Toiledi Hundertwasser, Kawakawa

Oddi ar Wicipedia
Toiledi Hundertwasser
0 3060Kawakawa - Neuseeland - Hundertwassertoilette.jpg
Mathcyfleusterau cyhoeddus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Cyfesurynnau35.38006°S 174.066999°E Edit this on Wikidata
Map

Mae Toiledi Hundertwasser yn Kawakawa, Seland Newydd.

Daeth y pensaer Friedensreich Hundertwasser i Seland Newydd yn y 70au ar gyfer arddangosfa o'i waith, a phenderfynodd o brynu ail gartref yn Kawakawa.

Roedd angen toiledi cyhoeddus newydd yn y pentref ym 1998, a chynlluniodd Hundertwasser doiledi anarferol. Crëwyd y teils gan fyfyrwyr o Goleg Bae'r Ynysoedd, a daeth y brics o hen adeilad Banc Seland Newydd. Adeiladwyd y toiledi gan wirfoddolwyr lleol. Erbyn hyn mae'r toiledi'n atyniad twristiaidd[1]. Gwnaethpwyd ffenestri efo poteli lliwgar, y to efo glaswellt, ac mae coed yn tyfu trwy'r to[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Bae'r Ynysoedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-11. Cyrchwyd 2015-01-06.
  2. Gwefan atlasobscura


Oriel[golygu | golygu cod]