Grand Theft Auto IV

Oddi ar Wicipedia
Grand Theft Auto IV
Enghraifft o'r canlynolgêm fideo Edit this on Wikidata
CyhoeddwrRockstar Games Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
IaithSaesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Rwseg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi29 Ebrill 2008, 4 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
Genregêm antur ac ymladd, gêm fideo gyda chymeriad LHDT Edit this on Wikidata
CyfresGrand Theft Auto Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGrand Theft Auto III Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGrand Theft Auto V Edit this on Wikidata
CymeriadauRoman Bellic, Willy Valerio, Tom Pireni, Luis Fernando Lopez, Niko Bellic, Johnny Klebitz, Karen Daniels Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLiberty City Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrLeslie Benzies Edit this on Wikidata
CyfansoddwrMichael Hunter Edit this on Wikidata
DosbarthyddTake-Two Interactive, Steam, Humble Store, PlayStation Store, Microsoft Store Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Grand Theft Auto IV yn gêm fideo antur byd agored. Fe'i datblygwyd gan y cwnni Albanaidd Rockstar North. Cafodd ei gyhoeddi gan Rockstar Games. Fe'i rhyddhawyd ar gyfer PlayStation 3, a'r Xbox 360 ar 29 Ebrill 2008. Rhyddhawyd fersiwn o'r gêm ar gyfer cyfrifiaduron Windows yn Rhagfyr 2008. Dyma teitl rhif 11 yn y gyfres Grand Theft Auto. Wedi'i leoli o fewn dinas ddychmygol Liberty City, sy'n seiliedig ar Ddinas Efrog Newydd. Mae'r gêm yn dilyn y cymeriad Niko Bellic wrth iddo ddod yn rhan o fyd gangiau, troseddau a llygredd y ddinas.[1]

Chware'r gêm[golygu | golygu cod]

Mae'r gêm yn cael ei chwarae o safbwynt trydydd person, safbwynt lle bydd y chwaraewr, fel petai, mewn safle sefydlog y tu ôl ac ychydig yn uwch na'r cymeriad sy'n cael ei reoli ganddo. Mae'n gêm i chwaraewr unigol ond mae modd chware gyda / yn erbyn hyd at 32 o chwaraewyr eraill ar-lein mewn gemau sy'n defnyddio'r un map a'r brif gêm.

Tasgau a thasgau ymylol[golygu | golygu cod]

Niko Bellic, y prif gymeriad

Mae chwaraewyr yn arwain y prif gymeriad, Niko, i gwblhau tasgau penodol i fynd trwy'r stori. Mae'r tasgau yn llinynnol, lle fo cwblhau un dasg yn agor y nesaf. Mae'n bosib cael nifer o linynnau ar agor ar yr un pryd, gan fod rhai llinynnau'n gofyn i chwaraewyr aros am gyfarwyddiadau neu ddigwyddiadau pellach cyn symud ymlaen i'r dasg nesaf. Y tu allan i linynnau'r gêm, gall chwaraewyr crwydro'n rhydd trwy fyd y gêm.[2] Wrth grwydro gall y chwaraewr cyflawni tasgau ochr dewisol sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm. Ymysg y tasgau ochr mae tasg gyrrwr tacsi, tasg dwyn ceir, tasg dosbarthu cyffuriau. Mewn gemau blaenorol roedd cyflawni tasgau ochr yn rhoi doniau newydd i'r prif gymeriad, megis y gallu i gerdded trwy dân heb losgi, ond nid yn y gêm hon. Gwobrau ariannol a chyfrannu at faint cyfeillgarwch Niko a rhoddwr y dasg yw gwobrau mwyaf amlwg am gyflawni'r tasgau. O ddod yn gyfaill i ambell i gymeriad bydd gwobrau eraill ar gael. Y cymeriad Little Jacob sy'n rhoi'r tasgau dosbarthu cyffuriau i Niko. Bydd cyfeillgarwch Niko a Little Jacob yn cynyddu ar ôl i Niko cyflawni bob tasg, ond dim digon i'w gwneud yn gyfeillion da. I ddod yn gyfeillion da mae'n rhaid i Niko cymdeithasu efo'r cymeriad arall, gan amlaf trwy ddiota, bwyta, chwarae pŵl, ymweld â chlwb stripio, mynychu sioe, chware bowlio deg neu chwarae dartiau. Mae cyfeillion da yn gwneud cymwynasau i Niko. Wedi cyrraedd lefel o 75% o gyfeillgarwch â Jacob mae modd i Niko ei ffonio a gofyn iddo ddod a llond cist car o arfau rhad i le bynnag y mae.[3]

