Grand Theft Auto: Vice City

Oddi ar Wicipedia
Clawr y Gêm

Mae Grand Theft Auto:Vice City yn gêm fideo gweithgaredd antur a ddatblygwyd gan Rockstar North a'i gyhoeddi gan Rockstar Games. Cafodd ei rhyddhau ar 29 Hydref 2002 ar gyfer y PlayStation 2, ar 12 Mai 2003 ar gyfer Microsoft Windows, ac ar 31 Hydref 2003 ar gyfer yr Xbox. Cafodd fersiwn diwygiedig ei ryddhau ar gyfer llwyfannau symudol yn 2012, ar gyfer degfed pen-blwydd y gêm. Dyma'r chweched gyfrol yn y gyfres Grand Theft Auto a'r brif gêm ers 2001 pan gyhoeddwyd Grand Theft Auto III. Mae'r gêm yn cael ei osod o fewn y ddinas ffuglennol Vice City. Mae'r ddinas yn seiliedig ar Miami.[1] Mae'r gêm yn dilyn hynt Tommy Vercetti wedi ei ryddhau o'r carchar. Wedi ei ddal mewn cudd-ymosodiad ar ddêl gwerthu cyffuriau, mae'n chwilio am y rhai fu'n gyfrifol gan adeiladu ymerodraeth droseddol ei hun a chipio grym gan sefydliadau troseddol eraill yn y ddinas.[1]

Chware'r gêm[golygu | golygu cod]

Mae'r gêm yn cael ei chwarae o safbwynt trydydd person, safbwynt lle bydd y chwaraewr, fel petai, mewn safle sefydlog y tu ôl ac ychydig yn uwch na'r cymeriad sy'n cael ei reoli ganddo.

Mae chwaraewyr yn arwain y prif gymeriad, Tommy Vercetti, i gwblhau tasgau penodol i fynd trwy'r stori. Mae'r tasgau yn llinynnol, lle fo cwblhau un dasg yn agor y nesaf. Mae'n bosib cael nifer o linynnau ar agor ar yr un pryd, gan fod rhai llinynnau'n gofyn i chwaraewyr aros am gyfarwyddiadau neu ddigwyddiadau pellach cyn symud ymlaen i'r dasg nesaf. Y tu allan i linynnau'r gêm, gall chwaraewyr crwydro'n rhydd trwy fyd y gêm. Wrth grwydro gall y chwaraewr cyflawni tasgau ochr dewisol sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm. Ymysg y tasgau ochr mae tasg cael pobl i'r ysbyty mewn ambiwlans, tasg ymladd tân, a thasg gyrrwr tacsi. Mae cyflawni'r tasgau yn rhoi gwobrau cyd-destun penodol i Tommy; er enghraifft, mae cwblhau'r dasg ymladdwr tân yn wneud Tommy yn wrthdan, ac mae'n gallu cerdded trwy dannau heb losgi a heb i'r gwres effeithio ar ei iechyd na'i fywyd.[2]

Ynysoedd[golygu | golygu cod]

Mae Vice City yn cynnwys dwy ynys fawr a chwe ynys lai; mae'r ddwy ynys fawr yn cael eu gwahanu gan gorff mawr o ddŵr tebyg i Fae Biscayne, sy'n gwahanu Miami Beach o dir mawr Miami. Mae'r ynysoedd mawr wedi'i rhannu'n sawl ardal.[3]

Mae ynys Vice City Beach yn cynnwys ardaloedd traeth Vice City Beach, Ocean Beach, Washington Beach, Vice Point a Leaf Links. Ar ddechrau'r gêm dim ond Ynys Vice Beach (ac eithrio Leaf Links) sydd ar agor i Tommy. Rhaid pasio nifer o dasgau arbennig i agor gweddill y map.[3]

Mae Ynys Vice City Mainland yn cynnwys ardaloedd Downtown Vice City, Little Havana Little Haiti, Maes awyr rhyngwladol Escobar, Safle'r Awyrlu Fort Baxter; a Phorthladd Vice Port[3]

