Consol gemau

Oddi ar Wicipedia
Consol gemau
Mathelectronic toy, video game platform, console, nwyddau a weithgynhyrchwyd Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1972 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dyfais electronig sy’n cynhyrchu signal fideo i ddangos gêm gyfrifiadurol ydy consol gemau. Defnyddir y term "consol gemau" i ddisgrifio peiriant sy'n cael ei ddefnyddio i chwarae gemau cyfrifiadurol. Dros y blynyddoedd, mae consolau gemau wedi datblygu i weithio fel chwaraewyr CD, chwaraewyr DVD, porwyr gwe, tiwnwyr teledu a mwy.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cenhedlaeth gyntaf[golygu | golygu cod]

Y consol gemau cyntaf oedd y Magnavox Odyssey, rhyddhawyd ym 1972.

Roedd gemau gyfrifiadurol yn y 1950au.[1] Fodd bynnag, roedden nhw ar gyfrifiaduron enfawr, a fe'u cysylltwyd ag arddangosiadau fector yn hytrach na setiau teledu analog. Y person cyntaf i greu gêm fideo y gallwch chwarae yn y cartref oedd Ralph H. Baer. Ar ddiwedd y 1960au tra'r oedd e'n gweithio ar gyfer y cwmni 'Sanders Associates', creodd e nifer o ddyluniadau o gonsolau gemau. Dangosodd Baer un o'i ddyluniadau, y "Brown Box" i nifer o gynhyrchwyr teledu ym 1966. Arweinodd hyn at gytundeb rhwng Sanders Associates a Magnavox, cwmni electroneg yn yr UD.[2] Rhyddhaodd Magnavox y Magnavox Odyssey ym 1972, y consol gemau cyntaf y gallech cysylltu â theledu. Gwerthwyd 100,000 unedau o'r Odyssey,[3] felly roedd e'n yn eithaf llwyddiannus. Nid tan yn ddiweddarach, pan greodd Atari y gêm arcêd Pong yr oedd y cyhoedd yn dechrau rhoi sylw i'r diwydiant consolau gemau. Yn y blynyddoedd dilynol, dechreuodd llawer o gwmnïau eraill i greu consolau tebyg. Yn y cyfnod hwn, roedd y mwyafrif o'r consolau yn gallu chwarae un gêm yn unig, fel Pong.

Ail genhedlaeth[golygu | golygu cod]

Consolau yn y cartref[golygu | golygu cod]

Daeth yr Atari 2600 poblogaidd iawn yn ystod yr ail genhedlaeth.

Rhyddhaodd Fairchild y Fairchild Video Entertainment System (VES) ym 1976. Yn wahanol i gonsolau eraill, roedd y VES yn cynnwys microbrosesydd a chetrisen. Cyn bo hir, rhyddhaodd RCA ac Atari consolau gyda chetrisen; y RCA Studio II ac Atari 2600 (neu'r Atari Video Computer System yn wreiddiol).

Consolau gemau symudol[golygu | golygu cod]

Y consol gemau symudol cyntaf gyda chetrisen oedd y Microvision gan Smith Engineering. Fodd bynnag, roedd e'n aflwyddiannus oherwydd ei arddangosiad LCD bregus a chasgliad bach o gemau, felly cafodd y Microvision ei dynnu'n ôl o'r farchnad ar ôl dwy flynedd. Rhyddhawyd yr Epoch Game Pocket Computer yn Siapan ym 1984. Roedd ganddo sgrïn LCD bach a graffeg tebyg i'r Atari 2600. Roedd y consol yn methiant oherwydd roedd pum gêm ar gael ar ei gyfer yn unig. Roedd y consolau Game & Watch o Nintendo yn fwy llwyddiannus.

Cwymp consol gemau o 1977[golygu | golygu cod]

Ym 1977, dechreuodd cynhyrchwyr o gonsolau hen a systemau Pong i werthu eu systemau i glirio stoc. Oherwydd hyn, roedd y farchnad yn gorlifo â systemau rhad. Penderfynodd RCA ac yn ddiweddar, Fairchild, i roi'r gorau i'w consolau. Arosodd Atari a Magnavox yn y farchnad, er gwaethaf colli arian ym 1977 a 1978.[4]

Cwymp consol gemau o 1983[golygu | golygu cod]

Ym 1983, dioddefodd y consol gemau busnes cwymp trychinebus. Oherwydd llifogydd o gemau gyfrifiadurol o ansawdd isel (yn enwedig ar gyfer y 2600) fel E.T. a Pac-man. Diolch i gyfrifiaduron yn y cartref a oedd yn gallu chwarae gemau, doedd dim angen i brynu consolau gemau rhagor. Aeth y mwyafrif o cwmnïau gem yn fethdalwr neu symud symud i ddiwydiannau eraill, yn rhoi'r gorau i'w consolau gemau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The First Video Game". Brookhaven National Laboratory, U.S. Dept. of Energy. Cyrchwyd 2008-04-15.
  2. Baer, Ralph H. (2005). Videogames: In The Beginning. Rolenta Press. tt. 52–59. ISBN 0-9643848-1-7.
  3. "How Video Games Invaded the Home TV Set". Ralph H. Baer Consultants. Cyrchwyd 2014-10-15.
  4. "Gaming History 101". April 29, 2013. Cyrchwyd Tachwedd 21, 2014.