Bwrdeistrefi[golygu | golygu cod]

Mewn gemau blaenorol a osodwyd yn Liberty City roedd y gemau wedi eu gosod ar ynysoedd ffug, wedi eu seilio'n fras ar ddinas Efrog Newydd. Mae GTA IV wedi ei osod ar faes llawer tebycach i'r Efrog Newydd go iawn. Mae'r map wedi ei rannu i bedwar o fwrdeistrefi:

Mae gwahanol rannau o'r ddinas yn cael eu hagor i'r chwaraewr wrth i'r gêm symud ymlaen. Ar ddechrau'r gêm dim ond Broker a Dukes sydd ar agor. Mae'r pontydd sy'n cysylltu â gweddill y map wedi eu cau oherwydd bygythiad terfysg. O geisio cael mynediad i'r ardaloedd sydd ar gau bydd Niko yn cael ei drin fel terfysgwr tebygol ac yn cael ei erlyn gan holl rym y gyfraith.[8]

Arfau[golygu | golygu cod]

Mae'r chwaraewr yn gallu gwneud i Niko cerdded, rhedeg, nofio, neu yrru cerbydau a llongau er mwyn tramwyo byd y gêm. Mae'r cymeriad yn gallu defnyddio amrywiaeth eang o arfau gan gynnwys ei ddyrnau, arfau llaw, gynnau a saethwr rocedi. Mae'n gallu cael gafael ar arfau trwy eu dwyn gan wrthwynebwyr mae'n eu trechu, eu canfod wedi eu cuddio mewn mannau penodol ar y map, eu prynu gan werthwyr arfau neu trwy ddod yn gyfaill da i Little Jacob.[9]

Iechyd[golygu | golygu cod]

Wrth i Niko ymosod ar eraill, maent yn wrth ymosod gan beri niwed iddo. Wrth iddo gael ei niweidio mae'r mesurydd iechyd ar ei far statws yn dirywio. Mae Niko hefyd yn gallu defnyddio arfwisg i warchod ei iechyd, mae effeithlonrwydd yr arfwisg hefyd ar y bar statws ac yn dirywio wrth iddo dderbyn niwed. Mae modd iddo ennill iachâd trwy godi eiconau iechyd ac arfwisg. Os yw ei iechyd yn cael ei golli'n llwyr mae Niko yn marw ac yn atgyfodi ger yr ysbyty agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian.

Troseddu[golygu | golygu cod]

Busted - Niko wedi ei ddal gan yr heddlu

Os yw Niko yn cael ei weld yn troseddu gan yr heddlu yn ystod y gêm bydd yn ennill sêr troseddwr. Bydd nifer y sêr sydd gan Niko yn pennu pa mor frwd bydd yr heddlu yn ceisio ei ddal. Wedi derbyn un neu ragor o sêr troseddol bydd cylch glas yn ymddangos ar y bar statws. Bydd maint y cylch yn dibynnu ar nifer y sêr troseddol. Os yw Niko yn gallu dianc tu allan i'r cylch cyn ei ddal, bydd yr heddlu yn rhoi'r gorau i'w herlyn. Os yw'n cael ei ddal (Busted yw terminoleg y gêm) mae'n cael ei ryddhau yn unionsyth tu allan i'r swyddfa heddlu agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian.

