Ben Arous (talaith)
Talaith yng ngogledd Tunisia yw talaith Ben Arous. Mae'n gorwedd i'r de-ddwyrain o ddinas Tunis, prifddinas y wlad, gan ffinio â thalaith Zaghouan i'r de a Cap Bon i'r dwyrain. Ei phrifddinas yw Ben Arous, un o faesdrefi Tunis, ar gwr gorllewinol y dalaith, sy'n cael ei chyfrif gan amlaf yn rhan o ardal Tunis Fwyaf.
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw yn ardal dinas Ben Arous ei hun neu ar yr arfordir lle ceir sawl tref ar lan Gwlff Tunis, yn cynnwys Er Zahra, Hammam Lif a Borj El Cedra; mae'r trefi glan môr hyn yn gyrchfan poblogaidd gan drigolion Tunis, yn enwedig ar y penwythnos. Ceir traethau braf a nifer o fwytai ond does dim datblygiadau ar gyfer twristiaeth ryngwladol yno. Dominyddir y dirwedd gan fynydd Bou Kornine (576 m), sy'n rhan o gadwyn fawr Dorsal Tunisia.
Yn yr wythdegau lleolwyd pencadlys y PLO yn Ben Arous, ar gyrion Hammam Lif.
Rhed y rheilffordd sy'n cysylltu Tunis a Sfax a thaleithiau de Tunisia trwy'r dalaith. Y brif ffordd yw'r GN1, traffordd fwyaf Tunisia.
| Taleithiau Tunisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan | |