Ffontygari
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.3853°N 3.3654°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref ger Y Rhws ar arfordir Bro Morgannwg, de Cymru, yw Ffontygari (llurguniad Saesneg: Fontegary).
Gorwedd y pentref i'r de-orllewin o'r Barri ger Maes Awyr Caerdydd, prif faes awyr y wlad. I’r gogledd mae Ffwl-y-mwn a Chastell Ffwl-y-mwn.
Mae tarddiad yr enw yn ansicr, ond yn 1587, roedd e wedi ei gofnodi fel “Fundygary”.
Nid oes llawer yn y pentref bychan heblaw tai, gwersyllfa gwyliau a thraeth caregog. Ar Ddydd Sul, mae yna arwerthiant cist ceir yn y wersyllfa gwyliau. Mae chwarel segur rhwng Ffont-y-gari ac Aberddawan.
Yn 1928 roedd Ffont-y-gari yn lle poblogaidd i gael picnic, ac yn 1943, cafodd Ffont-y-gari ei ddisgrifio fel “cyrchfa haf dymunol gyda thraeth hyfryd ar gyfer ymdrochfa, yn ymyl elltydd ysgithrog sydd yn creu cefndir hyfryd - a hefyd lle cyfleus i nofiwr i newid ei ddillad.” Mae’r traeth creigiog a’r elltydd yn hynod ac mae yna ogof fawr o’r enw Ogof Ffont-y-gari. Yn y 1960au, lluniodd Francis Lymburner arfordir Ffont-y-gari yn ei luniau pen ac inc Cymreig. Aeth yr actores Susan George ar ei gwyliau yn y wersyllfa gwyliau fel plentyn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[1][2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Aberogwr · Aberddawan · Aberthin · Y Barri · Y Bont-faen · City · Corntwn · Clawdd Coch · Dinas Powys · Eglwys Fair y Mynydd · Ewenni · Ffont-y-gari · Gwenfô · Larnog · Llanbedr-y-fro · Llancarfan · Llancatal · Llandochau · Llandochau Fach · Llandŵ · Llanddunwyd · Llan-faes · Llanfair · Llanfihangel-y-pwll · Llanfleiddan · Llangan · Llansanwyr · Llanilltud Fawr · Llwyneliddon · Llyswyrny · Marcroes · Merthyr Dyfan · Ogwr · Penarth · Pendeulwyn · Pen-llin · Pennon · Pen-marc · Y Rhws · Sain Dunwyd · Saint Andras · Sain Nicolas · Sain Siorys · Sain Tathan · Saint-y-brid · Y Sili · Silstwn · Southerndown · Tair Onnen ) Trebefered · Trefflemin · Tregatwg · Tregolwyn · Tresimwn · Y Wig · Ystradowen
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014