Plot[golygu | golygu cod]

Broker[golygu | golygu cod]

Mae Niko Bellic, gŵr o Ddwyrain Ewrop,[10] yn cyrraedd Liberty City ar fwrdd llong cargo, y Platypus, i ailuno gyda'i gefnder Roman Bellic, a mynd ar drywydd y Freuddwyd Americanaidd,[11] a chwilio am y dyn a fradychodd ei uned mewn rhyfel bymtheng mlynedd ynghynt. Ar ôl cyrraedd, fodd bynnag, mae Niko yn darganfod bod straeon Roman am gyfoeth a moethusrwydd yn gelwydd. Y gwirionedd yw ei fod yn brwydro yn erbyn dyledion gamblo a siarcod benthyg, a bod Roman yn byw mewn fflat budr yn Broker ac yn rhedeg cwmni tacsi bach.[12] Wrth gyflawni swyddi i Roman, mae Niko yn gwneud ei gysylltiadau troseddol cyntaf, gan gynnwys is bennaeth gang y Yardies, Little Jacob, ac mae'n dod yn gyfaill iddo. Mae o hefyd yn cyfarfod a Vlad Glebov,[13] siarc benthyca Rwsiaidd y mae Roman mewn dyled iddo, y mae'n ei ladd yn y pen draw ar ôl dysgu iddo gysgu gyda chariad Roman, Mallorie.[14]

Er mwyn dial am farwolaeth Vlad, mae Niko a Roman yn cael eu herwgipio gan gang o faffia Y Rwsiaid ar orchmynion eu pennaeth Mikhail Faustin [15] a'i ddirprwy Dimitri Rascalov.[16] Mae Faustin yn gorfodi Niko i wneud tasgau iddo. Mae Niko yn darganfod gwir natur Faustin yn gyflym ar ôl cael gorchymyn i ladd mab arglwydd troseddol y Rwsiaid, Kenny Petrović. Pan mae Petrović yn bygwth dial, mae Dimitri yn argyhoeddi Niko i lofruddio Faustin er mwyn gwneud iawn. Yn ddiweddarach mae Dimitri yn bradychu Niko trwy i'w gyn-gyflogwr Ray Bulgarin, sy'n ei gyhuddo o ddwyn oddi wrtho ychydig flynyddoedd ynghynt. Ar ôl i Niko wadu'r honiad, mae brwydr arfog yn dilyn, gan ganiatáu i Dimitri a Bwlgarin i ddianc.

Bohan[golygu | golygu cod]

Fflat Roman ar dân

Mae Niko a Roman yn cael eu gorfodi i ffoi i Bohan ar ôl i’w fflati a'i gwmni tacsi gael eu llosgi i lawr gan ddynion Dimitri. Wrth weithio i sawl pennaeth gangiau cyffuriau lleol, mae Niko yn parhau â'i wrthdaro â Dimitri, sy'n herwgipio Roman ond mae Niko yn ei achub. Mae hefyd yn darganfod bod ei gariad, Michelle, yn gudd asiant y llywodraeth o'r enw Karen. Mae hi'n arestio Niko am ei droseddau. Mae Karen yn cynnig rhyddid a phardwn i Niko os yw'n gweithio i'w hasiantaeth, sy'n cuddio ei fodolaeth trwy gogio bod yn bapur newyddion lleol United Liberty Paper. Mae'r asiantaeth yn cael Niko i lofruddio sawl terfysgwr hysbys neu dan amheuaeth o derfysg. Mae pennaeth yr asiantaeth hefyd yn addo rhoi cymorth i Niko i ddod o hyd i'r gŵr bradychodd ei uned yn y rhyfel. Mae ffawd Niko a Roman yn gwella’n sydyn pan mae Roman yn derbyn llawer iawn o arian yswiriant am ei fusnes a dinistriwyd. Mae Roman yn ail sefydlu ei fusnes tacsi ac yn prynu fflat yn Algonquin. Mae Roman hefyd yn cynnig priodi Mallorie, mae hi'n derbyn y cynnig.

