Gemau Ymerodraeth Prydain 1938: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sodacan (sgwrs | cyfraniadau)
vector version available (GlobalReplace v0.6.5)
Dim crynodeb golygu
Llinell 116: Llinell 116:
{{bocs olyniaeth| cyn=[[Gemau Ymerodraeth Prydain 1934|Llundain]]| teitl= ''[[Gemau'r Gymanwlad]]'' | blynyddoedd=Lleoliad y Gemau | ar ôl=[[Gemau Ymerodraeth Prydain 1950|Auckland]] }}
{{bocs olyniaeth| cyn=[[Gemau Ymerodraeth Prydain 1934|Llundain]]| teitl= ''[[Gemau'r Gymanwlad]]'' | blynyddoedd=Lleoliad y Gemau | ar ôl=[[Gemau Ymerodraeth Prydain 1950|Auckland]] }}
{{diwedd-bocs}}
{{diwedd-bocs}}



{{Gemau'r Gymanwlad}}
{{Gemau'r Gymanwlad}}
{{Chwaraeon yng Ngemau'r Gymanwlad}}



[[Categori:Gemau'r Gymanwlad|1938]]
[[Categori:Gemau'r Gymanwlad|1938]]

Fersiwn yn ôl 20:57, 7 Ebrill 2018

Gemau Ymerodraeth Prydain 1938 oedd y trydydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 5-12 Chwefror.

Trefnwyd y gemau i gyd fynd gyda dathlu 150 mlynedd ers y sefydliad Prydeinig swyddogol cyntaf yn Awstralia.

Oherwydd y dirwasgiad a chost teithio i Awstralia, ni chafwyd cymaint o athletwyr â gafwyd yng Ngemau Llundain, 1934 ac er na chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o Hong Cong, Jamaica na Newfoundland cafwyd athletwyr o Ceylon a Ffiji am y tro cyntaf.

Cafodd cystadlaethau rhwyfo eu hychwanegu i'r Gemau ar ôl peidio cael eu cynnwys yn Llundain.

Penderfynwyd cynnal Gemau Ymerodraeth Prydain 1942 ym Montréal, Canada, a Gemau 1946 yng Nghaerdydd, Cymru ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ni chynhaliwyd y Gemau eto tan 1950.

Chwaraeon

Timau yn cystadlu

Cafwyd 15 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1934 gyda Ffiji a Ceylon yn ymddangos am y tro cyntaf a chyda Trinidad a Tobago yn cystadlu fel tîm unedig.

Tabl Medalau

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Awstralia Awstralia 25 19 22 66
2 Baner Lloegr Lloegr 15 15 10 40
3 Canada 13 16 15 44
4 De Affrica 10 10 6 26
5 Baner Seland Newydd Seland Newydd 5 7 13 25
6 Baner Cymru Cymru 2 1 0 3
7 Ceylon 1 0 0 1
8 Baner Yr Alban Yr Alban 0 2 3 5
9 Guiana Prydeinig 0 1 0 1
10 De Rhodesia 0 0 2 2
Cyfanswm 71 71 71 213

Medalau'r Cymry

Roedd 35 aelod yn nhîm Cymru.

Llwyddodd Jim Alford i dorri record y Gymanwlad wrth ennill ras y filltir mewn 4 munud 11.6 eiliad a cipiodd Denis Reardon aur yn y sgwâr bocsio. Ar y pryd roeddent yn cael eu hystyried fel y Cymry cyntaf i ennill medalau aur yn y Gemau, ond bellach, mae Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru yn ystyried medal aur Reg Thomas, Cymro ennillodd ras y filltir tra'n gwisgo fest Lloegr yn 1930, fel medal Gymreig.[1]

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Jim Alford Athletau 1milltir
Aur Denis Reardon Bocsio Pwysau canol
Arian Jeanne Greenland Nofio 100llath ar ei chefn

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Rhagflaenydd:
Llundain
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Auckland