Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cymru
 yng Ngemau'r Gymanwlad

Baner Cymru
Codau CGF  WAL
CGG Cyngor Gemau'r Gymanwlad, Cymru
Websiteteamwales.net
2014 Gemau'r Gymanwlad
yn: Glasgow, Yr Alban
Flag bearer Agoriad:Francesca Jones[1]
Cau: Geraint Thomas[2]
Medalau
Safle: 13
Aur
5
Arian
11
Efydd
20
Cyfanswm
36
Hanes Gemau'r Gymanwlad (summary)
Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig
Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
Gemau'r Gymanwlad Brydeinig
Gemau'r Gymanwlad

Roedd 233[3] aelod yn nhîm Cymru yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yng Glasgow, yr Alban, rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst 2014.

Yr athletwr, Aled Davies, oedd capten y tîm, gyda'r gymnastwraig, Francesca Jones, yn cludo'r Ddraig Goch i'r Seremoni Agoriadol, a'r seiclwr Geraint Thomas yn ei chludo i'r Seremoni Gloi.

Casglodd Cymru cyfanswm o 36 medal - y nifer fwyaf yn hanes y Gemau - gyda Francesca Jones (gymnasteg), Natalie Powell (jiwdo), Jazz Carlin (nofio), Georgia Davies (nofio) a Geraint Thomas (seiclo) yn cipio medal aur. Francesca Jones oedd athletwraig mwyf llwyddiannus Cymru gyda chwe medal - un aur a phump arian a llwyddodd hefyd i ennill Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau[4].

Yn ogystal â Francesca Jones, llwyddodd Laura Halford a Georgina Hockenhull (gymnasteg), Jazz Carlin a Geraint Thomas i gipio mwy nag un medal. Gymnasteg oedd camp mwyaf llwyddiannus Cymru gyda deg medal ond cafwyd medal mewn 10 o'r 18 camp lle bu Cymry'n cystadlu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Griffiths, Gareth (22 Gorffennaf 2014). "Commonwealth Games 2014: Gymnast Frankie Jones named as Team Wales opening ceremony flag bearer". http://www.walesonline.co.uk/. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2014. External link in |website= (help)
  2. BBC Sport - "Glasgow 2014: Geraint Thomas chosen as Wales' flag bearer". Accessed 4 Awst 2014
  3. "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". 2014-07-04. Unknown parameter |Published= ignored (help)
  4. "Gwobr olaf y gemau yn mynd i Frankie Jones". 2014-08-04. Unknown parameter |Published= ignored (help)


Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.