Algonquin a Dukes[golygu | golygu cod]

Wrth weithio i'r Mob Gwyddelig, mae Niko yn dod yn gyfeillgar gyda Patrick McReary ar ôl ei helpu i gyflawni lladrad banc, sy'n ei gyflwyno i Ray Boccino, caporegime yn nheulu Maffia y Pegorino. Mae Boccino yn llogi Niko i oruchwylio dêl diemwntau pwysig, sy'n mynd o chwith. Mae Boccino hefyd yn ei helpu i olrhain y dyn y mae'n credu sydd wedi bradychu ei uned, Florian Cravic. Mae Niko yn darganfod nad Florian oedd y bradwr. Yn dilyn hynny, mae Niko yn gweithio i deuluoedd Gambetti a Pegorino yn gyfnewid am gymorth i ddod o hyd i’r bradwr go iawn Darko Brevic, sy’n cuddio allan yn Ewrop. Mae Niko yn llofruddio Boccino ar orchymyn Don Jimmy Pegorino, sy'n ei amau o fod yn hysbysydd yr heddlu. Yn ystod yr amser hwn, mae Niko hefyd yn helpu Patrick i herwgipio merch Don Giovanni Ancelotti i'w phridwerth am y diemwntau, ond mae'r cyfnewid yn cael ei rhyng-gipio gan Bulgarin, gan arwain at golli'r diemwntau

Yn y pen draw, mae asiantiaeth y Papur yn cael hyd i Darko ac yn dod ag ef i Liberty City er mwyn i Niko benderfynu ei dynged. Ar ôl penderfynu ar dynged Darko, gwysir Niko gan Pegorino am un ffafr olaf: i helpu gyda dêl heroin hynod broffidiol gyda Dimitri. Rhaid i Niko naill ai daro’r fargen â Dimitri, neu ddial arno.

Diweddglo[golygu | golygu cod]

Os yw Niko yn derbyn y fargen, mae Dimitri unwaith eto yn ei fradychu ac yn cadw’r heroin iddo’i hun.[17] Ym mhriodas Roman, mae llofrudd a anfonwyd gan Dimitri yn lladd Roman yn anfwriadol.[18] Gyda chymorth Little Jacob, mae Niko'n llofruddio Dimitri. Yn ddiweddarach, mae Mallorie yn hysbysu Niko ei bod yn feichiog gyda phlentyn Roman. Os yw Niko yn dewis dial, mae'n brwydro dynion Dimitri ar fwrdd y Platypus i'w gyrraedd a'i ladd. Ym mhriodas Roman, mae Pegorino, yn gandryll ar ôl brad Niko, yn ei dargedu mewn cyrch saethu o gar ond yn lladd cariad newydd Niko, chwaer Patrick, Kate. Gyda chymorth Little Jacob a Roman, mae Niko yn lladd Pegorino. Yn ddiweddarach, dywed Roman wrth Niko fod Mallorie yn feichiog, ac os yw'r babi yn ferch, byddant yn ei henwi er cof Kate.

Derbyniad beirniadol[golygu | golygu cod]

Yn dilyn cyhoeddi'r bwriad i ryddhau'r gêm ym mis Mai 2006, bu edrych ymlaen brwdfrydig am Grand Theft Auto IV. [19] Cafodd ei ryddhau i ganmoliaeth feirniadol uchel.[20]

