Gabès (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Talaith yn ne Tunisia yw talaith Gabès. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir ar Gwlff Gabs. Ei phrifddinas yw Gabès.
Dominyddir y dalaith gan wastadedd Arad ger yr arfordir, lle ceir tir ffrwythlon a sawl gwerddon, ond mae'r tir yn troi'n fwy anial wrth fynd i gyfeiriad y de a'r gorllewin, lle mae'r anialwch yn dechrau.
Dinas Gabès yw prif ganolfan y dalaith. Mae'n ddinas ddiwydiannol ac yn gartref i safle petrogemegol mawr.
Nodweddir y bryniau isel ar odre'r anialwch gan sawl tref a phentref bychan, yn cynnwys Matmata gyda'i chartrefi ogofaol wedi'u creu yn y graig.
Dinasoedd a threfi [golygu]
- Chenini Nahal
- El Hamma
- Ghannouch (Ghanoosh)
- Mareth
- Matwiya
- Matmâta
- Menzel el Habeeb
- Métouia
- Nouvelle Matmata
- Oudhref
- Widthreff
- Zarat
| Taleithiau Tunisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan | |