Grand Theft Auto III

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o GTA III)
Grand Theft Auto III
Enghraifft o'r canlynolgêm fideo Edit this on Wikidata
CyhoeddwrRockstar Games, Capcom Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Japaneg, Cantoneg, Ffrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi23 Hydref 2001 Edit this on Wikidata
Genregêm antur ac ymladd Edit this on Wikidata
CyfresGrand Theft Auto Edit this on Wikidata
CymeriadauClaude, Catalina, Curly Bob, Phil Cassidy, Salvatore Leone, Toni Cipriani, Asuka Kasen Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithLiberty City Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrLeslie Benzies Edit this on Wikidata
DosbarthyddTake-Two Interactive, Steam, Humble Store, PlayStation Store, Google Play, App Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.rockstargames.com/grandtheftauto3/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Grand Theft Auto III yn gêm fideo antur byd agored. Fe'i datblygwyd gan gwnni DMA Design (rhagflaenydd y cwmni Albanaidd Rockstar North)[1]. Cafodd ei gyhoeddi gan Rockstar Games. Fe'i rhyddhawyd ym mis Hydref 2001 ar gyfer PlayStation 2, ym mis Mai 2002 ar gyfer Microsoft Windows, ac ym mis Hydref 2003 ar gyfer yr Xbox. Rhyddhawyd fersiwn ddiwygiedig o'r gêm ar lwyfannau symudol yn 2011[2], ar gyfer degfed pen-blwydd y gêm. Dyma'r pumed teitl yn y gyfres Grand Theft Auto. Wedi'i leoli o fewn dinas ddychmygol Liberty City, sy'n seiliedig ar Ddinas Efrog Newydd. Mae'r gêm yn dilyn y cymeriad Claude wrth iddo ddod yn rhan o fyd gangiau, troseddau a llygredd[3].

Chware'r gêm[golygu | golygu cod]

Mae'r gêm yn cael ei chwarae o safbwynt trydydd person, safbwynt lle bydd y chwaraewr, fel petai, mewn safle sefydlog y tu ôl ac ychydig yn uwch na'r cymeriad sy'n cael ei reoli ganddo.

Mae chwaraewyr yn arwain y prif gymeriad, Claude, i gwblhau tasgau penodol i fynd trwy'r stori. Mae'r tasgau yn llinynnol, lle fo cwblhau un dasg yn agor y nesaf. Mae'n bosib cael nifer o linynnau ar agor ar yr un pryd, gan fod rhai llinynnau'n gofyn i chwaraewyr aros am gyfarwyddiadau neu ddigwyddiadau pellach cyn symud ymlaen i'r dasg nesaf. Y tu allan i linynnau'r gêm, gall chwaraewyr crwydro'n rhydd trwy fyd y gêm. Wrth grwydro gall y chwaraewr cyflawni tasgau ochr dewisol sydd ddim yn rhan o brif lif y gêm. Ymysg y tasgau ochr mae tasg cael pobl i'r ysbyty mewn ambiwlans, tasg ymladd tân, a thasg gyrrwr tacsi. Mae cyflawni'r tasgau yn rhoi gwobrau cyd-destun penodol i Claude; er enghraifft, mae cwblhau'r dasg dal troseddwyr yn caniatáu i Claude llwgrwobrwyo heddlu ar ôl cyflawni trosedd[4].

Ynysoedd[golygu | golygu cod]

Mae Liberty City yn cynnwys tair bwrdeistref: Portland, Staunton Island, a Shoreside Vale; mae'r bwrdeistrefi wedi eu lleoli ar dair ynys. Ar ddechrau'r gêm dim ond un ynys sydd ar agor mae'r gweddill yn cael eu datgloi wrth i'r stori fynd yn ei flaen[5]

Arfau[golygu | golygu cod]

Mae'r chwaraewr yn gallu gwneud i Claude cerdded, rhedeg neu yrru cerbydau a llongau er mwyn tramwyo byd y gêm. Mae'r cymeriad yn gallu defnyddio amrywiaeth eang o arfau gan gynnwys ei ddyrnau, arfau llaw, gynnau a saethwr rocedi. Mae'n gallu cael gafael ar arfau trwy eu dwyn gan wrthwynebwyr mae'n eu trechu, eu canfod wedi eu cuddio mewn mannau penodol ar y map[6], eu prynu gan werthwyr arfau neu trwy gasglu gwahanol niferoedd o eiconau cudd ar siâp parsel[7].

Iechyd[golygu | golygu cod]

Wrth i Claude ymosod ar eraill, maent yn wrth ymosod gan beri niwed iddo. Wrth iddo gael ei niweidio mae ei fesurydd iechyd yn dirywio. Mae Claude hefyd yn gallu defnyddio arfwisg i warchod ei iechyd, mae effeithlonrwydd yr arfwisg hefyd ar fesurydd sy'n dirywio wrth iddo dderbyn niwed. Mae modd iddo ennill iachâd trwy godi eiconau iechyd ac arfwisg. Os yw ei iechyd yn cael ei golli'n llwyr mae Claude yn marw ac yn atgyfodi ger yr ysbyty agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian[8].

Troseddu[golygu | golygu cod]

Os yw Claude yn cael ei weld yn troseddu gan yr heddlu yn ystod y gêm bydd yn ennill sêr troseddwr. Bydd nifer y sêr sydd gan Claude yn pennu pa mor frwd bydd yr heddlu yn ceisio ei ddal. Os yw'n cael ei ddal (Busted yw terminoleg y gêm) mae'n cael ei ryddhau yn unionsyth tu allan i'r swyddfa heddlu agosaf wedi colli ei holl arfau a rhywfaint o'i arian.[9]

Cefndir stori'r gêm[golygu | golygu cod]

Mae'r gêm yn cychwyn gyda ffilm fer i roi cefndir a chyd-destun. Mae Claude, y prif gymeriad sy'n cael ei reoli gan y chwaraewr, a Catalina ei gariad yn dwyn arian o fanc yn Liberty City. Wedi'r lladrad mae Catalina yn saethu Claude. Mae'r heddlu yn dod o hyd iddo ac mae'n cael ei ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar. Mae'n cael ei drosglwyddo i'r carchar gyda dau garcharor arall, gwr o'r enw 8-Ball a hynafgwr di enw. Wrth groesi Pont Callahan i Ynys Portland Vale mae gang o Golombiaid yn ymosod ar fan y carchar er mwyn ryddhau'r gŵr dienw. Cyn rhyddhau'r carcharor fe wnaeth y gang hacio cyfrifiaduron y weinyddiaeth cyfiawnder er mwyn dileu manylion y sawl oedd yn y fan. Wrth ffoi mae'r Colombiaid yn rhoi ffrwydrad ar y bont gan ei chwalu'n ddeillion. Mae Ynys Portland Vale bellach heb gysylltiad â gweddill y ddinas[10].

Stori'r gêm[golygu | golygu cod]

Portland[golygu | golygu cod]

Mae 8-Ball yn gwybod am le gall Claude byw, mae o hefyd yn ei gyflwyno i ŵr o'r enw Luigi Goterelli. Mae Luigi yn aelod o Faffia Liberty City, sy'n cael ei arwain gan Salvatore Leone. Trwy Luigi mae Claude yn cael ei gyflwyno i aelodau eraill o'r Maffia. Mae'n cyflawni tasgau i aelodau'r Maffia. O gyflawni'r tasgau bydd Claude yn ennill arian. Mae'r tasgau yn ymwneud ag anghydfod sydd rhwng teulu Leone a thri grŵp arall. Mae teulu Forelli yn deulu Maffia arall sydd am ddisodli goruchafiaeth Salvatore. Mae'r Triad yn gang Tsieineaidd tebyg i'r Maffia. Mae Cartel y Colombiaid yn cydweithio a Catalina, cyn cariad Claude, i werthu cyffur newydd o'r enw SPANK yn y ddinas. Mae Claude yn helpu'r teulu i geisio trechu'r gelynion hyn. Ond mae'r berthynas a theulu Leone yn suro. Ymysg y tasgau mae Claude yn gorfod eu cyflawni yw un lle mae o'n gweithio fel gyrrwr ar ran Maria, gwraig, Salvatore. Er mwyn gwneud ei gŵr yn eiddigeddus mae Maria yn dweud wrtho ei bod wedi cael perthynas efo Claude ac mae Salvatore yn penderfynu lladd y ddau. Mae Maria yn clywed am y cynllun ac mae hi a Claude yn dianc o Ynys Portland i Ynys Shoreside Vale mewn cwch sy'n eiddo i Asuka Kasen, ffrind i Maria. Mae pont Callahan yn cael ei drwsio, ac mae modd i Claude tramwyo dwy ynys bellach[11]

Shoreside Vale[golygu | golygu cod]

Mae Asuka a'i brodyr Kazuki a Kenji yn aelodau o gang debyg i'r Maffia o Japan, y Yakuza. Mae hi bellach yn rhoi tasgau i Claude, sy'n cynnwys lladd ei gyn bos Salvatore Leone. Mae Asuka yn cyflwyno Claude i'w brawd Kenji a heddwas llwgr Ray Machowski. Cartel y Colombiaid sy'n parhau i fod yn brif elynion Claude yng nghyd a'u cynghreiriaid newydd y Yardies, gang o Jamaica. Mae Claude hefyd yn gorfod delio efo'r sawl sy'n ceisio rhwystro Ray. Mae Ray yn cyflwyno Claude i Donald Love, dyn busnes sydd yn berchen ar gwmnïau cyfathrebu a chwmnïau adeiladu. Mae Donald yn credu bod rhyfeloedd rhwng gangiau mewn ardal yn lleihau pris eiddo. Er mwyn prynu eiddo yn rhad er mwyn ei ddatblygu mae Donald am i Claude dwysau'r anghydfod rhwng y Yakuza a'r Colombiaid trwy ladd Kenji gan ddefnyddio car Cartel y Colombiaid fel arf. Mae'r CIA (heddlu cudd) yn cael ei lwgrwobrwyo gan Gartel y Colombiaid ac yn flin bod gweithgareddau'r Yakuza, ar ôl llofruddiaeth Kenji, yn lleihau eu helw. Maent yn cael gwybod bod Ray wedi bod yn rhoi cymorth i'r Yakuza ac yn penderfynu ei ladd. Rhaid i Claude ei gynorthwyo i gyrraedd y maes awyr er mwyn iddo gael ffoi. Gan fod y maes awyr ar y drydedd ynys, Ynys Staunton, bydd llwyddo yn y dasg i helpu Ray ffoi yn agor y cyfan o'r map i'w chware[11].

Ynys Staunton[golygu | golygu cod]

Wrth i'r rhyfel yn erbyn y Cartel dwysáu, mae Asuka a Maria yn cael gwybod am hanes perthynas Claude a Catalina ac yn disgwyl iddo wneud llawer mwy i geisio eu trechu. Yn y pen draw, mae ei ymdrechion yn denu sylw Catalina. Mae'r Colombiaid yn herwgipio Maria ac yn llofruddio Asuka. Maent yn cysylltu â Claude i ddweud wrtho fod yn rhaid iddo dalu pridwerth o $500,000 yn gyfnewid am ryddhau Maria. Pan fydd Claude yn herio Catalina, mae hi'n ceisio ei ladd, ond mae o'n dianc. Yn y frwydr ddilynol, mae Catalina yn ceisio ffoi mewn hofrennydd ac yn gwneud ymgais derfynol i ladd Claude. Wedi lladd yr aelodau Cartel sy'n weddill ac achub Maria, mae Claude yn saethu'r hofrennydd yn yr awyr, gan ladd Catalina[11].

Perfformiad masnachol[golygu | golygu cod]

Gwerthiant[golygu | golygu cod]

Grand Theft Auto III oedd y gêm a werthodd y nifer mwyaf o gopiau  yn yr Unol Daleithiau yn 2001[12], gan werthu dros ddwy filiwn o unedau erbyn mis Chwefror 2002. Yn Japan, gwerthodd Grand Theft Auto III tua 120,000 o gopïau yn ei wythnos gyntaf, a thros 350,000 erbyn Ionawr 2008. Enillodd y gêm wobr "Diemwnt" yn y Deyrnas Unedig, gwobr sy'n nodi dros filiwn o werthiannau; y gêm gyntaf i gyflawni'r garreg filltir hon yn y tiriogaeth.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Cafodd Grand Theft Auto III enwebiadau a gwobrau lluosog a gan gylchgronau gemau fideo. Fe'i dyfarnwyd Gêm y Flwyddyn yng Ngwobrau Dewisol Datblygwyr Gêm,  GameSpot a GameSpy. Fe'i enwyd fel y Gêm PlayStation 2 Gorau gan Game Revolution, GameSpot, GameSpy  ac IGN. Enillodd wobr y Gêm Ymladd Gorau gan Game Revolution, GameSpot, ac IGN, a'r Mwyaf Arloesol gan GameSpot ymysg eraill.

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

Mae nifer o unigolion a mudiadau wedi beirniadu'r gêm am ei thrais[3], a diffyg canlyniadau i ymddygiad treisiol; ei ystrydebau hil a'i diffyg parch at fenywod.[13]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Web Citation 28 April 2008 Backwards Compatible - Rockstar North adalwyd 01/Mai/2018
  2. Grand Theft Auto III 10 Year Anniversary Archifwyd 2019-05-03 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 01/Mai/2018
  3. 3.0 3.1 PERRY, DOUG (22 Hydref 2001). "GRAND THEFT AUTO III". IGN. Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  4. "Missioni vigilante". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  5. "IGN Grand Theft Auto III Walkthrough". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  6. "Weapon locations (GTA III)". WikiGTA. Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  7. "Hobby Consollas Coleccionables". Hobby Consollas. 01/05/2018. Check date values in: |date= (help)
  8. "GTA Wiki Health". GTA Wiki. 01/05/2018. Check date values in: |date= (help)
  9. "Wanted Level in GTA III Era". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  10. "YouTube GTA 3 - Intro & Mission #1 - Give Me Liberty". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  11. 11.0 11.1 11.2 "Missions in GTA III". Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  12. "NPD REPORTS ANNUAL 2001 U.S. INTERACTIVE ENTERTAINMENT SALES SHATTER INDUSTRY RECORD". Chwefror 7, 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-08-14. Cyrchwyd 01/05/2018. Check date values in: |access-date= (help)
  13. Hoggins, Tom (16 Medi 2013). "Grand Theft Auto: 10 most memorable moments in GTA history". The Daily Telegraph. Telegraph Media Group. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)