Friedensreich Hundertwasser

Oddi ar Wicipedia
Friedensreich Hundertwasser
GanwydFriedrich Stowasser Edit this on Wikidata
15 Rhagfyr 1928 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 2000 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Queen Elizabeth 2, Seland Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria, Seland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi'r Celfyddydau Cain, Fiena Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, pensaer, cynllunydd stampiau post, drafftsmon, amgylcheddwr, ecolegydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWaldspirale, Hundertwasserhaus Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolThe Greens – The Green Alternative Edit this on Wikidata
Mudiadcelf fodern Edit this on Wikidata
Gwobr/auAddurn Aur am Wasanaeth dros Dinas Fienna, Uwch-addurn Anrhydeddus am Wasanaeth dros Weriniaeth Awstria, Officier des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.hundertwasser.at/ Edit this on Wikidata

Roedd Friedensreich Hundertwasser (15 Rhagfyr 192819 Chwefror 2000) yn bensaer ac arlunydd, yn wreiddiol o Awstria. Freidrich Stowasser oedd ei enw go iawn, ond mabwysiadodd yr enw Friedensreich Regentag Dunkelbunt Hundertwasser. Roedd ei adeiladau’n anarferol oherwydd ei dueddiad i osgoi llinellau syth a lloriau wastad a'i hoffter o doeau byw. Ganwyd Hundertwasser yn Fienna ar 15 Rhagfyr 1928.

Aeth o i Ysgol Montessori yn Fienna am flwyddyn ym 1936. Allforiwyd a lladdwyd 69 aelod Iddewig o deulu ei fam ym 1943. Treuliodd 3 mis yn Academi’r Celfydyddau Cain yn Fienna ym 1948, ac wedyn dechreuodd teithio, yn gyntaf i’r Eidal ac wedyn Ffrainc. Mabwysiadodd yr enw Hundertwasser ym 1949. Aeth i Ecole des Beaux Arts ym Mharis, ond gadawodd ar ôl diwrnod. Aeth i Morocco a Thiwnisia cyn dychwelyd i Fienna, lle ymunodd â Chlwb Celf Fienna, Cafodd arddangosfa gyntaf o’i beintiadau yno ym 1952, un arall ym 1953, un ym Mharis ym 1954 ac un ym Milan ym 1955. Prynodd La Picaudière, ffermdy yn Normandi ym 1957. Cafodd arddangosfeydd yn Fienna a Pharis. Priododd yn Gibraltar ym 1958; goroesodd y berthynas hyd at 1960. Darllennodd ei waith ‘ Mouldiness Manifesto against Rationalism in Architecture’ yn Seckau. Enillodd wobr Sanbra ym Miennale São Paulo ym 1959 a sefydlodd y Pintorarium, academi o’r meysedd creadigol i gyd. Enillodd wobr Mainichi yn Chweched Arddangosfa Celf Tokyo. Priododd Yuko Ikewada ym 1962. Goroesodd y berthynas hyd at 1966. Peintiodd yn Fenis a chafodd arddangosfa ym Miennale Fenis ym 1962. Dringodd yn Alpau’r Tirol ym 1964, a chafodd arddangosfeydd yn Hanover, Bern, Hagen, Amsterdam, Stockholm a Fienna. Crëwyd ffilm ddogfen amdano a roedd ganddo arddangosfa yn Oslo ym 1966. Yn 1967, ymwelodd ag Wganda a Sudan. Roedd arddangosfeydd ym Mharis, Llundain, Genefa a Berlin. Darlithodd yn y noeth ym Munich ar y testun ‘The Right to the Third Skin’. Ym 1968 oedd ail ddarlith yn y noeth, am penseiriaeth a thoiledi, yn Fienna. Cafodd arddangosfa yn Berkeley, Califfornia. Prynwyd cwch hwylio, y ‘San guiseppe T; ailenwyd y cwch ‘Regenstag’. 1969; arddangosfeydd yn Santa Barbara, Houston, Chicago, Efrog Newydd a Washington DC. Rhwng 1970 a 1972, crëwyd film ‘Hyndertwasser’s Rainy Day’. Ym 1972, cyhoeddodd maniffesto ‘Your window right – your tree duty’. Ym 1973, cafodd arddangosfeydd yn Auckland, New Plymouth, Wellington, Christchurch, Dunedin ac Efrog Newydd. Yn 1984, cafodd arddangosfeydd yn Melbourne, Canberra, Sydney, Mornington, Fienna a Iwgoslafia. Ym 1975, cafodd arddangosfeydd dros 27 gwlad ac ar daith trwy’r Unol Daleithiau. Hwyliodd dros y Môr Iwerydd a thrwy Gamlas Panama i’r Môr Tawel. Ym 1976, hwyliodd ar y Regentag o Dahiti i Seland Newydd. Cafodd arddangosfeydd yn Tel Aviv, Warsaw, Reykyavik, Copenhagen, Dakar, Hanover, Brooklyn a Maryland. Treulodd 2 fis yn Ysbyty Kawakawa, Seland Newydd yn dilyn damweiniau. Aeth i Dokio, Manila, Bangkok, Chen Mai, Rio de Janeiro, Brasilia a Manaus, a hwyliodd i fyny Afon Negro ac Afon Branco. Rhoddodd araith i UNESCO Ym Mharis. Cafodd arddangosfeydd yn Nhokio, Yokohama, Hong Cong, Capetown, Pretoria, Rio de Janeiro, Brasilia, São Paulo, a Characas. Ym 1978, peintiodd yn Awstria, ac wedyn creuodd delwedd 3 dimensiwn gyda Alberto della Vecchia. Cynlluniodd Baner Heddwch y Wlad Sanctaidd a chyhoeddodd Maniffesto Heddwch. Arddangosfeydd yn Ninas Mecsico, Montréal, Toronto, Brwsel, Bwdapest, yr Almaen, Moroco. Ym 1979, cynlluniodd stampoiau ar gyfer Senegal ac Ynysoedd Cap Ferde. Arbrofion gyda thoiledi pridd a pureiddio dŵr gyda phlanhigion. Arddangosfeydd yn Sbaen, y Swistir, Portwgal, yr Almaen, yr Eidal, Efrog Newydd a Phrydain. Ym 1980, aeth i Qatar, Sri Lanca, Ynysoedd y Maldives a Seland Newydd. Cynlluniodd tŷ yn Fienna. Rhodd poster i Brosiect Môs Critigol Ralph Nader yn Washington DC. Siaradodd yn Senedd yr Unol Daleithiau, yn Berlin, Fienna ac Oslo am ecoleg, yn erbyn ynni niwclear, ac o blaid pensaerniaeth mewn cytgord gyda natur. Cafodd arddangosfeydd yn Rome, Milan, Oslo, Cologne, Tokyo a Hamburg. Ym 1981, derbynnodd Wobr fawr Awstria am Gelfyddydau; siaradodd