Almohadiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tiriogaeth yr Almohadiaid yn ne Sbaen a'r Maghreb yn 1210

Brenhinllin Berberaidd a reolai'r Maghreb yng Ngogledd Affrica a de Sbaen (al-Andalus) yn ail hanner yr unfed ganrif ar ddeg a hanner cyntaf y ddeuddegfed oedd yr Almohadiaid. Ei phrif ddinasoedd oedd Marrakech (Moroco) a Seville (al-Andalus) ond reodd Algiers, Tiwnis a Kairouan yn y dwyrain yng nghanolfannau pwysig yn ogystal.

Mae eu henw'n tarddu o'r gair Arabeg al-muwahiddun ('credadwyr mewn Undod Duw') ac mae'n adlewyrchu ymagwedd biwritanaidd y mudiad diwygiadol a arweiniwyd ym Moroco gan Ibn Tumart (c.1080 - 1130), sylfaenwr y frenhinllin.

Ymladdodd Ibn Tumart yn erbyn y Almorafidiad o 1114 ymlaen a sefydlodd ei bencadlys yn Tinmal ym mynyddoedd Atlas. Llwyddodd ei olynydd y Califf Abd al-Mu'min (1130/33 - 1163) i oresgyn y Maghreb benbaladr, gan gynnwys Moroco, Algeria, Tiwnisia a Libia, erbyn 1160, ynghyd ag al-Andalus (1146-1154). Cyrhaeddodd yr Almohadiaid uchafbwynt eu grym yn nheyrnasiad Abu Ya'qub Yusuf (1163 - 1184) a'i olynydd Abu Yusuf Ya'qub al-Mansur neu al-Mansur ('Y Buddugoliaethus': 1184-1199). Blodeuodd ddysg a rhoddid nawdd i ysgolheigion fel Averroes.

Ond daeth tro ar fyd. Collodd Muhammad an-Nasir (1199 - 1213) dir yn Sbaen yn 1212 ar ôl brwydr Las Navas de Tolosa. Cododd y rheolwyr Mwslim lleol y gwladwriaethau taifa yn al-Andalus yn eu herbyn hefyd yn 1213, am resymau crefyddol a gwleidyddol. Yn Nhiwnisia daeth yr Hafsidiaid i rym yn 1229 a'r Abd al-Wadidiaid yn Algeria. Rheolodd gyfres o galiffiaid am gyfnodau byr. Syrthiodd yr Almohadiaid yn ôl ar eu cadarnleoedd ym Moroco ac ymrannodd y frenhinllin yn ddau. Rhwng 1244 a 1269 collodd yr Almohadiaid eu grym a chymerodd brenhinllin y Merinidiaid drosodd yn eu lle yng ngorllewin y Maghreb.

Califfiaid Muwahhadi (Almohad), 1145–1269[golygu]