Kairouan
Oddi ar Wicipedia
Mosg Mawr Kairouan a'i finaret
Dinas yng nghanolbarth Tunisia yw Kairouan (Arabeg: القيروان al-Qayrawān). Mae'n brifddinas talaith Kairouan ac yn un o'r dinasoedd hynaf yn y Maghreb. Roedd y boblogaeth yn 2003 tua 150,000.
Mae Kairouan yn enwog am ei mosg mawr, a adwaenir hefyd fel Mosg Sidi Oqba, er anrhydedd Uqba bin Nafi a sefydlodd Kairouan ac a gododd y mosg gyntaf ar y safle yn y flwyddyn 670. Ystyrir y ddinas yn ddinas sanctaidd gan ddilynwyr Islam; mae'r Sunni yn ei gosod yn bedwaredd ar ôl Mecca, Medina a Jeriwsalem.
Dynodwyd Kairouan yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1988.