yn erbyn ynni niwclear ac Avant-garde negyddol yn y celfyddydau modern. Derbynnodd Wobr Grawchod Natur Awstria. Darlithodd am yr amgylchedd, pensaerniaeth a chelf yn Cologne, Munich, Frankfurt, Graz, Fienna, Berlin a Hamburg. Cafodd arddangosfeydd yn Fienna, Graz, Berlin, Helsinki, Bucharest, Ffrainc, De America a’r Unol Daleithiau. Ym 1982, darlithodd ar bensaerniaeth, yr amgylchedd a’r celfydyddau yn Sydney, Manila, Seattle, San Francisco a Washington DC. Ym 1983, creuodd stsampiau post ar gyfer y Cenhedloedd Unedig. Sefydlodd pwyllgor i warchod hen swyddfa’r post yn Kawakawa, Seland Newydd. Gosodwyd carreg sylfaen y Tŷ Hundertwasser yn Fienna. Arddangosfeydd yn Llundain, Caeredin ac Efrog. Ym 1984, cafodd arddangosfeydd yn Vaduz, Bern, Wels, Zug a Lindau. Gweithiodd ar Dŷ Hundertwasser yn Fienna, gyda Peter Pelikan. Ymweldwyd 70,000 o bobl â’r tŷ. Cafodd arddangosfa yn Amgueddfa Gaughin, Tahiti. Roddwyd Tŷ Hundertwasser i’w denantiad ym 1986. Cynlluniodd baner Uluru. Cafodd arddangosfeydd yn Brno, Prague, Sweden, Awstria, yr Almaen, y Swistir a Liechtenstein. Cynlluniodd stamp a phoster ar gyfer Gŵyl Europalia ym 1987. Cafodd arddangosfa yn Tsiecoslofacia. Ym 1988, ail-gynlluniodd Tŷ Gwresogi Spittelau yn Fienna gyda Peter Pelikan. Cwblhaodd gwaith ail-adeiladu Eglwys Sant Barbara, Bernbach, a chreuodd ysgythriad i gyfrannu at gostiau’r gwaith. Cafodd arddangosfa pensaernïaeth yn Frankfurt. Dysgodd dosbarth meistr am bensaernïaeth yn nghytgord gyda natur yn Salzburg. Dechreuodd waith adeiladu canolfan gofal dros blant yn Frankfurt. Cafodd arddangosfeydd yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, yr Almaen, y Swistir, Awstria a Siapan ym 1989. Gweithiodd fel pesaer ar brosiectau yn Awstria, yr Almaen a’r Unol Daleithiau cafodd arddangosfeydd yn Ffrainc, Awstria, Sweden ar Almaen, a darlithodd yn Wellington, Christchurch, Auckland, Blenheim a Dunedin ym 1990. Ym 1991, gerffenwyd KunstHausWien. Dechreuwyd prosiectau eraill yn Awstria a’r Almaen, a chynlluniwyd stamp ar gyfer gwasanaeth post Leichtenstein. Ym 1992, cylluniodd stamp a chardiau ffôn ar gyfer gwasanaeth post Awstria. Cafodd arddangosfeydd o’i benseiriaeth yn yr Almaen a Tokyo. Rhaglen ddogfen teledu am ei benseiriaeth. Cwblhawyd tai yn Plochingen, yr Almaenym 1993. Arddangosfeydd o’i benseiriaeth yn Fienna, Budapest a Hanover; arddangosfa gelf yn Montréal. Ym 1995, cynlluniodd 3 stamp i Luxembourg, a 3 arall i’r Cenedlaethau Unedig. Ail-gynlluniodd Gampfa Martin Luther yn Wittenberg, yr Almaen. Arddangosfa penseirniaeth yn Rotterdam a Nuremberg. Ym 1996, cafodd arddangosfeydd yn Braunschweig a Schwerin. Ail-gynlluniodd MS Vindobona ar Afon Donaw.Ym 1997, cafodd arddangosfa yn Cologne. Gweithiodd ar 366 clawr o lyfrau ar gyfer clwb llyfrau Bertelsmann. Gweithiodd yng Nghaliffornia ac Efrog Newydd. Gweithiodd ar losgwr yn Osaka, neuadd farchnad yn Altenrhein, y Swistir; dechreuodd gwaith adeiladu ar Gampfa Martin Luther, a pheintiodd yn Normandy. Cafodd arddangosfeydd ym 1998 yn Darmstadt a Siapan. Crewyd murlun seramig ar gyfer Gorsaf reilffordd Orient, Lisbon. Cynlluniodd adeiladau ar Ynys Sakishima ac yn Oska, Siapan. Ym 1999, gweithiodd ar Sitadel Gwyrdd Magdeburg a Thŷ Ronald McDonald, Essen. Ailadeiladwyd toiledi Hundertwasser, Kawakawa. Cafodd arddangosfeydd mewn amgueddfeydd yn Takamatsu, Nagoya, Kobe a Saitama.[1]

Bu farw ar long y Queen Elizabeth 2 ar 19 Chwefror 2000 a chladdwyd yn Seland Newydd.

Toiledi Hundertwasser

Ymysg ei waith yw’r Hundertwasserhaus yn Fienna a Thoiledu Hundertwasser yn Kawakawa, Seland Newydd; symudodd o i'r dref tuag at ddiwedd ei fywyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]