King Courtney

Oddi ar Wicipedia
King Courtney
King Courtney GTA Advance
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Jamaica Edit this on Wikidata
Galwedigaethgangster Edit this on Wikidata

Mae King Courtney yn gymeriad yn y gyfres Grand Theft Auto sy'n ymddangos fel prif gymeriad llais yn unig ac yn fân wrthwynebydd yn Grand Theft Auto III a phrif gymeriad a'r ail wrthwynebydd yn Grand Theft Auto Advance[1]. Yn Advance gwelir delweddau o'r cymeriad. King Courtney yw arweinydd y gang y Jamaican Uptown Yardies

Mae cymeriad King Courtney yn cael ei leisio gan Walter Mudu[2] yn Grand Theft Auto III.

King Courtney yn GTA Advance[golygu | golygu cod]

Yn GTA Advance, mae Courtney yn ymddangos fel pedwerydd pennaeth Mike, y prif gymeriad[3]. Wedi bod yn rhan o ryfel tiriogaeth gyda Chartel y Colombiaid, mae Courtney yn ymwneud â rasio anghyfreithlon o amgylch Ynys Staunton. Mae'n dod ar draws Mike am y tro cyntaf yn fuan wedi marwolaeth ffrind Mike, Jonnie. Mae Mike yn amau iddo fod yn gyfrifol am farwolaeth Jonnie ac mae'n ei herio gyda gwn. Mae King Courtney yn gwadu'r cyhuddiadau ac yn honni ei fod ef hefyd eisiau dod o hyd i'r llofrudd oherwydd bod gan Jonnie ddyled ariannol i'r Yardies. Yn gyfnewid am ei wasanaethau, mae Courtney yn cytuno i ddod o hyd i lofrudd Vinnie, ffrind arall i Mike. Er gwaethaf y gwaith mae Mike yn ei wneud ar gyfer yr Yardies, nid yw Mike yn nes at ddod o hyd i'r sawl lladdodd Vinnie. Mae Mike yn dechrau colli ei amynedd ac yn herio Courtney eto. Mae Courtney yn dweud wrth Mike mae Cisco, arweinydd Cartel y Colombiaid oedd yn gyfrifol. Mae Mike yn ymladd gyda Cisco, ond yn dysgu bod Courtney wedi bod yn rhaffu celwydd iddo. Wedyn mae Mike yn gweithio i'r Cartel a'r gang Siapaneaidd y Yakuza, dau gang gelyniaethus i'r Yardies.

Mae Mike yn dysgu bod Vinnie dal ar dir y byw a'i bod wedi ffugio ei farwolaeth er mwyn dwyn cyfran o arian oedd yn eiddo i Mike. Mae Mike yn ei ladd ac yn dwyn yr arian yn ôl. Ychydig ar ôl clywed am farwolaeth go iawn Vinnie a bodolaeth yr arian mae Courtney yn cyflogi llofruddion proffesiynol i'w lladd. Mae Mike yn cael gwybod am y bygythiad yn ei erbyn gan olynydd Cisco wedi i'w gyfaill, 8-Ball, cael ei arestio. Mae'n gofyn am gymorth Asuka Kasen i ymosod ar warws y Yardies. Mae Mike yn cwrdd ag aelodau o gang y Yakuza yna ond maent yn rhedeg i ffwrdd wrth i'r ymosodiad cychwyn gan adael Mike i ymladd Courtney ar Yardies ar ei ben ei hun. Wedi brwydr ffyrnig mae Mike yn dod yn agos at ladd Courtney. Mae Courtney yn erfyn am ei fywyd. Cyn i Mike cael cyfle i'w ladd mae cyrch gan yr heddlu yn cychwyn ac mae Courtney yn dianc. Mae Mike yn ffoi i'r maes awyr gyda'r heddlu ar ei ôl ac yn dianc o Liberty City mewn awyren[4].

King Courtney yn GTA III[golygu | golygu cod]

Yn GTA III, mae Courtney yn parhau i fod yn arweinydd yr Yardies. Mae'n rhoi tasgau i Claude, prif gymeriad y gêm o flwch ffôn ger y brifysgol ar Ynys Staunton[3]. Mae prif ffocws y tasgau yn ymwneud yn bennaf a dwyn ceir gan gangiau gelyniaethus[5]. Yn y dasg olaf gan Courtney mae Claude yn cael ei arwain i drap lle mae Catalina, arweinydd y Colombiaid, wedi danfon hunan fomwyr dan ddylanwad cyffuriau i'w lladd. Mae brad Courtney yn arwain at elyniaeth rhwng Claude a'r Yardies.

Rhestr tasgau[golygu | golygu cod]

GTA III[golygu | golygu cod]

  • Bling-bling Scramble
  • Uzi Rider
  • Gangcar Round-up
  • Kingdom Come

GTA Advance[golygu | golygu cod]

  • Race to Run
  • Latin Coffee
  • The Big Score
  • Fine Dining
  • Assault Joint

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "King Courtney". GTA Fandom. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2018.
  2. "Walter Mudu ar IMDb". IMDb. Cyrchwyd 19 gorffennaf 2018. Check date values in: |access-date= (help)
  3. 3.0 3.1 "King Courtney". GTA Wiki. Cyrchwyd 19 Rhagfyr 2018.
  4. "Grand Theft Auto: Advance - Final Mission + Ending". YouTube. 18 Ebrill 2012. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2018.
  5. "Staunton Island - King Courtney". IGN. 2, Chwefror, 2014. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2018. Check date values in: |date= (help)