y prif gymeriad rhag symud ymlaen. Mae nifer o enwogion o'r byd actio a channu wedi lleisio cymeriadau, gan gynnwys Ray Liotta, Burt Reynolds, Dennis Hopper, Samuel L. Jackson, James Woods, Debbie Harry, Phil Collins, Axl Rose a Peter Fonda.[2] Cwmni datblygu gemau fideo o'r Alban DMA Design dechreuodd y gyfres ym 1997. Erbyn 2018 roedd gan y gyfres un ar ddeg gêm unigol a phedwar pecyn ehangu. Mae'r drydedd gêm gronolegol yn y gyfres, Grand Theft Auto III, yn cael ei ystyried yn deitl carreg filltir, gan ei fod yn dod â'r gyfres i leoliad 3D gan greu profiad chware llawer mwy realistig.  Mae'r gyfres wedi derbyn clod mawr ac wedi cael llwyddiant masnachol. Cyhoeddwyd mwy na 250 miliwn o unedau,[3] gan ei roi yn y bedwerydd safle o ran gwerthiant masnachfraint gêm fideo y tu ôl i gemau Mario a Pokémon cwmni Nintendo [4] a Tetris.[5]  Yn 2006, ymddangosodd Grand Theaft Auto mewn rhestr o eiconau dylunio Prydain yn y Great British Design Quest a drefnwyd gan y BBC a'r Amgueddfa Ddylunio. Yn 2013, rhoddodd Y Telegraph Grand Theaft Auto ymhlith allforion mwyaf llwyddiannus Prydain .[6] Fodd Bynnag, mae'r gyfres hefyd wedi bod yn ddadleuol am ei gynnwys a themâu oedolyn a'i natur dreisgar.

Teitlau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Datblygwr Ar gyfer blatform Bydysawd[7]
Consol Cyfrifiadur Teclyn cludadwy Symudol
1997 Grand Theft Auto DMA Design PS1 GBC 2D
1999 Grand Theft Auto: Llundain 1969 Rockstar Canada PS1
  • Windows
  • MS-DOS
Grand Theft Auto: Llundain 1961 Windows
Grand Theft Auto 2 DMA Design
Windows GBC
2001 Grand Theft Auto III
3D
2002 Grand Theft Auto: Vice City Rockstar North
  • PS2
  • Xbox
  • Windows
  • OS X
  • iOS
  • Android
  • Fire OS
2004 Grand Theft Auto: San Andreas
  • Windows
  • OS X
  • iOS
  • Android
  • WP
  • Fire OS
Grand Theft Auto Advance Digital Eclipse GBA
2005 Grand Theft Auto: Liberty City Stories Rockstar Leeds PS2 PSP
  • iOS
  • Android
  • Fire OS
2006 Grand Theft Auto: Vice City Stories PS2 PSP
2008 Grand Theft Auto IV Rockstar North
  • PS3
  • Xbox 360
Windows HD
2009 Grand Theft Auto: The Lost and Damned
  • PS3
  • Xbox 360
Windows
Grand Theft Auto: Chinatown Wars Rockstar Leeds
  • iOS
  • Android
  • Fire OS
Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony Rockstar North
  • PS3
  • Xbox 360
Windows
2013 Grand Theft Auto V
Windows
Nodiadau:
1. Yn wreiddiol, roedd ar gael ar PlayStation 3 fel rhan o linell PlayStation 2 Classics trwy'r Rhwydwaith PlayStation, ond yn ddiweddarach fe'i disodlwyd gyda rhyddhad HD pennodol ar gyfer y PlayStation 3.[8]
2. Yn wreiddiol, roedd ar gael ar Xbox 360 fel rhan o linell Xbox Originals trwy Xbox Live Marketplace, ond yn ddiweddarach fe'i disodlwyd gyda rhyddhad HD pennodol ar gyfer yr Xbox 360.[9]

Y Brif gyfres[golygu | golygu cod]

