Asuka Kasen

Oddi ar Wicipedia
Asuka Kasen
Asuka Kasen yn GTA III
DinasyddiaethBaner UDA UDA

Mae Asuka Kasen (Siapaneaidd: 加 瀬 明日香, Kase Asuka) yn gymeriad yn y gyfres gemau fideo Grand Theft Auto[1]. Mae hi'n ymddangos fel un o'r prif gymeriadau yn Grand Theft Auto III (a osodwyd yn 2001) a ''Grand Theft Auto Advance'' (a osodwyd yn 2000). Hi yw'r shateigashira (cyd-arweinydd) y Yakuza (gang tebyg i'r Maffia o Siapan [2]) yn y ddwy gêm. Ar ôl marwolaeth ei brawd, yn GTA III, daw'n brif arweinydd y Yakuza. Mae teulu Asuka, sy'n cael eu crybwyll yn y gemau'n cynnwys ei brodyr Kazuki a Kenji a'i nith Yuka[3].

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed Asuka Kasen yn Siapan a symudodd i'r Unol Daleithiau ym 1991 i ymuno â'i frawd hŷn Kazuki i gyd reoli'r Yakuza. Yn ddiweddarach mae'n dychwelyd i Siapan cyn dychwelyd i'r Unol Daleithiau gyda'i brawd iau Kenji ym 1998 i ail afael a'r arweinyddiaeth y Yakuza yn dilyn llofruddiaeth Kazuki gan Toni Cipriani ar ran syndicâd Maffia Teulu Leone.[4] Ar ôl dod yn gyd-arweinydd, symudodd i Liberty City a phrynodd condo yn ardal Newport, Staunton Island. O dan ei harweiniad hi a Kenji, dechreuodd y Yakuza golli tir yn y ddinas. Yn ddiweddarach sefydlodd gadwyn o fwytai sushi ledled y ddinas.

Asuka yn GTA: Advance[golygu | golygu cod]

Yn 2000 mae ei nith, Yuka yn ymuno â hi yn Liberty City. Mae Yuka yn cael ei herwgipio gan Mike ar orchmynion Cisco, arweinydd Cartel y Colombiaid. Mae Asuka, yn anymwybodol o rôl Mike yn herwgipio Yuka, ac yn cysylltu ag ef i geisio ei hachub hi. Mae Mike yn llwyddo i'w hachub ac mae'n ennill ymddiriedolaeth Asuka. Ym mysg tasgau Mike i Asuka yw casglu arian gan berchennog casino, anafu chwaraewr pêl-droed tîm Vice City Mambas, lladd Biff Rock (er bod Mike yn arbed ei fywyd, gan argyhoeddi Asuka ei fod wedi ei ladd), herwgipio gyrrwr lori sy'n danfon pysgod pydredig i'w bwytai sushi, herwgipio nifer o aelodau'r Maffia a lladd pimp. Yn ddiweddarach, mae Asuka yn gwerthu'r aelodau Maffia i bobl yn Asia fel caethweision.

Mae Asuka hefyd wedi bod yn ymchwilio i bwy oedd yn gyfrifol am farwolaeth Vinnie, ffrind gorau Mike, ac yn rhoi i Mike leoliad yr arbenigwr ffrwydron a oedd yn gyfrifol. Mae Mike yn canfod bod yr arbenigwr eisoes wedi ei ladd. Yn ddiweddarach mae Mike yn canfod bod Vinnie wedi ffugio ei farwolaeth ei hun er mwyn twyllo Mike a dwyn ei bres. Mae Mike yn lladd Vinnie ac yn penderfynu ymadael a Liberty City. Mae Asuka yn cynnig ei gynorthwyo, ond wrth geisio ymadael mae Mike yn cael ei arwain i ymosodiad gan y Maffia. Mae'r gêm yn amwys parthed os oedd hyn yn fwriad gan Asuka neu'n gyd digwyddiad anfwriadol.

Asuka yn GTA III[golygu | golygu cod]

Mae Asuka yn parhau i fyw yn ninas Liberty City ac yn helpu ei hen gyfaill, Maria Latore, i ddianc rhag crafangau ei gŵr Salvatore Leone, sydd am ei lladd hi a'i chariad Claude. Wedi i Asuka eu helpu i ddianc mewn cwch i Ynys Staunton, mae hi'n ddweud wrth Claude fod angen iddo brofi ei hun cyn y bydd yn ei gyflogi. Mae hi'n orchymyn Claude i ladd ei gyn-bennaeth, Salvatore Leone, mae o'n gwneud hynny.

Wedi profi ei fod wedi torri oddi wrth ei gyn teyrngarwch i syndicâd Leone, mae Asuka yn rhoi tasgau i Claude ac yn ei gyflwyno i'w brawd Kenji a heddwas llwgr, Ray Machowski sydd hefyd yn rhoi tasgau iddo.

Ym mysg tasgau Asuka i Claude yw gorchymyn iddo ladd nifer o asiantau Teulu Leone sydd yn bygwth ei brawd gyferbyn â'i gasino. Mae am iddo ladd un o ohebwyr y papur lleol, Liberty Tree, a swyddog heddlu cudd o'r enw Tanner.

Mae Claude hefyd, yn dechrau gweithio i'r dyn busnes Donald Love. Mae love yn gofyn iddo i ladd Kenji Kasen, gan gogio ei fod yn aelod o Gartel y Colombiaid, er mwyn sbarduno rhyfel gangiau a gyrru prisiau eiddo tiriog i lawr. Mae Asuka, wedi ei ffyrnigo gan farwolaeth ei brawd, yn ymosod ar safle adeiladu a reolir gan y Cartel. Mae hi'n dal Miguel, un o arweinwyr y Cartel ac yn ei arteithio i ganfod gwybodaeth am fusnes y Cartel. Gyda'r wybodaeth a gafwyd gan Miguel, mae hi'n orchymyn Claude i ladd rhai o droedfilwyr y gang ac i ddifrodi busnes gwerthu'r cyffur SPANK gan gang y Yardies ac i ddwyn pecynnau SPANK oddi wrth y Cartel ym Maes Awyr Rhyngwladol Francis. Wedi cyflawni'r tasgau hyn mae Claude yn dychwelyd i'r safle adeiladu gan ganfod Asuka a Miguel yn farw, wedi eu lladd gan Catalina.

Lleisiwyd Asuka yn GTA III gan Liana Pai.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Asuka Kasen". Grand theft Wiki. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2018.
  2. Adelstein, Jake (16, Rhagfyr, 2015). "The yakuza: Inside Japan's murky criminal underworld". CNN. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2018. Check date values in: |date= (help)
  3. "Asuka_Kasen". Fandom. Cyrchwyd 17 Gorffennaf 2018.
  4. Fideo Youtube GTA: Liberty City Stories (PS2): Mission #62 - Cash In Kazuki's Chips adalwyd 16 Gorffennaf 2018
  5. Liana Pai ar IMDb adalwyd 16 Gorffennaf 2018