Edward IV, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Deb (sgwrs | cyfraniadau) B cyf |
Add 1 book for Wicipedia:Gwiriadrwydd (20210922)) #IABot (v2.0.8.1) (GreenC bot |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
'''Edward IV''' ([[28 Ebrill]] [[1442]] – [[9 Ebrill]] [[1483]]) oedd brenin [[Lloegr]] o [[3 Mawrth]] [[1461]] i [[30 Hydref]] [[1470]], ac o [[4 Mai]] [[1471]] hyd ei farwolaeth. |
'''Edward IV''' ([[28 Ebrill]] [[1442]] – [[9 Ebrill]] [[1483]]) oedd brenin [[Lloegr]] o [[3 Mawrth]] [[1461]] i [[30 Hydref]] [[1470]], ac o [[4 Mai]] [[1471]] hyd ei farwolaeth. |
||
Roedd yn fab i [[Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog]]. Cafodd ei eni yn [[Rouen]], [[Ffrainc]].<ref>{{cite book |last1=Ross |first1=Charles |title=Edward IV |year=1974|publisher=University of California Press |isbn=978-0520027817|page=14|language=en}}</ref> Ei wraig oedd [[Elizabeth Woodville]]. |
Roedd yn fab i [[Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog]]. Cafodd ei eni yn [[Rouen]], [[Ffrainc]].<ref>{{cite book |last1=Ross |first1=Charles |title=Edward IV |url=https://archive.org/details/edwardiv0000ross |year=1974|publisher=University of California Press |isbn=978-0520027817|page=[https://archive.org/details/edwardiv0000ross/page/14 14]|language=en}}</ref> Ei wraig oedd [[Elizabeth Woodville]]. |
||
==Yng Nghymru== |
==Yng Nghymru== |
Fersiwn yn ôl 21:17, 22 Medi 2021
Edward IV, brenin Lloegr | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1442 Rouen |
Bu farw | 9 Ebrill 1483 Westminster |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Dug Iorc, teyrn Lloegr, teyrn Lloegr, Arglwydd Iwerddon, Arglwydd Iwerddon |
Tad | Richard o York, 3ydd dug York |
Mam | Cecily Neville, duges Efrog |
Priod | Elizabeth Woodville |
Partner | Bona o Safwy |
Plant | Elisabeth o Efrog, Mary o York, Cecily o York, Edward V, brenin Lloegr, Margaret o York, Richard o Shrewsbury, dug cyntaf York, Anne o York, George Plantagenet, dug 1af Bedford, Catherine o York, Bridget o York, Arthur Plantagenet, is-iarll 1af Lisle, Elizabeth Plantagenet, Edward de Wigmore, Grace Plantagenet |
Llinach | Iorciaid |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur |
llofnod | |
Edward IV (28 Ebrill 1442 – 9 Ebrill 1483) oedd brenin Lloegr o 3 Mawrth 1461 i 30 Hydref 1470, ac o 4 Mai 1471 hyd ei farwolaeth.
Roedd yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog. Cafodd ei eni yn Rouen, Ffrainc.[1] Ei wraig oedd Elizabeth Woodville.
Yng Nghymru
Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd castell Penfro i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôdd am ei fywyd i Iwerddon.
Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto'r Glyn gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.
Plant
- Elisabeth o Efrog
- Edward V, brenin Lloegr
- Rhisiart, dug Efrog
- Anne
- Catrin
- Cecily
- Bridget
Rhagflaenydd: Harri VI |
Brenin Lloegr 4 Mawrth 1461 – 31 Hydref 1470 |
Olynydd: Harri VI |
Rhagflaenydd: Harri VI |
Brenin Lloegr 11 Ebrill 1471 – 9 Ebrill 1483 |
Olynydd: Edward V |
Cyfeiriadau
- ↑ Ross, Charles (1974). Edward IV (yn Saesneg). University of California Press. t. 14. ISBN 978-0520027817.
|