Amserlen rhyddhau
Blwyddyn Teitl
1997 Grand Theft Auto
1999 Grand Theft Auto: Llundain 1969
1999 Grand Theft Auto: Llundain 1961
1999 Grand Theft Auto 2
2001 Grand Theft Auto III
2002 Grand Theft Auto: Vice City
2004 Grand Theft Auto: San Andreas
2004 Grand Theft Auto: Advance
2005 Grand Theft Auto: Liberty City Stories
2006 Grand Theft Auto: Vice City Stories
2008 Grand Theft Auto IV
2009 Grand Theft Auto: The Lost and Damned
2009 Grand Theft Auto: Chinatown Wars
2009 Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony
2013 Grand Theft Auto V

Mae cyfres Grand Theft Auto yn cael ei rannu i'r hyn a elwir yn fydysawdau, wedi eu henwi ar ôl y safon y graffig a defnyddir i'w dylunio. Mae'r gêm wreiddiol Grand Theft Auto ei estyniadau a'i olynydd yn perthyn i'r bydysawd 2d. Mae Grand Theft Auto III a'i olynwyr yn perthyn i'r Bydysawd 3D. Mae Grand Theft Auto IV, ei estyniadau a Grand Theft Auto V yn perthyn i'r bydysawd HD. Mae pob bydysawd yn cael ei hystyried fel cyfres ar wahân gyda dim ond brandiau, enwau lleoedd a chymeriadau cefndir yn cael eu rhannu rhyngddynt[7]. Rhyddhawyd Grand Theft Auto, y gêm gyntaf yn y gyfres, ar gyfer Microsoft Windows ac MS-DOS ym mis Hydref 1997. Addaswyd y gêm ar gyfer y PlayStation ym 1998 a Game Boy Color ym 1999. Cafodd Grand Theft Auto 2 ei ryddhau ym 1999 ar gyfer Microsoft Windows a'i addasu yn ddiweddarach ar gyfer y PlayStation, Dreamcast a Game Boy Color.[10] Ymddangosodd tair rhan o'r brif gyfres ar PlayStation 2 hefyd cyn cael eu hail-ryddhau ar lwyfanau eraill. Cafwyd cytundeb rhwng cwmni Take-Two Interactive a chwmni Sony i ryddhau'r gemau ar gyfer PlayStation 2 am gyfnod cyn eu rhyddhau i Microsoft Windows a'r Xbox.[11] Yn 2001 cyhoeddiwyd Grand Theft Auto III gan symud at y defnydd o raffeg gyfrifiadurol tri-dimensiwn (3D)[12] Cyhoeddwyd GTA Vice City yn 2002, yr un gyntaf yn y gyfres i gael arwr a oedd yn llefaru; gan ddefnyddio llais yr actor Ray Liotta ar ei gyfer.[13] Cyflwynodd GTA San Andreas, a ryddhawyd yn 2004, wahanol elfennau newydd, gan gynnwys addasu cymeriad a map mawr yn cwmpasu tair dinas a'r ardal wledig gyfagos.[14] Cyhoeddwyd dau brif ran o'r gyfres ar gyfer PlayStation 3 a Xbox 360 ar yr un pryd. Canolbwyntiodd teitl 2008, Grand Theft Auto IV ar realiti a manylder, gan ddileu nodweddion nodweddu amrywiol, ond yn ychwanegu'r gallu i chware gydag eraill ar-lein.[15] Roedd Grand Theft Auto V, a gyhoeddwyd yn 2013, yn cynnwys tri chymeriad chwaraeadwy yn lle'r un arferol.[16] Fe'i rhyddhawyd i lwyddiant ariannol enfawr, gan dorri recordiau lluosog.[17] Fe'i hail-ryddhawyd gyda nifer o welliannau yn 2014 ar gyfer PlayStation 4 a Xbox One, ac yn 2015 ar gyfer Microsoft Windows.[18]

Gemau eraill[golygu | golygu cod]

Mae Grand Theft Auto wedi cynhyrchu nifer o gemau ychwanegol a phecynnau ehangu yn ogystal â gemau'r brif gyfres. Yn 1999, cafodd y gêm wreiddiol ddau becyn ehangu: Grand Theft Auto: London 1969 a Grand Theft Auto: London 1961.[10] Roedd Grand Theft Auto Advance, a ryddhawyd yn 2004 ar gyfer Game Boy Advance, yn cael ei chware a phersbectif pen i lawr. Rhyddhawyd tair gêm ar gyfer PlayStation Portable. Mae'r gêm Grand Theft Auto: Stories of Liberty City yn adrodd stori ragflaenol i Grand Theft Auto III, tra bod gêm 2006 Grand Theft Auto: Stories of Vice City yn rhagflaenol i Vice City; cafodd y ddwy gêm eu haddasu yn ddiweddarach i'r PlayStation 2. Yn 2009, cafodd Grand Theft Auto: Chinatown Wars ei ryddhau ar gyfer y Nintendo DS, ac wedyn yn cael ei addasu i'r PlayStation Portable.[19] Yn 2009, rhyddhawyd The Lost and Damned a The Ballad of Gay Tony ar gyfer y Xbox 360 fel pecynnau ehangu i Grand Theft Auto IV; cynhyrchodd "cytundeb strategol" rhwng Rockstar a Microsoft gwaharddiad amserol cyn eu rhyddhau i blatfformau eraill. Fe'u rhyddhawyd yn ddiweddarach ar Xbox 360, PlayStation 3 a Microsoft Windows fel rhan o gasgliad, o'r enw Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City.[20] Mae nifer o deitlau yn y gyfres wedi eu haddasu ar gyfer eu chware ar declynau symudol megis tabled neu ffôn. Rhyddhawyd Chinatown Wars ar gyfer iOS yn 2010 ac ar gyfer Android a Fire OS yn 2014.[21] Ar gyfer eu degfed pen-blwydd, cafodd Grand Theft Auto III ac Vice City eu hail-gyhoeddi ar gyfer iOS ac Android yn 2011 a 2012.[22][23] Yn 2013, cafodd San Andreas ei gludo i iOS, Android, Windows Phone ac RT;[24] ail-ryddhawyd y gemau symudol ar gyfer Xbox 360 yn 2014, blwyddyn degfed pen-blwydd y gêm,[25] a'r flwyddyn ganlynol ar gyfer PlayStation 3. [28] Yn 2015, cafodd Liberty City Stories ei addasu ar gyfer OS, Android a Fire OS.[26][27][28]

Cyfryngau cysylltiedig[golygu | golygu cod]

Mae cyfres GTA wedi cael ei hehangu i mewn i wahanol fformatau eraill. Cyhoeddwyd Jacked: The Outlaw Story of Grand Theft Auto llyfr a ysgrifennwyd gan David Kushner sy'n croniclo datblygiad y gyfres, yn 2012.[29] Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd BBC Two eu bod am ddarlledu The Gamechangers, dociwddrama 90 munud yn seiliedig ar greu Grand Theft Auto[30]. Cafodd y rhaglen ei gyfarwyddo gan Owen Harris a'i hysgrifennu gan James Wood. Roedd yn serenu Daniel Radcliffe fel pennaeth Rockstar, Sam Houser a Bill Paxton fel Jack Thompson y twrnai cafodd ei wahardd wedi sawl cais i erlyn cwmniau gan honni bod gemau GTA wedi achosi i bobl llofruddio o ganlyniad i chware'r gemau.[31] Ym mis Mai 2015, cyflwynodd Rockstar achos cyfraith yn erbyn y BBC am dorri eu nod masnach, gan ddweud nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad â datblygiad y ffilm a'u bod wedi ceisio cysylltu â'r BBC i ddatrys y mater yn aflwyddiannus.[32] Darlledwyd y rhaglen am y tro cyntaf ar 15 Medi 2015.[33] Yn 2006, cyhoeddodd cwmni McFarland & Company y llyfr The Meaning and Culture of Grand Theft Auto.[34] Wedi'i lunio gan Nate Garrelts, mae'r llyfr 264 tudalen yn gasgliad o draethodau ynglŷn â chyfres Grand Theft Auto, i gynorthwyo cynulleidfaoedd i ddeall y gemau yn well ac i wneud pwynt ynglŷn â diwydrwydd dyladwy beirniadaeth gêm. Rhennir y llyfr yn ddwy ran: mae'r rhan gyntaf yn trafod y dadleuon sy'n ymwneud â'r gyfres, tra bod yr ail hanner yn edrych yn ddamcaniaethol ar y gemau.[35]

Derbyniad[golygu | golygu cod]

Ers rhyddhau Grand Theft Auto III yn 2001, mae cyfres Grand Theft Auto wedi bod yn llwyddiant mawr, yn feirniadol ac yn ariannol. Mae wedi cynhyrchu adolygiadau a sgoriau perffaith neu bron yn berffaith ar bron pob un o'r gemau. Erbyn mis Medi 2013 roedd y gyfres wedi gwerthu dros 150 miliwn o gopïau ledled y byd,[36] ac erbyn Awst 2015, cafodd Grand Theft Auto gwerthiant o dros 220 miliwn o unedau ledled y byd.[4] Adroddodd The Times Online fod Grand Theft Auto IV wedi gwerthu 609,000 o gopiau yn y DU ar ddiwrnod cyntaf ei'i ryddhau.[37] Yn ystod ei wythnos gyntaf, gwerthodd Grand Theft Auto IV oddeutu 6 miliwn o gopïau ledled y byd gan enill dros $500 miliwn.[38] Yn 2006, dyfarnwyd Grand Theft Auto yn un o ddyluniadau mwyaf Prydain yn y Great Design Design Quest a drefnwyd gan y BBC a'r Amgueddfa Ddylunio. Ymddangosodd y gêm mewn rhestr o eiconau dylunio Prydain a oedd yn cynnwys Concorde, Jaguar E-Type, Aston Martin DB5, Mini, y we Fyd-Eang, Tomb Raider, y blwch ffôn K2, Map Tiwb Llundain, bws Routemaster a'r Supermarine Spitfire[39][40] Mae'r gyfres wedi torri nifer o recordiau; dyfarnodd Guinness World Records 10 record y byd i'r gyfres yn 2008. Mae'r recordiau yn cynnwys y nifer fwyaf o Sêr Gwesteiol mewn Cyfres Gêm Fideo, Y Nifer Fwyaf o Artistiaid Llais mewn Gêm Fideo (Grand Theft Auto: San Andreas), Y Trac Sain Fwyaf Mewn Gêm Fideo (Grand Theft Auto: San Andreas) yn ogystal â'r Lansiad Adloniant mwyaf Llwyddiannus Holl Amser (Grand Theft Auto V). Bu Guinness World Records hefyd yn rancio Grand Theft Auto yn y drydydd safle ar eu rhestr o'r 50 gêm consol erioed yn seiliedig ar ei effaith gychwynnol a'i etifeddiaeth barhaol.[41] Rhestrir Grand Theft Auto: San Andreas fel y gêm fwyaf llwyddiannus ar PlayStation 2.

Gwerthiant[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Gêm Gwerthiant Anrhydeddau
1997 Grand Theft Auto 1 miliwn+ PS1 Greatest Hits, Platinum
1999 Grand Theft Auto: London 1969
Grand Theft Auto: London 1961
Grand Theft Auto 2 PS1 Greatest Hits
2001 Grand Theft Auto III 17.5 miliwn PS2 Greatest Hits, Platinum
2002 Grand Theft Auto: Vice City 20 miliwn PS2 Greatest Hits, Platinum
2004 Grand Theft Auto: San Andreas 27.5 miliwn
  • PS2 Greatest Hits, Platinum
  • Xbox Platinum Hits
  • PS3 Greatest Hits
  • Xbox 360 Platinum Hits
Grand Theft Auto Advance 100,000
2005 Grand Theft Auto: Liberty City Stories 8 miliwn
  • PSP Greatest Hits, Platinum
  • PS2 Platinum
2006 Grand Theft Auto: Vice City Stories 4.5 miliwn
  • PSP Greatest Hits, Platinum
  • PS2 Platinum
2008 Grand Theft Auto IV 25 miliwn+
  • PS3 Greatest Hits, Platinum
  • Xbox 360 Platinum Hits
2009 Grand Theft Auto IV: The Lost and Damned 1 miliwn+
Grand Theft Auto: Chinatown Wars 200,000 PSP Greatest Hits
Grand Theft Auto: The Ballad of Gay Tony
Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City 160,000+
  • PS3 Greatest Hits
  • Xbox 360 Platinum Hits
2013 Grand Theft Auto V 90 miliwn
Cyfanswm gwerthiant y gyfres: 235 miliwn+

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "GTA: "Max Clifford made it all happen"". GamesIndustry.biz. 22 Hydref 2012. Cyrchwyd 22 June 2013.
  2. Orland, Kyle (14 Medi 2011). "Grand Theft Auto IV Passes 22M Shipped, Franchise Above 114M". Gamasutra. Cyrchwyd 21 Medi 2011.
  3. Cragg, Oliver (3 Tachwedd 2016). "Grand Theft Auto life-time sales hit 250 million, GTA 5 and GTA Online ships 70 million units". International Business Times UK. Cyrchwyd 9 Chwefror 2017.
  4. 4.0 4.1 Haywald, Justin (21 August 2015). "Grand Theft Auto Series Passes 220 Million Sales Worldwide". GameSpot. CBS Interactive. Cyrchwyd 26 August 2015.
  5. Takahashi, Dean (7 Ebrill 2014). "'Mr. Tetris' explains why the puzzle game is still popular after three decades (interview)". VentureBeat. Cyrchwyd 12 May 2016.
  6. "GTA 5: a Great British export". The Telegraph. 17 Medi 2015.
  7. 7.0 7.1 Rockstar. "Grand Theft Auto III: Your Questions Answered – Part One (Claude, Darkel & Other Characters)". Rockstar: The “universes” are the worlds interpreted at different definitions, 2D, 3D and high definition, so we felt brands and radio / back ground characters would exist in both, but 3 dimensional characters would not.
  8. Harradence, Michael (16 Tachwedd 2015). "GTA San Andreas for PS3 gets rated for upcoming re-release". PlayStation Universe. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2015.
  9. Makuch, Eddie (23 Hydref 2014). "GTA: San Andreas Re-Release Coming to Xbox 360 [UPDATE]". GameSpot. CBS Interactive. Cyrchwyd 25 Hydref 2014.
  10. 10.0 10.1 Usher, William (14 Mawrth 2015). "Grand Theft Auto Drama Heading to BBC Television". Cinema Blend. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  11. Walker, Trey (21 May 2002). "E3 2002: Sony gets Grand Theft Auto exclusive". GameSpot. CBS Interactive. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  12. Moses, Travis (23 Ionawr 2008). "Preview : Grand Theft Auto IV". Gamepro.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  13. McLaughlin, Rus; Thomas, Lucas M. (6 May 2013). "IGN Presents The History of Grand Theft Auto". IGN. Ziff Davis. t. 3. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  14. McLaughlin, Rus; Thomas, Lucas M. (6 May 2013). "IGN Presents The History of Grand Theft Auto". IGN. Ziff Davis. t. 4. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  15. McWhertor, Michael (2 August 2007). "Take-Two Execs Explain Grand Theft Auto IV Delay". Kotaku. Gawker Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-17. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  16. R* Q (16 Medi 2013). "Grand Theft Auto V Reviews". Rockstar Games. Cyrchwyd 25 Medi 2013.
  17. Karmali, Luke (9 Hydref 2013). "GTA 5 Currently Holds Seven Guinness World Records". IGN. Cyrchwyd 10 Hydref 2013.
  18. R* Q (12 Medi 2014). "Grand Theft Auto V Release Dates and Exclusive Content Details for PlayStation 4, Xbox One and PC". Rockstar Newswire. Rockstar Games. Cyrchwyd 12 Medi 2014.
  19. Robert Purchese (22 June 2009). "Grand Theft Auto: Chinatown Wars for PSP". Eurogamer.net. Cyrchwyd 21 July 2009.
  20. Ashcraft, Brian (29 Ionawr 2010). "Grand Theft Auto: Episodes from Liberty City Announced for PS3 and PC". Kotaku. Gawker Media. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  21. R* Q (18 Rhagwedd 2014). "Grand Theft Auto: Chinatown Wars Updated for iOS and Now Available for Android and Amazon Devices". Rockstar Newswire. Rockstar Games. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015. Check date values in: |date= (help)
