Ariana (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Talaith yng ngogledd Tunisia yw talaith Ariana. Mae'n gorwedd i'r gogledd o ddinas Tunis ar lan Môr y Canoldir. Ei phrifddinas yw Ariana, ar gwr deheuol y dalaith, sy'n cael ei chyfrif gan amlaf yn rhan o ardal Tunis Fwyaf.
Rhed y rheilffordd sy'n cysylltu Tunis a Bizerte trwy'r dalaith. Oherwydd prinder dŵr, nid yw'r tir yn arbennig o ffrwythlon ond tyfir grawnfwydydd fel gwenith yn y meysydd mawr agored yng nghefn gwlad y dalaith, sy'n codi tua'r gorllewin a'r gogledd i rhagfryniau mynyddoedd y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir gogledd Tunisia i'r ffin ag Algeria, ger Tabarka.
Lleolir dinas Utique, safle dinas hynafol Utica, un o chwaer-ddinasoedd Carthago'r Ffeniciaid, yng nghwr gogledd-orllewinol Ariana.
[golygu] Dinasoedd a threfi
| Taleithiau Tunisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan | |