Madrasa

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Medresa)
Madrasa
Mathysgol grefyddol, adeilad ysgol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysDarul Uloom Waqf, Deoband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Dau o'r tri madrasa yn y Registan, Samarcand: ar y chwith Madrasa Ulugh Begh (1420); ar y de Madrasa Tilla Kari (1660)

Math o ysgol Islamaidd yw'r madrasa (Arabeg : مدرسة madrasa, yn y Maghreb medersa (ll. madaris), Twrceg medrese, Perseg : مدرسه madreseh; 'man darllen, canolfan dysg', 'ysgol neu goleg'). Mae'n ysgol gyhoeddus, agored i bawb, ar gyfer astudio dysg Islamaidd, y Coran a'r gyfraith (Sharia). Yn ogystal datblygodd fel canolfan dysg fwy seciwlar yn yr Oesoedd Canol, gyda mathemateg, meddygaeth, llenyddiaeth a'r iaith Arabeg (neu/a'r iaith Berseg) yn cael ei dysgu fel rhan o gwrs astudio pedair blynedd.

Datblygodd y madrasau tua dechrau'r wythfed ganrif. Yn wreiddiol roedd y madrasau'n rhan o'r mosg ei hun, ond o'r 11g ymlaen, yn Iran i ddechrau, dechreuwyd codi adeiladau pwrpasol er mwyn i'r athrawon a'i disgyblion fyw ac astudio dan yr un to. Y fisier Seljuk Nizam al-Mulk (1018 - 1092) oedd y cyntaf i sefydlu adeiladau colegol o'r fath.

Ffynhonnell[golygu | golygu cod]

  • Markus Hattstein a Peter Delius (gol.), Islamic Art and Architecture (Argraffiadau Könemann, 2004)