Pont Brooklyn
![]() | |
Math | pont grog, pont gablau, pont aml-lefel, pont ddur, pont ffordd, pont reilffordd, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Brooklyn ![]() |
Agoriad swyddogol | 24 Mai 1883 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dinas Efrog Newydd ![]() |
Sir | Manhattan, Brooklyn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 40.70567°N 73.99633°W ![]() |
Hyd | 5,989 troedfedd ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig ![]() |
Statws treftadaeth | New York City Landmark, National Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, Tentative World Heritage Site ![]() |
Manylion | |
Deunydd | dur, carreg ![]() |
Mae Pont Brooklyn yn croesi Afon Dwyrain, yn cysylltu Manhattan a Brooklyn yn Ninas Efrog Newydd. Mae gan y bont 6 lôn ar gyfer cerbydau, a llwybr gerdded uwchben y ffordd.
Agorwyd y bont ar 24 Mai 1883, yn cymryd 14 mlynedd i'w hadeiladu ac yn costio $15 miliwn. Cynlluniwyd y bont gan John Augustus Roebling. Cyn iddo cynllunio Pont Brooklyn, roedd o wedi cynllunio pontydd dros Ceunant Niagara ac yr Afon Ohio yn Cincinnati. Cafodd o ei anafu ar ddechrau y prosiect, a bu farw 3 wythnos yn ddiweddar. Cymerodd ei fab, Washington Roebling drosodd.
Adeiladwyd ceson, blychau pren, i greu tyllau ar waelod yr afon, ac i'w llenwi efo llithfaen i roi sail i'r bont. Anadlodd y gweithwyr awyr gywasgedig yn y cesonau, a chawsont llawer ohonynt parlys môr fel canlyniad, gan gynnwys Washington Roebling; Cymerodd ei wraig Emily Roebling drosodd i orffen y prosiect.[1]