Kairouan (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Talaith Kairouan yn Nhiwnisia

Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Kairouan. Mae'n gorwedd yng ngogledd canolbarth y wlad, gan ffinio ar daleithiau Siliana a Zaghouan i'r gogledd, Sousse a Mahdia i'r dwyrain, a Sidi Bou Zid a Sfax i'r de. Kairouan, un o'r dinasoedd hynaf yn y Maghreb, yw prifddinas y dalaith a'r ddinas fwyaf.

Mae'r dalaith yn gorwedd rhwng y Sahel i'r dwyrain a'r de, bryniau'r Dorsal i'r gogledd, ac ucheldir agored y Tell i'r gorllewin. Dyma grud Islam yn Nhiwnisia a'r Maghreb; oddi yma yr ymledodd y ffydd i'r gorllewin. Mae Kairouan yn enwog am ei mosg mawr.

Dinasoedd a threfi[golygu]


Taleithiau Tiwnisia Baner Tiwnisia
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan
Flag of Tunisia-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.