Tiwnis

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tunis)
Neidio i: llywio, chwilio
Tiwnis (تونس)
Tunis Place de la Victoire.JPG
Tunisia tunis gov.jpg
Lleoliad
Gwlad Baner Twnisia Twnisia
Ardal Talaith Tiwnis
Llywodraeth
Awdurdod Rhanbarthol Dinas
Daearyddiaeth
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 728,455 (Cyfrifiad 2004)
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser UTC+1

Tiwnis[1] (Arabeg: تونس, Tiŵ-nis) yw prifddinas a dinas fwyaf Tiwnisia. Fe'i lleolir ar lannau Llyn Tiwnis yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Mae Tiwnis Fwyaf yn cynnwys nifer o faerdrefi poblog ar lan Gwlff Tiwnis, gan gynnwys Carthage a Sidi Bou Saïd, ac ar y bryniau isel i'r dwyrain a'r de o'r ddinas ei hun. Rhennir y ddinas yn ddwy ran. Y medina yw'r hen ddinas gaerog a nodweddir gan strydoedd cul a rhai o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth traddodiadol yn y wlad. O'i chwmpas ceir y Ville Nouvelle, y rhan newydd o'r ddinas a noddweddir gan strydoedd llydan, pensaernïaeth Ffrengig, a siopau a chaffis canoldirol. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y ddwy Diwnis hyn - yr Arabaidd a'r Ewropeaidd - yn rhan o swyn a chymeriad y ddinas. Mae tua 728,455 (2004) o bobl yn byw ynddi (amcangyfrifir poblogaeth o tua 1.5 neu hyd at 2 filiwn ar gyfer Tiwnis Fwyaf).

Hanes[golygu]

Mae Tiwnis wedi bodoli ers cyfnod dinas Carthage a'r Ffeniciaid. Credir fod yr enw yn ffurf ar enw Tanit, prif dduwies y Carthageniaid. Ceir yr enw (Tynes) ar fapiau o'r 5ed ganrif CC. Ond lle digon di-nod oedd Tiwnis mewn cymhariaeth â Carthage ei hun. Ar ôl cwymp y ddinas enwog honno i'r Rhufeiniaid ceir bwlch yn hanes Tiwnis. Pan ddaeth yr Arabiaid i Diwnisia a chipio Carthage o ddwylo'r Ymerodraeth Fysantaidd yn 695 penderfynodd Hassan bin Nouman adeiladau ar safle Tiwnis yn hytrach na Carthage. Mae sefydlu'r medina yn dyddio o gyfnod Hasan. Cloddiwyd camlas i'w gysylltu â Llyn Tiwnis i'r dwyrain. Yn 732 codwyd mosg ysblennydd Zitouna yng nghanol y medina.

Yn y nawfed ganrif symudodd y rheolwr Ffatimid Ibrahim ibn Ahmed II ei lys o Kairouan i Diwnis a ddaeth yn brifddinas y wlad am gyfnod byr. Symudwyd y brifddinas i Mahdia ond adferwyd statws Tunis ar ôl i'r Almohadiaid gwncweru Gogledd Affrica yn 1160. Roedd y cyfnod dan reolaeth yr Haffsidiaid (1229 - 1574) yn oes aur i'r ddinas. Treblodd y boblogaeth a chodwyd nifer o fosgiau, medresau a souqs. Sefydlwyd prifysgol ym Mosg Zitouna a oedd ymhlith yr enwocaf yn y byd Islamaidd.

Dioddefodd y ddinas yn yr ymgiprys am rym rhwng rheolwyr Otomanaidd Tiwnisia a Sbaen pan ddinistiwyd rhannau o'r ddinas a diorseddwyd yr Haffsidiaid. Dan reolaeth Sinan Pasha, a gipiodd y ddinas yn 1574, dechreuodd Tiwnis flodeuo eto. Ymsefydlodd nifer o ffoaduriaid Islamaidd o Andalucia - y Morisgiaid - yno a daeth ton arall o ffoaduriaid o Iddewon o ardal Livorno yn Yr Eidal hefyd i osgoi erledigaeth grefyddol.

Syrthiodd Tiwnis i feddiant Ffrainc yn 1881. Yn ystod y saith ddegawd nesaf codwyd nifer o adeiladau ganddynt a chreuwyd y Ville Nouvelle ar batrwm grid rhwng y medina a Llyn Tiwnis. Erbyn heddiw y 'ddinas newydd' yw calon y brifddinas.

