La Marsa

Oddi ar Wicipedia
La Marsa
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth92,987 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiwnis Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.8764°N 10.3253°E Edit this on Wikidata
Cod post2070 Edit this on Wikidata
Map
La Marsa

Mae La Marsa (Arabeg: المرسى‎ al-Marsa) yn dref arfordirol yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia tua 20 km i'r gogledd-ddwyrain o'r brifddinas Tiwnis (36°52′60″Gog, 10°19′60″Dw). Mae ganddi boblogaeth o tua 65,742 (2006). Er iddi ddechrau ei dyddiau fel tref ar wahân fe'i hystyrir bellach yn rhan o Diwnis Fwyaf.

Mae La Marsa yn gorwedd ar ben gogleddol Rheilffordd y TGM, sy'n ei chysylltu â Thiwnis ei hun. Gyda'i chymdogion Sidi Bou Saïd ac ardal Carthago mae'n un o'r trefi mwya dethol a chyfoethog yn y wlad ac mae prisiau tai yn uchel. Mae ganddi ddau draeth eang, tywodlyd, sy'n boblogaidd gan drigolion Tiwnis haf a gaeaf. Rhed y corniche (rhodfa'r môr) ar hyd y traeth gorllewinol.

Y tu draw i'r corniche ceir ardal dra-ddethol Gammarth gyda gwestai pum seren a filas cyffelyb. Yma roedd llywodraeth y Diwnisia gyn-drefedigaethol yn arfer symud yn yr haf, i osgoi gwres llethol y brifddinas. Mae llawer o'r adeiladu yn dyddio o'r cyfnod Ffrengig. Ceir sgwâr tawel gyda mosg yng nghanol y dref, ger yr orsaf TGM.

I'r gogledd-orllewin o La Marsa ceir llyn hallt Sebkha er-Riana. Mae Maes Awyr Tiwnis-Carthago yn gorwedd hanner ffordd rhwng La Marsa a'r brifddinas.

Golygfa banoramig ar lan môr La Marsa o gyfeiriad Gammarth, gyda bryn Sidi Bou Saïd yn y pen draw