Mae rhai o dasgau'r gêm yn cael eu chwarae ar ddau o'r ynysoedd llai sef Starfish Island a Prawn Island

Mae'r chwaraewr yn gallu gwneud i Tommy cerdded, rhedeg neu yrru cerbydau a llongau er mwyn tramwyo byd y gêm.[1]

Arfau[golygu | golygu cod]

Mae'r chwaraewr yn gallu gwneud i Tommy defnyddio amrywiaeth eang o arfau gan gynnwys ei ddyrnau, arfau llaw, gynnau awtomatig reiffl snipiwr a saethwr rocedi[4]. Mae'n gallu cael gafael ar arfau trwy eu dwyn gan wrthwynebwyr mae'n eu trechu, eu canfod wedi eu cuddio mewn mannau penodol ar y map, eu prynu gan werthwyr arfau neu trwy gasglu gwahanol niferoedd o eiconau cudd.[5].

Iechyd[golygu | golygu cod]

Wrth i'r Tommy ymosod ar eraill, maent yn wrth ymosod gan beri niwed iddo. Wrth iddo gael ei niweidio mae ei fesurydd iechyd yn dirywio. Mae Tommy hefyd yn gallu defnyddio arfwisg i warchod ei iechyd, mae effeithlonrwydd yr arfwisg hefyd ar fesurydd sy'n dirywio wrth iddo dderbyn niwed. Mae modd iddo ennill iachâd trwy godi eiconau iechyd ac arfwisg[6]. Os yw ei iechyd yn cael ei golli'n llwyr mae Tommy yn marw ac yn atgyfodi ger yr ysbyty agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian. Mae faint o iechyd ac arfwisg sydd gan Tommy ar ôl yn cael ei arddangos ar ei Far Statws (HUD)

Troseddu[golygu | golygu cod]

Os yw Tommy yn cael ei weld yn troseddu gan yr heddlu yn ystod y gêm bydd yn ennill sêr troseddwr. Bydd nifer y sêr sydd gan Tommy yn pennu pa mor frwd bydd yr heddlu yn ceisio ei ddal. Os yw'n cael ei ddal (Busted yw terminoleg y gêm) mae'n cael ei ryddhau yn unionsyth tu allan i'r swyddfa heddlu agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian.[7]

Eiddo[golygu | golygu cod]

Ar ôl y dasg gychwynol mae modd cadw'r gêm, i sicrhau nad yw cyflawniadau yn cael eu colli, trwy i Tommy ymweld â gwesty. Wrth symud ymlaen trwy'r gêm ac ennill arian am gyflawni tasgau bydd modd i Tommy prynnu cartrefi eraill yn y ddinas. Bydd pob cartref mae'n prynnu hefyd yn troi'n man i gadw'r gêm. Mae gan rai o'r cartrefi garej ynghlwm iddynt. Os yw Tommy yn cadw cerbyd yn y garej ni fydd modd i droseddwr arall ei ddwyn ac os oes niwed wedi ei wneud i gerbyd bydd yn cael ei drwsio tra yn y garej.

Mae Tommy hefyd yn gallu prynnu nifer o fusnesau wrth iddo adeiladu ei ymerodraeth droseddol. Wedi talu am fusnes mae'n rhaid i Tommy cyflawni nifer o dasgau perthnasol i'r busnes er mwyn profi ei fod yn gallu ei redeg yn broffidiol. Unwaith iddo gyflawni'r tasgau bydd y busnes yn gwneud elw. Mae modd i Tommy casglu'r elw i gynyddu faint o arian sydd yn ymddangos yn ei Far Statws. Mae'r busnesau hefyd yn dod yn fannau cadw cynnydd y gêm.[1]

Plot[golygu | golygu cod]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Tommy Vercetti yn Liberty City i deulu o dras Eidalaidd, roedd ei dad yn gadw siop argraffu.[8] Pan oedd yn ei arddegau daeth yn gyfeillgar efo Sonny Forelli, a dechreuodd weithio ar gyfer ei syndicâd troseddol gan enill parch ac ymddiriedaeth y teulu Forelli.[9]

Ym 1971 yn ninas Liberty City cafodd Tommy ei orchymyn gan Sonny i ladd arweinydd gang oedd yn cystadlu yn erbyn teulu Forelli. Wrth gyraedd ardal Harwood lle roedd y cystadleuydd yn llechu ymosodwyd ar Tommy gan un ar ddeg o ddynion. Lladdodd Tommy pob un ohonynt a chafodd ei garcharu am eu llofruddio.[10] Cafodd ei ddedfrydu i'r gosb eithaf ond trwy ddylanwad cyfreithwyr llwgr teulu Forelli cafodd ei ryddhau ar ôl 15 mlynedd. Wedi lladd y gang o ddynion yn Harwood enillodd Tommy'r llysenw "The Harwood Butcher".

Cyflwyniad[golygu | golygu cod]

Wedi cael ei draed yn rhydd o'r carchar mae Tommy yn awyddus i ail ddechrau gweithio i Deulu Forelli. Mae Sonny yn poeni byddai presenoldeb Tommy yn Liberty City yn achosi problemau i fusnes y teulu gan fod ei drosedd yn dal i gael ei gofio yno. Mae Sonny yn ei ddanfon i Vice City i gymryd rhan mewn dêl cyffuriau. Mae Sonny hefyd am iddo ehangu busnes y syndicâd yn y de ac i aros yno am gyfnod i ddod o hyd i gyfleoedd ar gyfer busnesau da.

Mae Tommy yn cyrraedd y dêl cyffuriau fel goruchwyliwr rhwng teulu Forelli a Theulu Vance, teulu troseddol sy'n weithgar yn y ddinas. Mae grŵp o ymosodwyr sydd wedi bod yn cuddio yn dechrau saethu attynt, gan ladd Victor Vance (prif gymeriad y gêm Vice City Stories) a dau o ddynion Forelli. Mae'r cyffuriau a'r arian i dalu amdanynt yn cael ei ddwyn. Mae Tommy a Ken Rosenberg, cyfreithiwr a chyswllt Tommy yn y ddinas yn llwyddo i ffoi. Mae Tommy yn rhoi addewid i Sonny y bydd yn adenill y cyffuriau a'r arian ac yn dial ar y sawl oedd yn gyfrifol.

Y stori[golygu | golygu cod]

Mae Tonny yn benderfynol o ganfod pwy oedd yn gyfrifol am darddu ar y dêl cyfnewid cyffuriau ac i gael dial arnynt. Mae Ken Rosenberg yn awgrymu bod Tommy yn cysylltu â Juan Garcia Cortez,[11] swyddog milwrol, wedi ei ymddeol o wlad anhysbys yng Nghanolbarth America, ac un o'r sawl a fu'n gyfrifol am greu'r ddêl cyffuriau cychwynnol, er mwyn gael gwybodaeth bellach. Mae Cortez yn cytuno i helpu Tommy caffael gwybodaeth ac yn ei gyflogi i gyflawni tasgau ar ei gyfer yn y cyfamser.

Mae Ken, wedyn, yn awgrymu bod Tommy yn cwrdd â gŵr alltud o Lundain, Kent Paul, (Danny Dyer) sydd yn arwain Tommy i un o drefnwyr yr ymosodiad arno, cogydd o'r enw Leo Teal sy'n gweithio yn Ocean Drive. Wedi methu cael gwybodaeth gan y cogydd mae Tommy yn ei lofruddio ac yn dwyn ei ffôn symudol. Mae Lance Vance (Philip Michael Thomas), brawd Victor, yn dyst iddo lofruddio'r cogydd ac yn rhoi cyngor iddo ar sut ymdrin ag is-fywyd Vice City. Mae Lance a Tommy yn cytuno i gyd weithio i gael dial ar y sawl bu'n gyfrifol am yr ymosodiad.[12]

Mae Ken yn cyflwyno Tommy i Avery Carrington, datblygwr tir, a'i ysgrifennydd Donald Love. Mae Avery yn cytuno i gynorthwyo Tommy i gael gwybodaeth am ei elynion os yw'n cyflawni tasgau iddo.

Mae Cortez yn rhoi tasg i Tommy a Lance i warchod dêl cyffuriau sy'n cael ei wneud gan gyfaill iddo, Ricardo Diaz (Luis Guzmán). Wedi llwyddo i oresgyn ymosodiad ar y dêl mae Tommy a Lance yn dechrau gweithio i Diaz.[13] Wrth weithio i Diaz mae Tommy a Lance yn dod i'r casgliad mae ef oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar y dêl cyffuriau gwreiddiol ac am ladd Victor, brawd Lance. Wedi canfod mae Diaz oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar y dêl cyffuriau mae Tommy a Lance yn arwain cyrch ar ystâd Diaz ac yn ei ladd. Mae Tommy yn penderfynu rheoli cyn busnesau Diaz ei hun yn hytrach nag ar ran Deulu Forelli sy'n cynddeiriogi Sonny ac yn creu anghydfod rhwng y ddau gangster. Mae anghydfod hefyd yn codi rhwng Tommy a Lance, sydd am fwy o barch gan Tommy a hefyd fwy o reolaeth dros y busnesau. Mae'r gwrthdaro â Theulu Forelli yn cyrraedd pwynt berwi pan fydd Tommy yn lladd henchmen Forelli a anfonwyd i atafaelu refeniw o'i fusnesau

Mae Tommy hefyd yn gweithio gydag arweinydd y gang o Ciwba Umberto Robina (Danny Trejo) yn eu brwydr yn erbyn yr Haitiaid. Ar ôl dinistrio ffatri cyffuriau'r Haitiaid, mae Umberto yn dod yn bartner i Tommy yn y fasnach gyffuriau. Mae Tommy hefyd yn ennill parch a chyfeillgarwch Mitch Baker (Lee Majors), arweinydd gang y beicwyr, y mae ei feicwyr yn gweithio ochr yn ochr â'r Cubans i ddod yn amddiffynwyr busnes syndicâd Vercetti

Mae Sonny yn penderfynu ymweld â Vice City i ddelio gyda Tommy ei hun. Mae Lance yn bradychu Tommy trwy gynorthwyo Sonny ac mewn brwydr waedlyd mae Tommy yn lladd Lance, Sonny a chriw Forelli gan ddiogelu ei ymerodraeth busnes yn y ddinas gyda Ken Rosenberg yn bartner iddo. Yn ystod y frwydr mae Tommy yn dysgu mae Sonny oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad arno yn Harwood a arweiniodd at ei garcharu.[14] Erbyn diwedd y gêm mae Tommy wedi dod yn ffigur pwerus iawn yn is-fyd troseddol Vice City. Mae wedi sefydlu Teulu Vercetti fel prif syndicâd y ddinas, mae'n byw mewn plasty anferth. Mae'n rhedeg llawer o fusnesau cyfreithiol fel ffrynt i'w gweithgareddau troseddol ac mae ganddo rôl flaenllaw ym masnach cyffuriau sefydledig Vice City.

Derbyniad beirniadol[golygu | golygu cod]

Rhyddhad cychwynnol[golygu | golygu cod]

Cafodd Grand Theft Auto: Vice City ei ryddhau i glod beirniadol. Rhoddodd Metacritic sgôr o 95 allan o 100, i'r gêm gan nodi ei fod wedi derbyn clod cyffredinol gan bob un o'r 62 adolygiad roeddynt wedi casglu.[15] Roedd adolygwyr yn hoffi sŵn a cherddoriaeth y gêm a phenrhyddid y byd chware agored.[16] Bu rhywfaint o feirniadaeth ar yr anhawster i reoli ambell agwedd i'r gêm a materion technolegol eraill, megis y gêm yn rhewi pob hyn a hyn. Roedd y problemau hyn yn gallu gwneud y gêm yn lletchwith a rhwystredig ar adegau.[17]

Derbyniad Beirniadol
Derbyniad ar Playstation 2 Derbyniad ar Windows Derbyniad teclynau symudol
Sgôr ar gyfartaledd Sgôr ar gyfartaledd Sgôr ar gyfartaledd
Cwmni Cyfartalu Sgôr Cwmni Cyfartalu Sgôr Cwmni Cyfartalu Sgôr
Metacritic 95/100[18] Metacritic 94/100[19] Metacritic 80/100[20]
Sgôr adolygwyr Sgôr adolygwyr Sgôr adolygwyr
Cyhoeddwr Sgôr Cyhoeddwr Sgôr Cyhoeddwr Sgôr
AllGame 5/5*[1] Eurogamer 9/10[17] Destructoid 7.5/10[21]
Edge 8/10[22] GameSpot 9.6/10[23] IGN 7.7/10[24]
Eurogamer 10/10[25] GameSpy 93/100[26] Digital Spy 3/10*[27]
Game Informer 10/10[28] IGN 9.3/10[29] NowGamer 7/10[30]
Game Revolution A[31] Pocket Gamer 8/10[32]
GameSpot 9.6/10[33] The Telegraph 4/5*[34]
GameSpy 95/100[35] Touch Arcade 4.5/5*[36]
IGN 9.7/10[37]

Fersiwn Microsoft Windows[golygu | golygu cod]

Cafodd Vice City ei ryddhau i Microsoft Windows ym mis Mai 2003 i feirniadaeth ffafriol debyg i'r fersiwn Playstation. Cafodd y porthladd gweledol ymateb cadarnhaol gan adolygwyr. Canmolodd Mark Hoogland o AllGame manylion dyluniad y ceir, gweadau'r amgylchedd, a'r effeithiau' tywydd.[38] Fodd bynnag cafodd y modd rheoli gyrru ei feirniadu'n hallt [25] gydag adolygwr IGN yn ei alw'n Crap! [29]

Fersiwn symudol[golygu | golygu cod]