Enillodd Grand Theft Auto IV wobrau gan sawl beirniad a chyhoeddiad. Derbyniodd wobrau Gêm y Flwyddyn gan Digital Spy,[21] Cymdeithas y Masnachwyr Adloniant,[22] GameTrailers, Giant Bomb, IGN Awstralia, Kotaku, The Los Angeles Times, The New York Times, a Time. Yng Ngwobrau Gêm Fideo Spike, enillodd y gêm Gêm y Flwyddyn a'r Gêm Antur Gweithredu Orau, ac enillodd Michael Hollick y Perfformiad Gorau gan Ddyn am ei rôl fel Niko. Fe'i henwebwyd am dair gwobr yn 9fed Gwobrau Dewis Datblygwyr Gêm, a saith yn 5ed Gwobrau Gemau'r Academi Brydeinig. Yng Ngwobrau Goreuon IGN 2008, enillodd un ar ddeg o wobrau, gan gynnwys Llais Gorau ar draws pob un o'r tri llwyfan ac ar y cyfan, a Stori Gorau ar gyfer PlayStation 3 ac Xbox 360.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Langshaw, Mark (2013-09-07). "'GTA 4' retrospective". Digital Spy. Cyrchwyd 2020-11-26.
  2. "Grand Theft Auto 4's Open World Is Still Fantastic 10 Years Later". GameSpot. Cyrchwyd 2020-11-26.
  3. Grand Theft Auto IV UK Hands-On - IGN, https://www.ign.com/articles/2008/02/28/grand-theft-auto-iv-uk-hands-on-2, adalwyd 2020-11-26
  4. Broker - GTA 4 Wiki Guide - IGN, https://www.ign.com/wikis/grand-theft-auto-4/Broker, adalwyd 2020-11-26
  5. Bohan - GTA 4 Wiki Guide - IGN, https://www.ign.com/wikis/grand-theft-auto-4/Bohan, adalwyd 2020-11-26
  6. Algonquin - GTA 4 Wiki Guide - IGN, https://www.ign.com/wikis/grand-theft-auto-4/Algonquin, adalwyd 2020-11-26
  7. Dukes - GTA 4 Wiki Guide - IGN, https://www.ign.com/wikis/grand-theft-auto-4/Dukes, adalwyd 2020-11-26
  8. "Bridges in GTA IV". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-26.
  9. "Weapons in GTA IV - Grand Theft Wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-11-26.
  10. Boyer, Crispin (March 2008). "Sweet Land of Liberty". Electronic Gaming Monthly (EGM Media, LLC): 44-56. Sam Houser: "He's from that gray part of broken-down Eastern Europe, a war-torn area."
  11. Barone, Adam. "What Is the American Dream?". Investopedia. Cyrchwyd 2020-11-30.
  12. "Roman Bellic". Neoseeker. Cyrchwyd 2020-11-26.
  13. "Vlad Glebov". Neoseeker. Cyrchwyd 2020-11-26.
  14. "Mallorie Bardas". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-26.
  15. "Mikhail Faustin - Grand Theft Wiki, the GTA wiki". www.grandtheftwiki.com. Cyrchwyd 2020-11-26.
  16. "Dimitri Rascalov". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-26.
  17. Rockstar North (29 Ebrill 2008). Grand Theft Auto IV (PlayStation 3 and Xbox 360) (1.0 ed.). Rockstar Games. Level/area: "One Last Thing".
  18. Rockstar North (29 Ebrill 2008). Grand Theft Auto IV (PlayStation 3 and Xbox 360) (1.0 ed.). Rockstar Games. Level/area: "Mr and Mrs Bellic".
  19. Truta, Filip. "Jack Thompson Strikes Again - GTA IV and Manhunt 2". softpedia. Cyrchwyd 2020-11-26.
  20. "Grand Theft Auto IV". Metacritic. Cyrchwyd 2020-11-26.
  21. Reynolds, Matthew (2008-12-21). "Feature: Top Ten Games Of 2008". Digital Spy. Cyrchwyd 2020-11-26.
  22. "Home Entertainment Awards - Video Games". www.webcitation.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-01. Cyrchwyd 2020-11-26.