Dreamcast

Oddi ar Wicipedia
Dreamcast
Delwedd:Dreamcast logo.svg, Dreamcast logo PAL.svg, Dreamcast logo Japan.svg
Enghraifft o'r canlynolmodel dyfais electronig Edit this on Wikidata
Mathconsol gemau fideo cartref Edit this on Wikidata
Rhan osixth generation of video game consoles Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi27 Tachwedd 1998 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganSega Saturn Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSega Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Consol gemau ydy'r Dreamcast (Japaneg: ドリームキャスト Hepburn: Dorīmukyasuto). Fe'i ryddhawyd gan Sega ar 27 Tachwedd 1998 yn Japan, 9 Medi 1999 yng Ngogledd America, a 14 Hydref, 1999 yn Ewrop. Y Dremcast oedd y consol gemau cyntaf o'r chweched cenhedlaeth o gonsolau, rhyddhawyd cyn y PlayStation 2, GameCube ac Xbox. Hwn oedd y consol olaf gan Sega, ar ôl 18 mlynedd yn y farchnad consol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn hytrach na defnyddio'r caledwedd drud o'r Sega Saturn a oedd yn aflwyddiannus, penderfynodd Sega i greu'r Dreamcast gyda chydrannau "eisoes ar gael" er mwyn lleihau'r costau, yn cynnwys Hitachi SH-4 CPU a NEC PowerVR2 GPU. Er gwaethaf yr ymateb llugoer o'r Dreamcast yn Siapan, roedd y lansiad yn America yn lwyddiannus iawn, gydag ymgyrch farchnata fawr. Fodd bynnag, dechreuodd diddordeb yn y system newydd dirywio oherwydd y PlayStation 2. Hyd yn oed ar ôl torri'r gost o'r consol sawl gwaith, methodd y Dreamcast i fodloni disgwyliadau, ac roedd y cwmni yn parhau i golli arian. Ar ôl newid mewn arweinyddiaeth, penderfynodd Sega i roi'r gorau i'r Dreamcast ar 31 Mawrth, 2001, yn gadael y busnes consol am byth ac ailstrwythuro ei hun. Erbyn hyn, mae Sega yn cyhoeddi gemau yn unig. Gwerthwyd 10.6 miliwn unedau Dreamcast ledled y byd.

Er gwaethaf ei amser byr ar y farchnad, a diffyg cefnogaeth trydydd parti, mae llawer o adolygwyr wedi dweud bod y Dreamcast "o flaen ei amser". Mae ganddi lawer o gemau greadigol ac yn arloesol, yn cynnwys Crazy Taxi, Jet Set Radio and Shenmue, yn ogystal â llawer o gemau arcêd. Y Dreamcast oedd y consol cyntaf i gynnwys modem i chwarae gemau arlein a mynd ar y rhyngrwyd.

Gemau gyda'r gwerthiant orau[golygu | golygu cod]

Teitl Copïau a werthir
Sonic Adventure 2.5 miliwn[1]
Soulcalibur 1.3 miliwn[2]
Crazy Taxi 1.225 miliwn (tua 1.11 miliwn yn yr UD,[3] 115,039 yn Siapan
Shenmue 1.2 miliwn[4]
Resident Evil Code: Veronica 1.14 miliwn
NFL 2K 1.13 miliwn yn yr UD[3]
NFL 2K1 1.01 miliwn yn yr UD[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Daniel Boutros (2006-08-04). "Sonic Adventure". A Detailed Cross-Examination of Yesterday and Today's Best-Selling Platform Games. Gamasutra. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-28. Cyrchwyd 2006-12-08.
  2. (Saesneg) "Soul Calibur II". Namco Cybertainment, Namco America. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-03-27. Cyrchwyd 2009-07-16.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) "US Platinum Videogame Chart". The Magic Box. 2007-12-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-09. Cyrchwyd 2008-08-03.
  4. (Saesneg) "Microsoft Announces Leading Sega Games for Xbox". Microsoft. 2001-10-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-19. Cyrchwyd 2007-12-12.