Pan gafodd Vice City ryddhau ar ddyfeisiau symudol ym mis Rhagfyr 2012, cafodd derbyn a oedd "yn gyffredinol ffafriol" gan yr adolygwyr. Roedd yr adolygwyr yn hoffi'r delweddu a'r storï,[21][24] ond y feirniadol iawn o ba mor anodd oedd rheoli'r gêm efo sgrîn gyffwrdd.[27][32]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Silverman, Ben (1 Tachwedd, 2002). "Grand Theft Auto: Vice City Review". GameRevolution. Cyrchwyd 18 Awst 2018. Check date values in: |date= (help)
  2. Grand Theft Auto: Vice City - Complete Reward FAQ[dolen marw] adalwyd 18 Awst 2018
  3. 3.0 3.1 3.2 "Vice City". Fandom. Cyrchwyd 18 Awst 2018.
  4. Rockstar North 2002, t. 14.
  5. Grand Theft Auto: Vice City hidden package location guide adalwyd 18 Awst 2018
  6. Rockstar North 2002, t. 9.
  7. Busted! adalwyd 18 Awst 2018
  8. Rockstar North (29 Hydref 2002). Grand Theft Auto: Vice City. PlayStation 2. Rockstar Games. Mission: "Spilling the Beans"
    Earnest Kelly: "Mr. Vercetti? Hey. You bought the old print works?" / Tommy Vercetti: "Yeah, my old man used to work on these [printing machines]... I used to spend the evenings with him, cleaning the rollers. I was going to follow him in his trade, but... I lived a different life."
  9. Scheeden, Jesse (28 Ebrill 2008). "Grand Theft Auto: Favorite Badasses". IGN. Cyrchwyd 20 Ebrill 2013.
  10. Rockstar North (29 Hydref 2002). Grand Theft Auto: Vice City. PlayStation 2. Rockstar Games. Mission: "Keep Your Friends Close..."
    Sonny Forelli: "Didn’t I say your temper would get you into trouble, huh?...How many was it? Ten? No, eleven men. That’s how you get to be called the Harwood Butcher!" / Tommy Vercetti: "You sent me to kill one man, ONE MAN. They knew I was coming Sonny..."
  11. "Juan Cortez". Fandom. Cyrchwyd 18 Awst 2018.
  12. "Back City Brawl". YouTube. Cyrchwyd 18 Awst 2018.
  13. "Guardian Angles". YouTube. Cyrchwyd 18 Awst 2018.
  14. Rockstar North (29 Hydref 2002). Grand Theft Auto: Vice City. Playstation 2. Rockstar Games. Mission: "Keep Your Friends Close..."
    Tommy: You took fifteen years from me, Sonny, and now I'm gonna make you pay!
    Sonny: You still don't get it, do you? I OWN you, Tommy. Those fifteen years were mine to spend!
  15. "All PlayStation 2 Video Game Releases". Metacritic. CBS Interactive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 17 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  16. Marriott, Scott Alan. "Grand Theft Auto: Vice City – Review". AllGame. All Media Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  17. 17.0 17.1 Taylor, Martin (2 Mehefin 2003). "Grand Theft Auto: Vice City". Eurogamer. Gamer Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  18. Marriott, Scott Alan. "Grand Theft Auto: Vice City – Review". AllGame. All Media Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  19. "Grand Theft Auto: Vice City for PC Reviews". Metacritic. CBS Interactive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  20. "Grand Theft Auto: Vice City 10th Anniversary Edition for iPhone/iPad Reviews". Metacritic. CBS Interactive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  21. 21.0 21.1 Carter, Chris (11 Rhagfyr 2012). "Review: Grand Theft Auto: Vice City: 10 Year Anniversary". Destructoid. ModernMethod. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  22. "Grand Theft Auto: Vice City Review". Edge. Future plc. 27 Tachwedd 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  23. Kasavin, Greg (23 Mai 2003). "Grand Theft Auto: Vice City Review". GameSpot. CBS Interactive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2013. Cyrchwyd 17 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  24. 24.0 24.1 Davis, Justin (18 Rhagfyr 2012). "Grand Theft Auto: Vice City iOS Review". IGN. Ziff Davis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  25. 25.0 25.1 Bramwell, Tom (8 Tachwedd 2002). "Grand Theft Auto: Vice City". Eurogamer. Gamer Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  26. Accardo, Sal (9 Mai 2003). "Grand Theft Auto: Vice City (PC) – Review". GameSpy. Ziff Davis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2003. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  27. 27.0 27.1 Nichols, Scott (11 Rhagfyr 2012). "Mobile review round-up: 'GTA: Vice City', 'KnightScape', more". Digital Spy. Hearst Corporation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  28. Helgeson, Matt; Leeper, Justin. "The Winner, and Still Champion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Hydref 2003. Cyrchwyd 17 Ebrill 2016.
  29. 29.0 29.1 Butts, Steve (23 Mai 2003). "GTA Vice City Review". IGN. Ziff Davis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Hydref 2012. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  30. "GTA: Vice City iPad Review". NowGamer. Imagine Publishing. 7 Rhagfyr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ebrill 2016. Cyrchwyd 17 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  31. Silverman, Ben (1 Tachwedd 2002). "Grand Theft Auto: Vice City Review". Game Revolution. CraveOnline. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  32. 32.0 32.1 Brown, Mark (6 Rhagfyr 2012). "Grand Theft Auto: Vice City 10th Anniversary Edition review". Pocket Gamer. Steel Media. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  33. Gerstmann, Jeff (28 Hydref 2002). "Grand Theft Auto: Vice City Review". GameSpot. CBS Interactive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2013. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  34. Hoggins, Tom (17 Rhagfyr 2012). "Grand Theft Auto: Vice City 10th Anniversary Edition review". The Telegraph. Telegraph Media Group. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ebrill 2016. Cyrchwyd 17 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  35. Padilla, Raymond (5 Tachwedd 2002). "Grand Theft Auto: Vice City (PS2) – Review". GameSpy. Ziff Davis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Tachwedd 2002. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.
  36. Ford, Eric (31 Rhagfyr 2012). "'Grand Theft Auto: Vice City' Review – A Totally Rad Port (Review)". Touch Arcade. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2016. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  37. Perry, Douglass C. (28 Hydref 2002). "Grand Theft Auto: Vice City". IGN. Ziff Davis. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Hydref 2012. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  38. Hoogland, Mark. "Grand Theft Auto: Vice City – Review". AllGame. All Media Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Ebrill 2016.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]