  22. Q, R*. "Announcing Grand Theft Auto III: 10th Anniversary Edition for Select Mobile Devices & the Limited Edition Claude Action Figure".
  23. "Grand Theft Auto: Vice City 10th Anniversary Edition Coming to iOS and Android Devices on Rhagwedd 6th". Rockstar Games. 21 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 30 Ebrill 2013.
  24. Johnson, Leif (18 Rhagwedd 2013). "Grand Theft Auto: San Andreas iOS Review". IGN. Cyrchwyd 3 Mawrth 2014. Check date values in: |date= (help)
  25. Makuch, Eddie (23 Hydref 2014). "GTA: San Andreas Re-Release Coming to Xbox 360 [UPDATE]". GameSpot. CBS Interactive. Cyrchwyd 26 Hydref 2014.
  26. Harradence, Michael (16 Tachwedd 2015). "GTA San Andreas for PS3 gets rated for upcoming re-release". PlayStation Universe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  27. Vas, Gergo (17 Rhagwedd 2015). "Kotaku". Kotaku. Cyrchwyd 18 Rhagwedd 2015. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)
  28. Fingas, Roger (17 Rhagwedd 2015). "GTA: Liberty City Stories comes to iOS, Pixelmator adds Apple Pencil tilt to more brushes". Apple community. Cyrchwyd 18 Rhagwedd 2015. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)
  29. GameSpot Staff (1 Mawrth 2012). "By the Book: Jacked: The Outlaw Story of Grand Theft Auto". GameSpot. CBS Interactive. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  30. Makuch, Eddie (12 Mawrth 2015). "Grand Theft Auto TV Drama Announced". GameSpot. CBS Interactive. Cyrchwyd 14 Mawrth 2015.
  31. Makuch, Eddie (22 Ebrill 2015). "GTA Drama Casts Daniel Radcliffe and Bill Paxton". GameSpot. CBS Interactive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Ebrill 2015. Cyrchwyd 23 Ebrill 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  32. Krupa, Daniel (21 Mai 2015). "Rockstar Games Files Lawsuit Against the BBC". IGN. Ziff Davis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mai 2015. Cyrchwyd 23 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  33. Rymer, Barbara. "The Gamechangers". BBC. Cyrchwyd 5 Medi 2015.
  34. Dredge, Stuart. "Top 10 things you never knew about Grand Theft Auto (because you're not brainy enough)". TechDigest. Cyrchwyd 17 June 2015.
  35. Quijano-Cruz, Johansen. "Using Literary Theory to Read Games: Power, Ideology, and Repression in Atlus' Growlanser: Heritage of War". Eludamos. Journal for Computer Game Culture. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 17 June 2015.
  36. Stephen McGinty (20 Medi 2013). "Grand Theft Auto V: Scottish game conquering world". scotsman.com. Cyrchwyd 13 Hydref 2013.
  37. Sabbagh, Dan. "Grand Theft Auto IV records 609,000 first-day sales", The Times, 1 May 2008
  38. Franklin Paul (7 May 2008). "Take-Two's Grand Theft Auto 4 sales top $500 million". Reuters. Cyrchwyd 8 May 2008.
  39. "Long list unveiled for national vote on public's favourite example of Great British Design". BBC. 18 Tachwedd 2016.[dolen marw]
  40. "Concorde voted the UK's top icon". BBC. 18 Tachwedd 2016.
  41. Ivan, Tom (28 Chwefror 2009). "Guinness ranks top 50 games of all time". Computer and Video Games. Cyrchwyd 14 Mawrth 2009. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)