Ffontygari: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
B Symudodd Oergell y dudalen Ffont-y-gari i Ffontygari: enw safonol yn ôl Comisiynydd y Gymraeg
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:25, 20 Tachwedd 2020

Ffont-y-gari
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.3853°N 3.3654°W Edit this on Wikidata
Cod OSST052664 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map

Pentref ger Y Rhws ar arfordir Bro Morgannwg, de Cymru, yw Ffont-y-gari (llurguniad Saesneg: Fontegary).

Gorwedd y pentref i'r de-orllewin o'r Barri ger Maes Awyr Caerdydd, prif faes awyr y wlad. I’r gogledd mae Ffwl-y-mwn a Chastell Ffwl-y-mwn.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond yn 1587, roedd e wedi ei gofnodi fel “Fundygary”.

Nid oes llawer yn y pentref bychan heblaw tai, gwersyllfa gwyliau a thraeth caregog. Ar Ddydd Sul, mae yna arwerthiant cist ceir yn y wersyllfa gwyliau. Mae chwarel segur rhwng Ffont-y-gari ac Aberddawan.

Yn 1928 roedd Ffont-y-gari yn lle poblogaidd i gael picnic, ac yn 1943, cafodd Ffont-y-gari ei ddisgrifio fel “cyrchfa haf dymunol gyda thraeth hyfryd ar gyfer ymdrochfa, yn ymyl elltydd ysgithrog sydd yn creu cefndir hyfryd - a hefyd lle cyfleus i nofiwr i newid ei ddillad.” Mae’r traeth creigiog a’r elltydd yn hynod ac mae yna ogof fawr o’r enw Ogof Ffont-y-gari. Yn y 1960au, lluniodd Francis Lymburner arfordir Ffont-y-gari yn ei luniau pen ac inc Cymreig. Aeth yr actores Susan George ar ei gwyliau yn y wersyllfa gwyliau fel plentyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[1][2]

Cyfeiriadau

Nodyn:Cyferiadau

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014