Llyfrgell Genedlaethol Tiwnisia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y mynediad i Lyfrgell Genedlaethol Tiwnisia

Llyfrgell Genedlaethol Tiwnisia (Arabeg: المكتبة الوطنية التونسية ; Ffrangeg: Bibliothèque nationale de Tunisie) yw prif storfa gyfreithiol a hawlfraint Tiwnisia.

Sefydlwyd y llyfrgell yn Nhiwnis ym 1885 fel y Bibliothèque francaise ('Llyfrgell Ffrengig'). Newidwyd yr enw a chreu llyfrgell genedlaethol swyddogol ar ôl i Diwnisia ennill ei hannibyniaeth ar Ffrainc ym 1956. Yn 2005 symudodd o'r hen adeilad ym medina Tiwnis i adeilad newydd ar Boulevard 9 avril, ger Archifdy Cenedlaethol Tiwnisia. Cafodd yr adeilad newydd ei agor yn swyddogol gan Zine El Abidine Ben Ali, Arlywydd Tiwnisia, ar 1 Rhagfyr 2005.[1]

Llyfrau a llawysgrifau[golygu]

Mae adran llawysgrifau'r llyfrgell yn cynnwys dros 40,000 teitl mewn 24,000 cyfrol. Dyma un o'r casgliadau llawysgrifau Arabeg mwyaf yn y byd sy'n cynnwys sawl cyfrol brin iawn ac sy'n rhychwantu tua 14 can mlynedd o ddysg, gwyddoniaeth a llenyddiaeth Arabaidd.[2]

Mae'r adran llyfrau printiedig yn cynnwys llyfrau o'r 16eg ganrif hyd heddiw ar sawl pwnc. Llyfrau Arabeg a Ffrangeg yw'r rhan fwyaf o'r rhain, ond ceir cyfrolau mewn tua hanner cant o ieithoedd eraill hefyd.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Flag of Tunisia-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.