Lleoliad[golygu]

Delwedd lloeren yn dangos Tiwnis a Llyn Tiwnis

Mae'r ddinas yn gorwedd ar wddw o dir dyrchafedig rhwng llyn hallt Sebkhet Nejoumi i'r gorllewin a Llyn Tiwnis i'r dwyrain. O'r sgwâr deniadol wrth y fynedfa i'r medina, a elwir Place de la Victoire, mae stryd llydan hir Avenue Habib Bourguiba yn ymestyn am dros hanner milltir trwy ganol y Ville Nouvelle. Roedd y gamlas a gloddiwyd yn nyddiau Hassan bin Nouman yn rhedeg ar hyd safle'r stryd cyn i'r Ffrancod ei llenwi. Avenue Habid Bourguiba yw canol y ddinas. Ceir nifer o fanciau, caffis stryd canoldirol a gwestai yno. O'i phen dwyreiniol mae morglawd dros Lyn Tiwnis yn cludo ffordd a rheilffordd y TGM i La Goulette a Gwlff Tiwnis.

Atyniadau a diwylliant[golygu]

Y brif atyniad dwristaidd yn Nhiwnis yw'r medina gaerog sy'n labyrinth o strydoedd cul, siopau bach o bob math, ardaloedd dosbarth gweithiol, medresau, souqs, a mosgiau; mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Fe'i rhennir yn ardaloedd a enwir fel rheol ar ôl sant, souq neu fosg. Yng ngogledd y ddinas newydd ceir Amgueddfa'r Bardo, un o'r lleoedd gorau yn y byd i weld mosaigs Rhufeinig. Mae' parciau yn cynnwys y Belvedere a'i sŵ yn y gogledd.

Mosg Zitouna, Tiwnis

Ar Avenue Habib Bourguiba mae Eglwys Gadeiriol St Vincent a St Paul yn adeilad Ffrengig newydd-Othig trawiadol. O flaen y gadeirlan ceir cerflun o'r hanesydd canoloesol arloesol Ibn Khaldoun. Ar y rhodfa hefyd ceir y Theatr Ddinesig a Place 7 Novembre a'i ffynnon. Ond ar y cyfan nid yw Tiwnis yn ddinas dwristaidd. Mae twristiaid paced yn aros yn y trefi glan môr yng nghanolbarth y wlad a'r de ac felly mae'r ddinas wedi cadw ei chymeriad brodorol a'i diwylliant unigryw sy'n ymdroi o gwmpas y caffis pafin niferus.

Yn y ddinas fwyaf, a elwir weithiau Tiwnis Fwyaf, mae lleoedd o ddiddordeb yn cynnwys safleoedd archaeolegol Carthage, porthladd a thref glan môr La Goulette, Sidi Bou Saïd a'i phensaernïaeth Andalwsaidd a La Marsa i'r gogledd, ar Gwlff Tiwnis a'r Môr Canoldir. I'r dwyrain, i gyfeiriad gorynys Cap Bon, mae Hammam Lif ar lan y gwlff yn boblogaidd gan ddinesyddion Tiwnis fel lle i ymdrochi ac ymlacio.

Cludiant[golygu]

Gwasanaethir Tiwnis gan rwydwaith o gludiant cyhoeddus sydd ymhlith y gorau yn Affrica. Mae tramiau yn rhedeg i nifer o leoedd yn y ddinas ac ar ei gyrion. Mae Rheilffordd y TGM yn cysylltu Tiwnis a maerdref bell La Marsa, gan alw yn nhair gorsaf Carthage a lleoedd eraill ar ei ffordd. Ceir rheilffordd faerdrefol sy'n rhedeg o Diwnis ar hyd glan ddeheuol Gwlff Tiwnis i Rades, Hammam Lif a threfi eraill. Mae nifer fawr o fysus a tacsis yn rhedeg yn y ddinas yn ogystal. O'r orsaf yng nghanol y ddinas mae trenau'n cysylltu Tiwnis â Beja a Jendouba yn y gogledd-orllewin a Hammamet, Sousse a Sfax yn y de. Gwasanaethir Tiwnis gan Maes Awyr Tiwnis-Carthage, prif faes awyr rhyngwladol y wlad.

Lluniau eraill[golygu]

Rhai lluniau o hen giatiau Tunis. Mae Bab yn golygu giât mewn Arabeg .

Gefeilldrefi[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]