Daniel Radcliffe
Daniel Radcliffe | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
23 Gorffennaf 1989 ![]() Hammersmith ![]() |
Man preswyl |
Manhattan ![]() |
Dinasyddiaeth |
Y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
actor teledu, actor ffilm, actor plentyn, canwr, actor llwyfan ![]() |
Adnabyddus am |
Harry Potter, Miracle Workers, A Young Doctor's Notebook ![]() |
Taldra |
1.65 metr ![]() |
Gwobr/au |
Golden Apple Award, National Movie Awards, Gwobrau Teen Choice ![]() |
Gwefan |
http://www.danradcliffe.com ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Actor Seisnig yw Daniel Jacob Radcliffe[1][2] (ganwyd 23 Gorffennaf 1989). Adnabyddir ef orau am ei rôl fel Harri Potter ymhob un o'r pump ffilm yn seiliedig ar y llyfrau hynod boblogaidd Harry Potter. Fe fydd hefyd yn ymddangos yn y tri ffilm olaf yn y gyfres.
Mae Radcliffe hefyd wedi actio mewn cynyrchiadau llwyfan a nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu eraill, gan gynnwys y ffilm ITV My Boy Jack a'r drama lwyfan Equus, a gafodd feirniadaethau canmoladwy iawn. Credir fod ganddo ffortiwn bersonol o ychydig yn llai na £20 miliwn, a ddaeth yn bennaf o'i gytundeb gyda'r ffilmiau Harry Potter.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ei fywyd cynnar
Ganwyd Radcliffe yn Ysbyty'r Frenhines Charlotte, Gorllewin Llundain, Lloegr. Ef oedd unig fab Alan Radcliffe, asiant llenyddol, a Marcia Gresham (ganed Marcia Gresham Jacobson), asiant castio a oedd ynghlwm â nifer o ffilmiau ar gyfer y BBC gan gynnwys The Inspector Lynley Mysteries ac yn fwy diweddar Walk Away and I Stumble. Iddewes yw mam Radcliffe a gafodd ei magu yn Westcliff-on-Sea, Essex; magwyd ei dad yng Ngogledd Iwerddon. Dangosodd Radcliffe ddiddordeb mewn actio am y tro cyntaf pan oedd yn bum mlwydd oed. Ym mis Rhagfyr 1999, cafodd ei ran cyntaf yn addasiad dwy-ran y BBC o nofel Charles Dickens "David Copperfield". Chwaraeodd ran y prif gymeriad.
Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Harry Potter and the Philosopher's Stone (ffilm) (2001)
- Harry Potter and the Chamber of Secrets (ffilm) (2002)
- Harry Potter and the Prisoner of Azkaban (ffilm) (2004)
- Harry Potter and the Goblet of Fire (ffilm) (2005)
- Harry Potter and the Order of the Phoenix (ffilm) (2007)
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Daniel Radcliffe (actor bio). HarryPotter.Warnerbros.
- ↑ Daniel Radcliffe, neu Daniel Jacob Radcliffe - Britannica Online Encyclopedia
|